Mae Prif Swyddog Nyrsio Cymru wedi ymuno ag eraill mewn swyddi uwch yn y genedl i ddiolch i nyrsys sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Mae’r Athro Jean White wedi llofnodi’r llythyr agored, sydd hefyd yn annog pobl sydd wedi gadael nyrsio yn ystod y pum mlynedd diwethaf i ailymuno i helpu i ofalu am bobl sy’n dioddef o’r coronafeirws.
Mae’r llythyr yn cael ei gyhoeddi wrth i bobl ym mhob rhan o Gymru ddod ynghyd y tu allan i’w drysau unwaith eto i gymeradwyo’r gofalwyr, gan ddangos eu diolchgarwch i bawb sy’n darparu gwasanaethau hanfodol.
Bydd cestyll, pontydd a henebion cenedlaethol eraill yn cael eu goleuo heno wrth i Gymru ddweud diolch.
Hyd yma, mae bron i 600 o nyrsys wedi dod yn ôl i weithio yn y GIG a gofal cymdeithasol yn dilyn ymgyrch recriwtio genedlaethol i ddenu pobl a oedd eisoes wedi gadael eu gyrfaoedd.
Mae’r llythyr agored wedi’i lofnodi gan yr Athro White ynghyd â Sue Evans, prif weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, Andrea Sutcliffe, prif weithredwr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac Albert Heaney, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Mae’n nodi:
Mae sgiliau, cefndir, a phrofiad pawb yn hynod bwysig inni, ond rydym yn ysgrifennu heddiw i gydnabod yn arbennig y gwaith diflino y mae cydweithwyr fel chi yn ei gyflawni yn y sector gofal cymdeithasol.
Mae gan gydweithwyr yn y maes nyrsio a gofal rôl hanfodol i’w chwarae yn y gwaith o fodloni anghenion gofal cymhleth miloedd o bobl bob dydd. Diolch ichi am barhau i weithio mor galed i gefnogi’r bobl yr ydych yn gofalu amdanynt yn ystod yr argyfwng hwn.
Rydym yn gwybod bod COVID-19 wedi dod â heriau sylweddol i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, a hoffem eich sicrhau nad yw eich pryderon wedi cael eu hanghofio.
Byddwn yn parhau i eirioli ar eich rhan mewn perthynas â materion megis cynnal profion a sicrhau bod gennych ddigon o gyflenwadau PPE, ac ynglŷn â phwysigrwydd cefnogi nyrsys yn eu rolau clinigol ac arwain.
Rydym yn diolch o galon ichi am bopeth yr ydych yn ei wneud. Rydym ninnau, ynghyd â’r miloedd o bobl a theuluoedd yr ydych yn gwneud gwahaniaeth iddynt, yn gweld ac yn gwerthfawrogi eich holl waith anhygoel. Gyda chymorth y rheini sy’n dychwelyd i weithio yn y maes gofal cymdeithasol, gallwn i gyd sicrhau bod pawb yn cael y gofal a’r cymorth y maent yn eu haeddu.