Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau

Mae'r newidiadau a restrir isod o ganlyniad i’r stormydd ynghynt eleni, a’r mesurau i fynd i’r afael â’r pandemig coronafeirws (COVID-19).

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi rhoi’r cyfle i ‘Aelod-wladwriaethau’ estyn dyddiad cau’r SAF i 15 Mehefin, o ganlyniad i COVID-19.

O ganlyniad, y dyddiad cau newydd ar gyfer yr SAF yng Nghymru yw 15 Mehefin.

Dyma’r dyddiadau sydd wedi cael eu newid:
 

Dyddiad     Digwyddiad
15 Mai 2020 Cyfnod Trosglwyddo a Lesio Hawliau BPS ar gyfer 2020 yn cau.
15 Mehefin 2020 Dyddiad cau ar gyfer derbyn SAF 2020 heb gosb.
15 Mehefin 2020 Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ddogfennol i gefnogi hawliadau o dan SAF 2020 heb gosb.
30 Mehefin 2020 Y diwrnod olaf ar gyfer gwneud diwygiadau ac ychwanegiadau at dir a ddatganwyd ar SAF 2020 (heb gosb).
10 Gorffennaf 2020 Y diwrnod olaf ar gyfer derbyn SAF 2020 (yn ddarostyngedig i gosbau am fod yn hwyr). Bydd pob SAF a dderbynnir ar ôl 10 Gorffennaf yn cael ei gwrthod.
10 Gorffennaf 2020 Derbynnir tystiolaeth ddogfennol ategol sy’n cyrraedd rhwng 16 Mehefin a 10 Gorffennaf, ond rhoddir cosb ariannol. Ni ellir derbyn unrhyw dystiolaeth ddogfennol ategol ar ôl 10 Gorffennaf.
20 Gorffennaf 2020

Y diwrnod olaf ar gyfer ymateb i’r llythyr ‘Gwiriadau Cychwynnol: Nodweddion Parhaol a Chaeau Dwbl’ heb gosb.

Dylech roi gwybod i ganolfan cyswllt cwsmeriaid RPW ar unwaith:

  • os nad ydych yn gallu cael mynediad i fand eang
  • os nad ydych yn gallu cael mynediad at gyfrifiadur priodol

i gyflwyno'r SAF ar-lein erbyn y dyddiad cau newydd.

Gall y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid a’r Gwasanaeth Cyswllt Ffermio eich arwain chi drwy’r broses. Gwelwch hefyd y Canllawiau ar gwblhau'r SAF.

Tyfu Amrywiaeth o Gnydau

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi dileu unrhyw rwymedigaethau i Dyfu Amrywiaeth o Gnydau ar gyfer 2020.

O ganlyniad, cewch anwybyddu’r holl gyfeiriadau at y Canllawiau ar Dyfu Amrywiaeth o Gnydau a Gwyrddu. Bellach nid yw’n ofynnol i ffermwyr yng Nghymru gydymffurfio â’r gofynion i Dyfu Amrywiaeth o Gnydau, gan fod y gofynion Dau Gnwd a Thri Chnwd wedi cael eu dileu.

Pan fyddwch yn cwblhau’r SAF, mae’n bosibl y bydd y rhybuddion ynghylch Tyfu Amrywiaeth o Gnydau yn ymddangos, ond cewch anwybyddu’r rhain. Mae dileu’r gofyniad i Dyfu Amrywiaeth o Gnydau yn golygu nad oes angen bellach gyflwyno labeli hadau gyda’ch SAF i fodloni’r gofyniad hwnnw.

Mae pob rhybudd arall ynghylch yr SAF yn parhau i fod yn berthnasol, a gallai eu hanwybyddu gael effaith ar eich taliad.

Caiff cwsmeriaid BPS barhau i fod yn gymwys ar gyfer taliad Gwyrddu ar sail datganiadau o dir bori parhaol ac Ardal â Ffocws yn unig. Mae’n bwysig nodi bod y gofynion Ardal â Ffocws Ecolegol yn parhau i fod yn berthnasol, fel y’u hamlinellir yn Llyfryn Rheolau'r SAF

Trosglwyddo a lesio

O ganlyniad i estyn y dyddiad cau ar gyfer yr SAF, penderfynwyd estyn y cyfnod ar gyfer trosglwyddo hawliau BPS hefyd. Bellach gellir trosglwyddo hawliau’r BPS tan hanner nos ar 15 Mai 2020.

Cyfeiriwch at y canllawiau ar Drosglwyddo Hawliau'r BPS i gael gwybodaeth am sut i hysbysu Llywodraeth Cymru ynghylch Trosglwyddo Hawliau.

SAF 2020: dogfennau ategol

Rhaid i’r holl ddogfennau ar gyfer SAF 2020 gael eu cyflwyno erbyn y dyddiad cau newydd ar 15 Mehefin 2020.

Bydd RPW yn derbyn yr holl ddogfennau ategol ar gyfer SAF 2020 drwy RPW Ar-lein, gan gynnwys ffotograffau â geotag, a ffotograffau a sganiau o ddogfennau.

Dylech hysbysu RPW gan ddefnyddio RPW Ar-lein neu’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar unwaith os nad ydych yn gallu cyflwyno unrhyw ddogfennau ategol erbyn y dyddiad cau.

Drwy wneud hyn, byddwch yn cael cyflwyno’r dogfennau hyn nad ydych yn gallu eu lanlwytho ar ôl dyddiad cau newydd ar 15 Mehefin 2020.

Os nad ydych yn hysbysu RPW y byddwch yn cyflwyno dogfennau ar ôl dyddiad cau, ni fydd y dogfennau hyn yn cael eu hystyried yn rhan o’ch cais.