Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd ymgyrch ryngwladol ei lansio Marchnad Teithio’r Byd (World Travel Market) ar gyfer denu mwy o ymwelwyr tramor â Chymru, ac fe gafodd yr ymgyrch groeso cynnes gan drefnwyr teithiau rhyngwladol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cam cyntaf rhaglen ddeng mlynedd yw’r ymgyrch ‘Ffordd Cymru’ sy’n cynnwys tri llwybr teithio prydferth ar draws ein tirwedd odidog, gan arddangos hanes rhyfeddol, arfordiroedd ac atyniadau Cymru. 

Ffordd Cymru yw’r enw cyffredinol ar gyfer y tri llwybr cyntaf sy’n dathlu atyniadau a phrofiadau twristiaeth allweddol sydd ar hyd Ffordd Gogledd Cymru, Llwybr y Lli a Llwybr Cambria. 

Dywedodd Ken Skates,  Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: 

“Ffrwyth yr ymrwymiad i ddatblygu llwybr diwylliannol ar hyd yr A55 yn y Gogledd, a oedd yn ein maniffesto, yw Ffordd Cymru. 

"Bellach, mae gennym dri llwybr sy’n dathlu diwylliant, cefn gwlad ac arfordir Cymru ac yn adlewyrchu themâu Blwyddyn Antur 2016, Blwyddyn Chwedlau 2017 a Blwyddyn y Môr 2018. Hefyd, mae Ffordd Cymru yn ymwneud ag annog ymwelwyr i ddarganfod Cymru drostyn nhw eu hunain, a hyn fydd prif nod Blwyddyn Darganfod 2019. 

“Ein nod yw denu mwy o ymwelwyr rhyngwladol â Chymru. Y llynedd, daeth y nifer uchaf o ymwelwyr tramor, sef dros filiwn o ymwelwyr am y tro cyntaf ers 8 mlynedd, a oedd yn newyddion ardderchog. Fodd bynnag, mae angen inni wneud mwy i gynyddu ein cyfran o’r farchnad ymwelwyr â Chymru o gofio mor anodd yw cystadlu yn y farchnad ryngwladol. 

“Rydyn ni’n gwybod y gall llwybrau cenedlaethol, sy’n bodoli ledled y byd, ysbrydoli ymwelwyr i ddarganfod mwy am wlad, ac aros yn hirach ynddi.

“Bydd y llwybrau yn annog ymwelwyr i ymweld â lleoedd, ardaloedd ac atyniadau gwahanol gan sicrhau bod ein hymwelwyr yn dysgu mwy am Gymru. Daw manteision hefyd i’r diwydiant twristiaeth lleol.” 

Cyflwynwyd yr ymgyrch i gynrychiolwyr dylanwadol y diwydiant twristiaeth a’r cyfryngau cymdeithasol heddiw ym Marchnad Teithio’r Byd yn ExCEL Llundain, dan nawdd Aston Martin.  Mae Croeso Cymru wedi cydweithio ag Aston Martin i drefnu raffl fawr i ennill profiad gyrru car Aston Martin a gwyliau byr yn nau o westai moethus gorau Cymru. Hyrwyddir y raffl ym Marchnad Teithio’r Byd. 

Y mae Aston Martin, yn y broses o agor ei hail safle yn y DU yn Sain Tathan ger Caerdydd, ac wedi bod yn gweithio gyda Croeso Cymru ar lansiad Ffordd Cymru.  Dywedodd Dr Andy Palmer CMG, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol Aston Martin: 

“Mae popeth sydd gan Gymru i’w gynnig wedi creu argraff anhygoel arnon ni, a chawsom amser gwych yn darganfod mwy am Gymru tra’n ffilmio ar hyd y teithiau yma.  Rydyn ni’n falch iawn o gael hyrwyddo’n partneriaeth â Chymru a bod o gymorth wrth lansio’r teithiau yma ac yn edrych ymlaen i groesawu ymwelwyr o bedwar ban byd i ddarganfod Cymru.”  

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas: 
“Mae Ffordd Cymru yn uno yr holl bethau sydd gan Gymru i gynnig – ga annog pobl i ymweld a mwy o’r wlad.  Mae gan Ffordd Cymru’r potensial i fod yn un o lwybrau twristiaid gorau’r byd ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio â’r diwydiant wrth i’r prosiect ddatblygu dros y deng mlynedd nesaf.” 

Nod y tri llwybr yw teithio igam ogam drwy dirweddau ac atyniadau gorau Cymru, gan sicrhau y bydd ymwelwyr yn darganfod trysorau a phrofiadau unigryw’r wlad. 

Yn groes i lwybrau byd enwog eraill, nid ar gyfer gyrwyr yn unig maen nhw. Mae llwybrau trên, troed, beic a cheffyl yn cysylltu â nhw.