Neidio i'r prif gynnwy

Llythyr agored at benaethiaid gan Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae bron i flwyddyn yn ôl, gyda chalon drom, ers imi benderfynu cau ysgolion yng Nghymru.

Fel Llywodraeth yr ydym bob amser wedi dweud mai ysgolion fyddai’r olaf i gau a’r cyntaf i agor, pan fyddai’r dystiolaeth yn dangos ei bod yn ddiogel gwneud hynny.

Ond mae gennym rywfaint o obaith erbyn hyn. Mae cyfraddau trosglwyddo cymunedol COVID-19 yn llawer is nag ym mis Ionawr, pan benderfynais beidio ag ailagor dysgu wyneb yn wyneb heblaw am blant gweithwyr hanfodol, plant sy'n agored i niwed, ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion, ac mae'r holl ddangosyddion eraill yn mynd i'r cyfeiriad cywir.

Heddiw, mae ein Grŵp Cynghori Technegol, gwyddonwyr a swyddogion iechyd cyhoeddus sy'n cynghori'r Llywodraeth, wedi cyhoeddi papur lle maent yn cynghori bod y gwelliant yn sefyllfa iechyd y cyhoedd yn ein galluogi i ystyried "dychwelyd yn rhannol ac yn raddol i ddysgu wyneb yn wyneb mewn ysgolion".

Mae ein Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton hefyd wedi cyhoeddi datganiad yn cadarnhau "gyda Rt yn is na 1 ar hyn o bryd, dylai unrhyw hyblygrwydd ganolbwyntio ar ddychwelyd plant ysgol gynradd yn raddol, sydd â risg is o haint, ac yna plant ysgol uwchradd, mewn carfannau bach a defnyddio dull dysgu cyfunol".

Hoffwn ddiolch i'r holl weithlu addysg am eu gwaith caled a'u hymroddiad parhaus yn y cyfnod ansicr a phryderus hwn. Yn benodol, mae'r gwelliant mewn addysgu ar-lein yn ystod y cyfnod clos yma wedi bod yn amlwg i rieni a dysgwyr ledled Cymru.

Fodd bynnag, gwyddom fod dysgu o bell yn galetaf i'n dysgwyr ieuengaf, sy'n colli allan ar y sylfeini hanfodol ar gyfer eu dysgu a'u datblygiad.

Mae tystiolaeth gref bod plant a phobl iau yn llawer llai agored i glefyd clinigol difrifol na phobl hŷn. Rydym yn gwybod o ddadansoddiad galwedigaethau y SYG (Saesneg yn unig) ar 25 Ionawr fod cyfraddau marwolaeth o ganlyniad i COVID-19 yn is ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol yn eu cyfanrwydd nag ar gyfer pobl o'r un oed a rhyw yn ehangach.

Yn seiliedig ar gyngor ein Grŵp Cynghori Technegol, ein Prif Swyddog Meddygol, ac ymgysylltu a thrafod parhaus â'n Awdurdodau Lleol a'n Hundebau Addysg, rwyf wedi penderfynu y byddwn, o 22 Chwefror, yn dechrau dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb fesul cam ar gyfer dysgwyr y Cyfnod Sylfaen (plant 3 – 7 oed).

Bydd rhywfaint o hyblygrwydd dros yr wythnos gyntaf hon, gyda'r holl Ddysgwyr Sylfaen (gan gynnwys y rhai mewn lleoliadau nas cynhelir) yn yr ysgol erbyn diwedd yr wythnos honno. Y tro cyntaf i rai o'n dysgwyr ieuengaf brofi am y tro cyntaf y pleser o wisgo i fyny ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.

Rwy'n gwybod bod llawer ohonoch chi yn ogystal â rhieni/gofalwyr a dysgwyr eisiau sicrwydd na fydd angen cau ysgolion eto. Ni allaf roi'r sicrwydd hwnnw ichi. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw y gallwn, wrth fod yn ofalus a mabwysiadu dull graddol, fonitro effaith agor i ddysgu wyneb yn wyneb ar drosglwyddo a chyfraddau staff yn ogystal â phlant a pharhau i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth.

Bydd penderfyniad ar gyflwyno fwy o blant i ddysgu wyneb i wyneb yn cael eu hystyried fel rhan o'r adolygiad 21 diwrnod nesaf ar 19 Chwefror pan fydd gennym fwy o fanylion am unrhyw newidiadau.

Bydd disgwyl o hyd i ysgolion ddarparu addysg i blant sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol, a dylai ysgolion arbennig ac UCDau barhau i fod ar agor lle y bo'n bosibl.

Ysgolion diogel

Gwn y gallai llawer yn y proffesiwn fod yn bryderus, yn enwedig o wrando ar newyddion am amrywiolion newydd o COVID-19.

Mae ein Prif Swyddog Meddygol yn cadarnhau bod tystiolaeth yn awgrymu bod ysgolion wedi llwyddo i ddarparu amgylcheddau diogel i blant ac athrawon.

Mae TAG hefyd yn cadarnhau mai'r mesurau ataliol mwyaf effeithiol yw rhai y mae ysgolion eisoes wedi'u rhoi ar waith, ond maent wedi gwneud argymhellion i gryfhau'r mesurau lliniaru presennol yng ngoleuni'r amrywiolion newydd.

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau gweithredol wedi'u diweddaru yn gynnar yr wythnos nesaf yn seiliedig ar argymhellion TAG, gan gynnwys defnyddio gorchuddion wyneb o ansawdd uchel ar gyfer staff lle na ellir cadw pellter cymdeithasol a grwpiau cyswllt. Caiff hyn ei ariannu gan £5 miliwn ychwanegol i ysgolion.

Bydd ysgolion a lleoliadau yn cael cynnig profion llif ochrol i'r holl staff ddwywaith yr wythnos. Cesglir y rhain gan staff a'u defnyddio gartref er mwyn nodi achosion asymptomatig cadarnhaol yn rheolaidd ac yn gyflym. Ynghyd â chadw pellter cymdeithasol a mesurau eraill a roddwyd ar waith gan ysgolion a lleoliadau, bydd hyn yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd oedolion yn lledaenu'r feirws yn ddiarwybod.

Yr wyf hefyd yn falch o gyflymder ein rhaglen frechu a fydd yn gweld pob un o'r pedwar grŵp blaenoriaeth, gan gynnwys y rhai sy'n darparu gofal personol i'r rhai sy'n agored iawn i niwed yn glinigol yn ein hysgolion arbennig, yn cael cynnig brechiadau erbyn diwedd mis Chwefror.

Er mwyn cadw'r trosglwyddo'n isel wrth i ni gymryd camau cyntaf gofalus byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a'n hundebau i atgyfnerthu negeseuon Cadwch Gymru'n Ddiogel fel bod rhieni/gofalwyr yn parhau i fod yn wyliadwrus gan gynnwys cadw pellter wrth gatiau'r ysgol, peidio â chaniatáu plant i aros dros nos gyda teuluoedd eraill neu gymysgu y tu allan i'r ysgol, a pheidio ag anfon plant i'r ysgol os oes ganddynt symptomau neu os ydynt wedi profi'n bositif am COVID-19.

Diolch o galon

Kirsty Williams AS/MS
Y Gweinidog Addysg
Minister for Education

COVID-19: sesiwn dystiolaeth gwyddonol ac iechyd y cyhoedd ar gyfer penaethiaid ysgolion cynradd