Llythyr: sector bancio
Llythyr gan Jeremy Miles, MS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg at y sector bancio.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
At sylw Penaethiaid gwasanaethau bancio yng Nghymru,
Yn ddiweddar, bu i mi dderbyn sawl darn o ohebiaeth gan aelodau’r cyhoedd yn ymateb i benderfyniad HSBC i ddiddymu eu gwasanaeth ffôn Cymraeg. Mae fy ymateb i bob gohebiaeth wedi bod yn gyson; sef bod y newyddion yn hynod o siomedig a fy mod yn ymrwymedig i gynyddu’r defnydd o’n hiaith. Mae hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac yn ganolog i’n strategaeth, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr.
Mae gan Lywodraeth Cymru Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Yn y Memorandwm, mae maes bancio yn gyfrifoldeb i’r Comisiynydd. Er hynny, rwy’n awyddus iawn i gefnogi’r Comisiynydd trwy gysylltu â chi i bwysleisio’r pwysigrwydd o ddarparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i’ch cwsmeriaid.
Gwn bod llawer o waith arbennig o dda yn cael ei wneud eisoes dros y Gymraeg ar draws canghennau a gwasanaethau Cymru gyfan, felly yn gyntaf hoffwn ddiolch i chi am sicrhau fod y Gymraeg yn weledol yn eich gwasanaethau ac eich bod yn parhau i wasanaethu pobl Cymru gyda chynnig rhagweithiol dwyieithog. Er hynny, mae gennym dal waith i wneud er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ac i’w diogelu ar gyfer cwsmeriaid a dinasyddion y dyfodol.
Mae tîm hybu Comisiynydd y Gymraeg ar gael i gefnogi’r sector i ddefnyddio a chynyddu’r Gymraeg o fewn y sector, felly rwy’n eich annog i gysylltu â nhw am gymorth pellach. Bydd y Comisiynydd yn parhau i weithio’n agos gyda’r maes bancio yn ystod y flwyddyn i wneud y canlynol:
- Cynnal perthynas rhagweithiol â’r banciau a chymdeithasau adeiladau
- Trefnu ymweliad gyda phenaethiaid ac uwch swyddogion banciau a chymdeithasau adeiladu yn ystod 2024
- Cynnwys gwybodaeth ar eu gwefan yn nodi pa wasanaeth Gymraeg sydd ar gael gan ba fanc a chymdeithas adeiladu a diweddaru hwn yn flynyddol
Hoffwn dynnu eich sylw hefyd at wasanaeth cyfieithu testun a phrawf ddarllen, Helo Blod. Mae tîm Helo Blod ar gael i gefnogi busnesau yng Nghymru i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg, felly cysylltwch â nhw am sgwrs bellach.
Comisiynydd y Gymraeg: post@cyg-wlc.cymru / www.comisiynyddygymraeg.cymru
Helo Blod: busnescymru.llyw.cymru/heloblod / 03000 258888
Diolch i bawb sydd eisoes yn gwneud gwaith gwych dros y Gymraeg yn y sector hwn, a diolch yn arbennig i bawb sy’n awyddus i ddatblygu eu gwasanaethau Cymraeg ar gyfer y dyfodol.
Yn gywir
Jeremy Miles MS
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg