Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pob ysgol yng Nghymru yn cael copi o'r llyfr Hanes yn y Tir er mwyn rhoi goleuni pellach ar hanes Cymru i ddisgyblion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd ysgolion yn cael copïau Cymraeg a Saesneg o'r llyfr â darluniau, a ysgrifennwyd gan y Dr Elin Jones, sy'n gyn-athrawes.

Mae'r llyfr yn cyflwyno'n weledol hanes Cymru dros gyfnod o 5,000 o flynyddoedd, ac yn trafod hanes Cymru o gyfnod y gymdeithas a'r aneddiadau cynharaf hyd at heddiw, gan ddefnyddio mapiau a darluniau i edrych ar bwyntiau pwysig yn ein gorffennol ac ar draws cymunedau. Mae'r llyfr yn esbonio'r ffordd y mae tirwedd Cymru wedi'i llunio gan ei hanes.

Rhoddir y llyfr i ysgolion ar ddechrau 2022 fel rhan o gyfres o gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd er mwyn cefnogi'r gwaith o addysgu hanes Cymru yn y cwricwlwm newydd o ddechrau blwyddyn academaidd 2022/23.

Mae gwella'r ffordd y caiff hanes Cymru ei addysgu yn un o'r ymrwymiadau a nodwyd yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, ac mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu adnoddau addysgu newydd i egluro natur amrywiol a chymhleth y wlad.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Rydyn ni am sicrhau bod pob disgybl yn deall hanes ein gwlad erbyn iddo adael yr ysgol – nid y digwyddiadau mawr yn unig, ond hanes bywydau a phrofiadau pobl a chymunedau o bob cwr o Gymru.

“Mae Hanes yn y Tir yn llwyddo i ddod â hanes cyfoethog Cymru yn fyw, a bydd yn adnodd addysgu rhagorol ar gyfer ein cwricwlwm newydd.”

Dywedodd Elin Jones:

"Mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi'r pwysigrwydd priodol i gynefin y disgyblion, eu hardal leol, ac i hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth. Nod y llyfr yw helpu pobl ifanc i ddeall sut mae hanes wedi ffurfio tirwedd Cymru a sut mae cliwiau i hanes eu cynefin i'w gweld yn y pethau sydd o'u cwmpas, fel adeiladau ac enwau lleoedd.

“Gobeithiaf y bydd plant ac athrawon fel ei gilydd yn mwynhau'r llyfr ac y bydd yn gymorth i ddod a hanes cymhleth Cymru'n fyw, yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi".

Dywedodd Sian Gwenllian, aelod dynodedig arweiniol Plaid Cymru dros y Cytundeb Cydweithio:

"Wrth i stori genedlaethol Cymru ddod yn rhan orfodol o'r cwricwlwm, mae darparu gwaith arloesol y Dr Elin Jones ar gyfer pob ysgol yng Nghymru yn ddatblygiad positif.

"Mae addysgu hanes Cymru yn rhan annatod o sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn deall gorffennol, presennol a dyfodol eu cenedl. Bydd yr adnodd ychwanegol hwn yn helpu i sicrhau bod cwricwlwm Cymru yn gynhwysfawr a bod athrawon yn cael eu cefnogi'n ddigonol wrth ei gyflwyno."

Lawrlwythiadau

Hanes yn y Tir