Neidio i'r prif gynnwy

Y ffigurau ar gyfer nifer yr ymweliadau dydd a wnaethpwyd yng Nghymru yw’r arwydd cyntaf bod misoedd poblogaidd haf 2016 wedi bod yn llwyddiant i dwristiaeth yng Nghymru.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Arolwg Ymweliadau Dydd Prydain Fawr a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y 12 mis diwethaf, tan fis Gorffennaf 2016, yn dangos bod 86.9 miliwn o ymweliadau dydd â Chymru, gyda gwariant cysylltiedig o £3 biliwn. Mae nifer yr ymweliadau wedi cynyddu 13.4% o gymharu â’r 12 mis blaenorol, tra bod y swm sydd wedi’i wario wedi cynyddu 14%.

Hefyd, mae’r gwariant fesul ymweliad bellach yn uwch yng Nghymru na Phrydain yn gyffredinol, gyda gwariant o £35 ar gyfartalaedd fesul ymweliad â Chymru, o gymharu â £3 fesul ymweliad ledled Prydain.  

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:   

“Mae twristiaeth yng Nghymru yn perfformio’n dda ac mae’r diwydiant yn ôl ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed o 10% o dwf gwirioneddol o ran enillion ymwelwyr sy’n aros erbyn 2020.  Mae’r twf hwn yn cynnal swyddi a gwerth ychwanegol i economi Cymru ac rydym bellach yn anelu at gynnal y lefelau hyn.  

“Mae’r arolwg o ymweliadau dydd hyd at ddiwedd Gorffennaf yn rhoi cipolwg defnyddiol inni fel un ffordd o fesur perfformiad twristiaeth, ac mae’n newyddion da bod cynnydd mor fawr wedi ei nodi ar gyfer un o’r misoedd prysuraf yn ystod yr haf.  Mae’r adborth answyddogol yn awgrymu fod y diwydiant wedi cael haf prysur.  Wrth gwrs, mae’r gwaith o farchnata Cymru yn parhau drwy gydol y flwyddyn wrth inni weithio i ddenu pobl i Gymru ar gyfer gwyliau yn ystod yr hydref a’r gaeaf.”