Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni Hi Tech Turf o Lannau Dyfrdwy yn wynebu dyfodol disglair. Mae'r cwmni wedi tyfu'n raddol dros y ddwy flynedd ar ddeg ddiwethaf ac maent wedi bod yn rhan o rai prosiectau mawr yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae pencadlys Hi Tech Turf o fewn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy a'u prif waith ar hyn o bryd yw cyflenwi a gosod cynhyrchion glaswellt artiffisial o'r radd flaenaf. Ymysg y cwmnïau sydd wedi prynu eu glaswellt mae Surf Snowdonia yn Nolgarrog. Cafodd y glaswellt ei osod o flaen y podiau gwersylla sydd ar y safle.

Maent hefyd wedi darparu glaswellt ar gyfer prosiectau eraill amrywiol gan gynnwys Clwb Pêl-droed Tottenham Hotspur, yr Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol, Siop Lyfrau Foyles ar y South Bank yn Llundain a pharc carafanau Traeth Talacre.

Ymwelodd Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru â lleoliad y busnes yn ddiweddar i glywed mwy am eu llwyddiant a'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd:

"Gwych yw gweld busnesau fel Hi Tech Turf yn llwyddo ac ehangu. Maent yn darparu cynnyrch rhagorol ac mae'n wych clywed eu bod wedi bod yn rhan o brosiectau mor amrywiol â Surf Snowdonia a'r South Bank yn Llundain.

"Mae busnesau fel hyn yn rhan allweddol o economi Cymru ac mae angen i ni ddathlu eu llwyddiant. Mae Llywodraeth Cymru'n darparu cymorth y gall busnesau fanteisio arno, ac mae hyn yn cynnwys gwasanaeth Busnes Cymru sy'n cynnig pwynt cyswllt unigol.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld Hi Tech Turf yn mynd o nerth i nerth."