Neidio i'r prif gynnwy

Ein cyf/Our ref DC/JH/10272/24

Jane Hutt AS/MS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y
Trefnydd a'r Prif Chwip
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip 

Lynne Neagle AS/MS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Cabinet Secretary for Education

14 Tachwedd 2024

Annwyl Susan a Lindsay, 

Diolch am eich llythyr, dyddiedig 4 Hydref, mewn perthynas â phenderfyniad Cymwysterau Cymru i atal datblygu TGAU Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru am y tro, ac am eich cynnig i gyfarfod i drafod ymhellach. 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi BSL ac i hybu'r defnydd o'r iaith yng Nghymru, gwybodaeth amdani ac arbenigedd ynddi. Ein bwriad yw cynllunio a datblygu polisi sy'n sicrhau'r effaith gadarnhaol fwyaf ar gyfer cymuned arwyddo BSL Cymru, gan wneud darpariaethau i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL a'i ffurfiau cyffyrddol, a chael gwared ar y rhwystrau iaith presennol. Credwn y gallwn gael effaith bendant drwy gydweithredu a bod yn gynhwysol, ac rydym am ddiolch i Gymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru a Signature am ymgysylltu â swyddogion wrth iddynt barhau i helpu i lywio datblygiadau polisi. 

Mae Cymru yn teimlo'n falch - yn gywir felly - o'r ffaith mai hi yw'r wlad gyntaf yn y DU i gynnwys BSL yn ei chwricwlwm ochr yn ochr â Chymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill. Rydym wedi gweithio gydag ymarferwyr BSL ac arbenigwyr eraill, gan gynnwys aelodau o'r gymuned fyddar, i ddatblygu canllawiau ar gynllunio cwricwlwm sy'n cynnig dilyniant mewn BSL ar gyfer arwyddwyr, yn ogystal â chanllawiau i ysgolion sy'n dewis cyflwyno BSL fel ail neu drydedd iaith, neu iaith ddilynol. 

I gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru, mae Cymwysterau Cymru, fel ein rheoleiddiwr annibynnol ar gymwysterau (hyd at lefel gradd), yn gyfrifol am arwain rhaglen Cymwys ar gyfer y Dyfodol i ddiwygio cymwysterau 14-16. Cyfrifoldeb Cymwysterau Cymru, felly, yw penderfynu pryd y dylid cyflwyno unrhyw gymwysterau newydd; nid penderfyniad i Lywodraeth Cymru yw hwn. 

Er ein bod yn deall eich siom ynghylch penderfyniad Cymwysterau Cymru i atal datblygu TGAU BSL am y tro, mae'n bwysig nodi'r cymhlethdodau a godwyd ganddynt wrth ddod i'r penderfyniad hwn. Yn ystod y broses ddatblygu pan fu Cymwysterau Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, Cyngor Cymru i Bobl Fyddar, academyddion astudiaethau iaith arwyddion a byddardod, cynrychiolwyr ymarferwyr, a darparwyr hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod a chymorth BSL yng Nghymru, nodwyd nifer o heriau yr oedd angen mynd i'r afael â nhw er mwyn gwneud y cymhwyster newydd yn llwyddiant. Roedd hyn yn cynnwys diffyg storfa ar-lein swyddogol neu 'eiriadur' ar gyfer BSL yng Nghymru; a'r diffyg gweithlu addysgu cymwysedig ar gyfer BSL. Barnwyd bod yr heriau hyn yn creu risgiau sylweddol i gyflwyno'r cymhwyster arfaethedig yn llwyddiannus. 

Mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau y byddant yn parhau i ddatblygu unedau BSL fel rhan o gymhwyster newydd y Gyfres Sgiliau, a fydd ar gael o 2027. Drwy'r cymhwyster newydd hwn, bydd dysgwyr yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu BSL ymarferol er mwyn rhyngweithio'n gymdeithasol mewn lleoliadau bob dydd. Bydd yr unedau BSL (o lefel mynediad i lefel 2) yn cynnig ffordd ddiddorol i ddysgwyr arddangos eu sgiliau BSL. Bydd yr unedau yn fwy hylaw i ysgolion na TGAU llawn ac yn addas ar gyfer addysgu peripatetig, gan wneud defnydd da o'r gweithlu athrawon presennol. 

Bydd y dull hwn yn caniatáu i Cymwysterau Cymru fonitro'r nifer sy'n manteisio ar yr unedau hyn a, dros amser, ystyried a ddylid ehangu'r cynnig cymwysterau 14-16 ymhellach, a allai gynnwys TGAU BSL Gwneud-i-Gymru. Bydd modd iddynt hefyd gynnig y TGAU BSL sy'n cael ei ddatblygu yn Lloegr ar hyn o bryd gan Ofqual i ysgolion a dysgwyr Cymru, fel bod TGAU BSL ar gael i ddysgwyr Cymru a Lloegr ar yr un pryd. 

Gan mai penderfyniad gan Cymwysterau Cymru oedd hwn, os hoffech gyfarfod i drafod hyn ymhellach, byddai'n fwy priodol ichi drafod gyda nhw yn y lle cyntaf. Mae ein swyddogion wedi rhannu eich pryderon penodol gyda Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Gweithredol Diwygio Cymwysterau o fewn sefydliad Cymwysterau Cymru, a fyddai'n hapus i gyfarfod â chi i drafod yn fanylach, gan gynnwys ar ba sail y maent wedi dod i'r penderfyniad hwn, a'r camau nesaf wrth iddynt barhau â'r gwaith o ddatblygu unedau BSL ar gyfer y Gyfres Sgiliau. Pe baech yn teimlo ei bod o fudd ichi gwrdd â ni yn dilyn y cyfarfod hwnnw, cysylltwch â ni drwy DSCSSJTCW@llyw.cymru.

Yn gywir, 

Image

Jane Hutt AS/MS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Cabinet Secretary for Social Justice, Trefnydd and Chief Whip

Image

Lynne Neagle AS/MS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Cabinet Secretary for Education