Neidio i'r prif gynnwy

Mae Alun Elidyr Edwards a Glyn Davies wedi'u penodi i ddwy swydd lysgenhadol newydd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch ar ffermydd ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Llysgenhadon newydd yn hyrwyddo gwaith Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru – partneriaeth gydweithredol o brif sefydliadau rhanddeiliaid amaethyddol sy’n cydweithio i helpu i ostwng y nifer annerbyniol o ddamweiniau a marwolaethau sy’n digwydd pob blwyddyn ar ffermydd ledled Cymru.

Mae gan y ddau Lysgennad brofiad helaeth o ffermio ac maent yn awyddus i rannu eu gwybodaeth i fusnesau fferm eraill er mwyn gwneud ffermydd yng Nghymru yn fwy diogel a lleihau'r perygl o ddamweiniau.

Cafodd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru £46,000 yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i dynnu sylw at y peryglon sy'n gysylltiedig â ffermio ac i gynnig cyngor iechyd a diogelwch ac arweiniad i ffermwyr.

Mae 388 o bobl wedi eu lladd tra'n gweithio ar ffermydd Prydain yn y deg mlynedd diwethaf, tra bod nifer wedi dioddef anafiadau difrifol a salwch yn gysylltiedig â gwaith.

Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae diwydiannau eraill megis adeiladu a chwarela wedi gwella eu cofnodion diogelwch yn sylweddol, ond nid yw ffermio heb gwneud hynny, rydych bellach chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eich lladd ar fferm nag y byddech ar safle adeiladu.

Dywedodd Glyn Davies,

“Rwy’n falch iawn o gael bod y Llysgennad Diogelwch ar Ffermydd a chael helpu i ledaenu’r neges am iechyd a diogelwch ar y fferm.”

Dywedodd Alun Elidyr Edwards,

“Diogelwch ar y fferm yw’r ystyriaeth bwysicaf un, ac rwy’n edrych ymlaen at chwarae fy rhan fel aelod o Bartneriaeth Diogelwch ar Ffermydd Cymru i helpu unigolion a busnesau i leihau nifer y damweiniau ar ffermydd.”

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig,

"Dwi'n falch bod Alun a Glyn wedi cytuno i dderbyn swyddi Llysgenhadon ar gyfer yr ymgyrch bwysig hon. Mae gan y ddau brofiad helaeth o ffermio ac mae ganddynt swyddogaethau amlwg yn y sector eisoes: Mae Glyn yn fentor iechyd a diogelwch Cyswllt Ffermio ac mae Alun yn Ffermwr a cyflwynydd ar raglen Ffermio S4C."

“Mae'r Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn chwarae rhan allweddol i helpu i leihau y nifer annerbyniol o ddamweiniau difrifol a marwolaethau sy'n digwydd ar ffermydd ledled Cymru bob blwyddyn.”