Neidio i'r prif gynnwy

Llyfr Oriau o'r bymthegfed ganrif a chofnodion Mona and Parys Mines Co. Ltd. yw dau o’r trysorau archif a ddiogelwyd gan Lywodraeth Cymru eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd cyfanswm o chwe sefydliad yn elwa o'r cyllid cadwraeth.  Bydd y prosiectau llwyddiannus hefyd yn cynnwys cofnodion morgludiant gan Archifau Ynys Môn; cofnodion y 41fed Gatrawd yn  Amgueddfa Gatrodol y Cymry Brenhinol yn Aberhonddu; Archif Barbier wedi'i gadw ym Mhrifysgol Caerdydd; a'r map ystad o'r ddeunawfed ganrif o gasgliadau Archifau Powys.

Mae'r cyllid hwn yn rhan o ddyraniad o dros £41,000 gan Lywodraeth Cymru /Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Cenedlaethol i ddiogelu eitemau na all y cyhoedd eu gweld ar hyn o bryd gan eu bod yn rhy fregus, ac i sicrhau y byddant ar gael i fyfyrwyr, ymchwilwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.  Cafodd cyllid ychwanegol ar gyfer y prosiectau hyn ei ddarparu gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwrisitaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

"Mae'r bartneriaeth hon, a sefydlwyd yn 2008, wedigolygu bod modd gweld eitemau a chasgliadau o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol ledled Cymru. Mae prosiectau eleni yn dangos gwerth eang ein treftadaeth archifol, o drysorau wedi'u haddurno megis Llyfr Oriau Castell Powys, i gofnodion ein gorffennol diwydiannol yng Ngogledd Cymru."

"Dwi'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru, unwaith eto, wedi gallu cynnig cymorth i gadw'r deunydd hwn, a dwi'n ddiolchgar i Ymddiriedolwyr NMCT ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston am eu cefnogaeth ar gyfer prosiectau cadwraeth archifol yng Nghymru."

Dywedodd yr Athro David McKitterick, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth:

"Dwi wrth fy modd y bydd amrywiaeth cystal o gasgliadau pwysig yn cael eu cadw, diolch i gefnogaeth NMCT, Llywodraeth Cymru a haelioni Ymddiriedolaeth Colwinston. Mae ein partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru wedi gweld buddsoddiad o bron i £300,000 ar gyfer cadwraeth treftadaeth ysgrifenedig Cymru ers 2008 - ac mae y cyfan bellach ar gael i'r cyhoedd diolch i'n cymorth ni."