Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn yr ydym yn ei wneud i gefnogi a rhoi cyngor i weithwyr proffesiynol yn y sector llyfrgelloedd ac archifau, a'r rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau llyfrgelloedd ac archifau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwella a chydnabod ansawdd

Rydym yn rhan o'r Cynllun Achredu Archifau yn y DU. Mae'r bartneriaeth hon rhwng Yr Archifau Gwladol a sefydliadau archif eraill yn y DU. Rydym yn rheoli'r cynllun yng Nghymru, felly cysylltwch â ni cyn ichi wneud cais.

Pob blwyddyn, rydym yn gofyn i awdurdodau lleol anfon gwybodaeth atom ynghylch eu llyfrgelloedd cyhoeddus. Rydym yn defnyddio yr wybodaeth ac yn rhoi sgôr iddynt, yn ogystal â dweud wrthynt sut y mae angen iddynt wella. Rydym yn cyhoeddi adroddiadau yr awdurdodau lleol ar eu llyfrgelloedd.

Rydym yn comisiynu gwaith ymchwil ar faterion sy'n cael effaith ar lyfrgelloedd, archifau, a'r cyhoedd. Mae'r rhain yn cynnwys adolygiad arbenigwr o lyfrgelloedd cyhoeddus, ac adroddiad ar ddyfodol y gwasanaethau llyfrgell. Rydym hefyd wedi adrodd ar ymddiriedolaeth annibynnol a llyfrgelloedd cymunedol.

Cymorth ariannol

Mae grantiau cyllid cyfalaf ar gael i lyfrgelloedd ac archifau, yn yr un ffordd ag i amgueddfeydd. Mae'r cronfeydd ar gyfer gwella yr adeiladau a'r seilwaith presennol.

Casgliad y Werin Cymru

Rydym yn cefnogi'r archif ar-lein unigryw hwn o ddarluniau, recordiadau a dogfennau. 

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Rydym yn ariannu Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd â chasgliad mawr o lyfrau, ffilmiau, ffotograffau a chelf. Mae ganddi hefyd gasgliadau arbennig ar Gymru yn y rhyfel, meddyginiaeth a iechyd, a David Lloyd George. Mae ar agor i'r cyhoedd ac mae nifer o eitemau wedi'u digideiddio.

Dod o hyd i'ch llyfrgelloedd lleol

Dewch o hyd i wefan eich llyfrgelloedd lleol.