Neidio i'r prif gynnwy

Owain Gethin Davies
Cadeirydd
Adnodd Cyfyngedig

Annwyl Gethin,

 Senedd Cymru bellach wedi cymeradwyo'r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2024 i 2025, mae’n bleser gennyf ddarparu manylion eich trefniadau cyllid.

Ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025, gallaf gadarnhau mai cyfanswm arian parod Cymorth Grant Adnodd fydd £1,630,338. Derbyniodd Adnodd gyllideb dangosol o £2,070,000 ar gyfer 2024 i 2025. Yn dilyn trafodaethau rhwng Adnodd a’r Tîm Partneriaeth yn cytuno na fydd grantiau a chytundebau presennol Llywodraeth Cymru yn trosglwyddo yn syth i Adnodd, ond yn hytrach dros gyfnod o amser, bydd peth arian yn aros gyda Llywodraeth Cymru i wneud y taliadau hyn.

Fel arfer, bydd y gyllideb adnoddau a’r Cymorth Grant arian parod yn wahanol. Gan fod Adnodd yn dal i fod yn ei ddyddiau cynnar, nid yw’r wybodaeth sydd ei hangen i rannu’r angen ariannol o’r gyllideb adnoddau ar gael eto. Felly, yn unol â threfniant ariannu 2023 i 2024, mae’r dyfarniad ariannu cychwynnol yn seiliedig ar y Cymorth Grant arian parod yn unig. Wrth i’r wybodaeth hon ddod ar gael yn ystod y flwyddyn, bydd y dyfarniad ariannu yn cael ei rannu rhwng y gyllideb adnoddau a’r Cymorth Grant arian parod mewn unrhyw lythyrau ariannu dilynol.

Mae grŵp strategol o Ddirprwy Gyfarwyddwyr wedi ei sefydlu o fewn y Grŵp Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg i weithio gyda a chefnogi Adnodd i gyrraedd ei nod o sicrhau adnoddau addysgol dwyieithog i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a’i gymwysterau. Gall hyn arwain at ryddhau arian ychwanegol i Adnodd yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Cytunir ar unrhyw arian ychwanegol drwy’r Tîm Partneriaeth a’i gadarnhau mewn llythyrau ariannu dilynol.

Telerau ac Amodau’r Cyllid

Mae’n ddisgwyliedig bod defnydd Adnodd o’r arian a ddyrannwyd iddynt ar gyfer 2024 i 2025 yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2023-26 fel ag yr amlinellwyd yn y llythyr cylch gwaith.

Fel y trafodwyd gyda’r Tîm Partneriaeth, dylai Adnodd ffocysu ar yr amcanion penodol isod yn 2024 i 2025 o fewn y blaenoriaethau strategol ehangach y cytunwyd arnynt.

1. Datblygu Amcanion Corfforaethol Adnodd

  • Sicrhau bod gan Adnodd y capasiti a’r gallu angenrheidiol yng nghyd-destun llywodraethiant corfforaethol a gwasanaethau.
  • Recriwtio a phenodi tîm parhaol o staff.
  • Cefnogi staff newydd yn llwyddiannus gyda chynefino a hyfforddiant, a darparu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i weithio o bell, yn cynnwys offer TGCh.
  • Datblygu, lansio a chynnal gwefan gorfforaethol i Adnodd.

2. Sicrhau bod adnoddau perthnasol ac amserol a deunyddiau ategol ar gael yn Gymraeg a’r Saesneg, ar yr un pryd, i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a’i gymwysterau

  • Datblygu a defnyddio model comisiynu cychwynnol i dargedu blaenoriaethau cynnar y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru.
  • Derbyn contractau a grantiau presennol y dyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru, a rheoli’r berthynas â pherchnogion y contractau/grantiau hyd nes iddynt ddod i ben (gweler Amserlen Trosglwyddo a Thaliadau).
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru, CBAC, a rhanddeiliaid allweddol eraill i adnabod a chomisiynu’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y cymwysterau TGAU newydd.

3. Darparu fframwaith sicrhau ansawdd ar gyfer comisiynu, datblygu a chynhyrchu adnoddau, gan sicrhau bod yr adnoddau a ddatblygwyd yn cyd-fynd ag ethos ac egwyddorion craidd Cwricwlwm i Gymru, ac yn addas i’r diben

  • Gweithio gyda rhanddeiliaid i gyd-greu a threialu trefniadau arfaethedig ar gyfer sicrhau ansawdd fel eu bod yn:
    i. Adlewyrchu canllawiau Llywodraeth Cymru (a gafodd datblygu ar y cyd a’u cyhoeddi yn 2022) ar gyfer dylunio a datblygu adnoddau a deunyddiau ategol
    ii. Alinio â bwriadau’r Cwricwlwm i Gymru
    iii. Cael eu hadolygu a’u cadw’n gyfamserol a pherthnasol

4. Datblygu’r hyrwyddo, yr ymwybyddiaeth a’r defnydd effeithiol o adnoddau

  • Manylir ar amcanion penodol ar gyfer y flanoriaeth hon mewn llythyrau ariannu yn y dyfodol.

5. Datblygu a buddsoddi mewn sgiliau a’r gallu i greu greu, rhannu a chyhoeddi adnoddau addysgol yng Nghymru

  • Manylir ar amcanion penodol ar gyfer y flanoriaeth hon mewn llythyrau ariannu yn y dyfodol.

Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd rhwng Tîm Partneriaeth Llywodraeth Cymru a chydweithwyr Adnodd fel ag y nodir yn Nghytundeb Fframwaith Adnodd.

Dylid hawlio cyllid drwy ddefnyddio’r ddogfennaeth a ddarparwyd gan y Tîm Partneriaeth.

Edrychaf ymlaen at gydweithio ag Adnodd a dilyn eich cynnydd dros y flwyddyn i ddod.

Yn gywir,

Lynne Neagle AS/MS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Cabinet Secretary for Education