Mae Peter Brett Associates, mewn partneriaeth â Beaufort Research a Loxley Consultancy, wedi cynnal gwerthusiad terfynol o Brosiect Atgyfnerthu Rheilffyrdd y Cymoedd.
Mae Peter Brett Associates, mewn partneriaeth â Beaufort Research a Loxley Consultancy, wedi cynnal gwerthusiad terfynol o Brosiect Atgyfnerthu Rheilffyrdd y Cymoedd a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Menter gan Lywodraeth Cymru yn bennaf oedd prosiect Atgyfnerthu Rheilffyrdd y Cymoedd a'i nod oedd sicrhau gwell gwasanaethau ar goridorau rheilffordd allweddol (Glynebwy yn bennaf) sy'n cysylltu'r Cymoedd â Chaerdydd. Cyfanswm cost y prosiect oedd £22,674,978, a derbyniwyd grant gwerth £8,478,945 gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Dechreuodd y gwaith ar y prosiect ar 1 Ebrill 2008 a daeth i ben ar 30 Ebrill 2011.
Roedd dwy elfen benodol ynghlwm wrth y gwerthusiad ac ystyriwyd ailagor Llinell Glynebwy ym mis Chwefror 2008 rhwng Parcffordd Glynebwy a Chaerdydd Canolog, a hefyd ddarparu cerbydau ychwanegol er mwyn darparu gwell gwasanaethau ar adegau prysur ar y llinellau canlynol: o Ferthyr Tudful i Aberdâr, Pen-y-bont ar Ogwr i Ynys y Barri, Treherbert i Gaerdydd Canolog a Rhymni i Gaerdydd Canolog.
Cafodd llinell Glynebwy ei hailagor er mwyn lleihau defnydd pobl o geir - ac yn benodol deithiau gyrrwr yn unig - ei gwneud hi'n haws i bobl fanteisio ar gyfleoedd gwaith a gwasanaethau allweddol a hefyd leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr niweidiol ar ffyrdd drwy gynnig gwell gwasanaethau trên yn ystod amseroedd teithio prysur.
Mae prif gasgliadau'r adroddiad yn dangos bod Prosiect Atgyfnerthu Rheilffyrdd y Cymoedd wedi cyflawni'r canlynol:
- cynnydd o 19% mewn capasiti ar rwydwaith rheilffyrdd y Cymoedd
- cynnydd o 88% yn nifer y teithiau ar drên rhwng y cartref a'r gwaith rhwng 2001 a 2011
- gostyngiad blynyddol o 14 miliwn o gilometrau ffordd
- gwell ansawdd aer
- gwerth tua £1 miliwn o fanteision economaidd gros y flwyddyn
- trawsnewid mynediad at y farchnad swyddi,
- hwyluso datblygiadau tai newydd yng Nglynebwy a Thŷ-du
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Roeddwn i'n hapus iawn i glywed bod yr adroddiad hwn wedi dod i'r casgliad bod ein cyllid ar gyfer ailagor Llinell Glynebwy wedi rhoi hwb sylweddol i economi Glynebwy. Mae'r adroddiad yn cyfiawnhau buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Cymru yn yr ardal dros sawl blwyddyn ac mae'n sicr yn enghraifft bwysig o'r modd y mae datganoli wedi cael effaith bositif ar y gymuned leol a'i heconomi.
"Daw'r adroddiad i'r casgliad mai dyma'r union fath o brosiect a ddylai gael ei ddatblygu o dan syniad y Metro ac mae'n enghraifft o arfer orau o safbwynt lle y gall buddsoddiad penodol gan y Llywodraeth mewn seilwaith gefnogi datblygiad economaidd ac adfywiad ehangach.
"Mae pob prosiect trafnidiaeth yn anelu at gyflawni sawl nod - maent bob amser yn ffordd o hwyluso a galluogi pecyn ehangach o fentrau polisi drwy wella mynediad at farchnadoedd. Yn fwy na thebyg ni fyddai'r cynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr ar drenau ar draws y De-ddwyrain wedi digwydd heb gyflwyno gwell gwasanaeth.
"Fel y nodwyd yr wythnos ddiwethaf, hoffem greu rhwydwaith trafnidiaeth sy'n rhoi blaenoriaeth i bobl a busnesau - system fodern a chwbl gydnerth er budd pobl Cymru."