Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr Iechyd Cymru

Dyddiad Cyhoeddi: Hydref 2021

Statws: Cydymffurfio a Gweithredu

Categori: Polisi

Teitl: Llwybr Gofal Sylfaenol a Chymunedol ar gyfer rheoli cwyr clustiau

Dyddiad Dod i ben / Dyddiad yr Adolygiad: I'w gadarnhau

I’w weithredu gan: 01 Hydref 2021

Angen gweithredu erbyn: Pennaeth Polisi Synhwyraidd

Angen gweithredu erbyn: Pennaeth Polisi Synhwyraidd Enw(au)

Cyswllt GIGC Llywodraeth Cymru:

Sarah O'Sullivan-Adams
Y Gyfarwyddiaeth Gofal Sylfaenol Sarah.o'sullivan-adams@llyw.cymru Dogfennau amgaeedig: Dim

Dogfennau amgaeedig: Dim

Sefyllfa

Mae cwyr clustiau (cerumen) yn gŵyn iechyd gyffredin a sylweddol. Mae’n arbennig o arwyddocaol i bobl sydd eisoes â nam ar eu clyw gan ei fod yn dwysáu eu hanawsterau cyfathrebu. Mae cwyr clustiau trafferthus yn gyflwr iechyd cymharol hawdd i fynd i'r afael ag ef drwy ei dynnu o'r glust gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes gan GIG Cymru lwybr cenedlaethol cyson ar gyfer rheoli cwyr clustiau yn unol â chanllawiau NICE (NICE 2016)

Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen i sicrhau y gall pob dinesydd ledled Cymru gael y driniaeth a'r gefnogaeth fwyaf priodol ar gyfer problemau cwyr clustiau, yn unol â chynllun 'Cymru Iachach' Llywodraeth Cymru, y 'Fframwaith Gweithredu ar gyfer Clyw' a'r Model Gofal Sylfaenol newydd, wedi'i ategu gan egwyddorion gofal iechyd darbodus.

Mae'r grŵp wedi cwblhau ei gylch gwaith ac mae'r amcanion canlynol wedi'u cyflawni:

  1. Pennu ac adrodd ar y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd ledled Cymru.
  2. Datblygu llwybr integredig cenedlaethol ar gyfer rheoli cwyr clustiau yn ddiogel ac yn effeithiol er mwyn sicrhau canlyniadau cyson i gleifion ledled Cymru a sicrhau:
  • mynediad teg
  • defnydd effeithlon ac effeithiol o adnoddau'r GIG; a hynny yn gost-effeithiol a darbodus
  • rheolaeth ddi-dor gyson ar draws lleoliadau gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd
  • hunanreoli lle bo hynny'n briodol yn glinigol, gan rymuso pobl i reoli eu gofal eu hunain yn well
  • cydymffurfio â chanllawiau NICE a Safonau Ansawdd Awdioleg

Cefndir

Lansiodd Llywodraeth Cymru y Fframwaith Gweithredu ar gyfer Pobl sy'n F/fyddar neu sy'n byw â Cholled Clyw ym mis Mai 2017. Mae'r Fframwaith yn ymrwymo pob rhanddeiliad i gydweithio i wella gwasanaethau a darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel i ddinasyddion ledled Cymru. Sefydlwyd y Bwrdd Prosiect Clyw i oruchwylio'r gwaith o weithredu'r argymhellion, gan gynnwys datblygu llwybr cenedlaethol ar gyfer rheoli cwyr clustiau. Triniaeth hanesyddol: Byrddau iechyd sydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau rheoli cwyr clustiau.

Nid yw rheoli cwyr yn rhan benodol o'r contract meddygon teulu - yn draddodiadol mae rhai practisau meddygon teulu wedi darparu gwasanaethau tra bod eraill wedi cyfeirio pob claf â symptomau cwyr clustiau at adrannau ENT ysbytai.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mynegwyd pryder am y weithdrefn a ddefnyddir i drin problemau cwyr clustiau a diogelwch cleifion. Hefyd, mae nifer yr atgyfeiriadau i adrannau ENT ysbytai a/neu adrannau gofal eilaidd awdioleg wedi cynyddu'n sylweddol ac nid yw'n cyd-fynd â'r egwyddorion gofal iechyd darbodus sy'n sail i'n cynlluniau cenedlaethol ('Cymru Iachach', 'Fframwaith Gweithredu' a'r Model Gofal Sylfaenol newydd).

Mae nifer yr atgyfeiriadau wedi bod yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, gan arwain at amseroedd aros estynedig, sydd wedi golygu nad yw cleifion â'r angen mwyaf yn cael eu gweld yn y lle cywir, ar yr adeg gywir gan y gweithiwr iechyd proffesiynol cywir. Yn ogystal, mae meddygon teulu wedi dweud wrth rai cleifion nad oes gwasanaeth rheoli cwyr clustiau GIG Cymru ar gael ac y dylent chwilio am driniaeth breifat.

Asesiad:

Cynhyrchir cwyr clustiau gan y glust fel rhan o'i broses naturiol o lanhau ac amddiffyn ac yn y rhan fwyaf o achosion nid oes angen ei dynnu o'r glust. Weithiau gall cwyr gronni yn nhiwb y glust a gellir defnyddio cyfryngau meddalu fel rhan o hunanreoli ac yna fel rhan o broses cynnal a chadw reolaidd i helpu i atal cwyr pellach. Mae arbenigwyr yn awgrymu defnyddio dau ddiferyn o olew olewydd ffres ar dymheredd ystafell, sodiwm clorid (dŵr halen) neu ddiferion sodiwm deucarbonad bob wythnos (1) (NICE 2016).. Weithiau gall cwyr gael ei gywasgu ac achosi anawsterau. Mae nifer yr achosion o gwyr cywasgedig yn cynyddu gydag oedran gyda rhai astudiaethau'n adrodd ei fod yn effeithio ar gymaint â 34% o bobl dros 65 oed.

Gall cwyr cywasgedig a/neu gŵyr sy’n achosi rhwystr yn y glust achosi symptomau megis:

  • colli clyw – gostyngiad mewn sensitifrwydd clyw o 20-30dBHL fel arfer (lefel ysgafn o golli clyw) os yw cwyr yn achosi rhwystr yn nhiwb y glust
  • anghysur
  • pigyn clust
  • teimlad bod y glust yn llawn
  • tinitws

Yn aml gall y symptomau hyn a'u heffaith fod yn sylweddol, yn enwedig i'r rhai sydd eisoes â nam heb ei reoli ar eu clyw, lle gall ddwysáu anawsterau clyw. I'r rhai sy'n defnyddio teclynnau clywed, bydd cwyr clustiau yn rhwystro taith sain wedi'i mwyhau drwy diwb y glust; a hynny’n aml yn atal unrhyw fudd a geir gan y ddyfais. Hefyd, gall cwyr clustiau rwystro mowld clust neu diwb teclyn clywed, gall achosi adborth acwstig (sŵn chwibanu) ac atal argraffiadau rhag cael eu gwneud pan fydd angen mowldiau clust newydd.

Gan fod tiwbiau clust plant yn llawer llai, mae cwyr sy'n cronni'n dod yn broblem ynghynt ac mae angen mowldiau clust newydd arnynt sawl gwaith y flwyddyn wrth iddynt dyfu. Hefyd, mae cwyr sy’n achosi rhwystr yn y glust yn gallu atal archwiliad o gamlas y glust a gall rwystro cynnal rhai profion diagnostig yn gywir.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd rheoli cwyr clustiau yn fwy cymhleth (e.e. y rhai â cheudodau mastoid) ac efallai y bydd angen atgyfeirio at wasanaethau gofal eilaidd. Fodd bynnag, dylai hyn fod yn nifer fach o bobl, gyda'r mwyafrif yn gallu hunanreoli neu gael eu cwyr clustiau wedi ei reoli mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol.

Mae consensws na ddylid defnyddio rhai dulliau tynnu/cynnal a chadw (ni ddylid defnyddio ffyn gwlân cotwm, matsis ac ati i geisio clirio cwyr o diwb y glust). Fel arfer, dim ond yn nhraean allanol tiwb y glust y cynhyrchir cwyr, felly mae defnyddio'r pethau hyn yn gwthio’r cwyr ymhellach i lawr y glust ac yn ffurfio plwg caled yn erbyn tympan y glust.

Gallant achosi trawma i diwb y glust a rhwygo tympan y glust hyd yn oed, gan gynyddu'r risg o haint hefyd. Ni ddylid defnyddio unrhyw ganhwyllau clust. Mae canfyddiadau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn dangos bod cleifion angen ac yn gwerthfawrogi iaith uniongyrchol a chlir yn y cyngor a gânt ar reoli cyflyrau meddygol (gan gynnwys hunanreoli). Mae taflenni gwybodaeth a deunydd hyrwyddo i gynorthwyo pobl i wneud y dewisiadau cywir mewn perthynas â hunanreoli cwyr clustiau a'u cyfarwyddo i gael gafael ar y gwasanaethau cywir yn bwysig.

Mae darpariaeth y gwasanaethau rheoli cwyr clustiau ledled Cymru yn anghyson ac nid oes llwybr clir, gofynion hyfforddi na manyleb gwasanaeth. Mae enghreifftiau o arfer da o ran rheoli cwyr clustiau eisoes mewn rhai ardaloedd clwstwr byrddau iechyd, yn unol ag egwyddorion gofal iechyd darbodus, y gellid eu cyflwyno ledled Cymru yn unol â'n cynlluniau cenedlaethol.

Achosion o Gŵyr Clustiau ym Mhoblogaeth Cymru

Canfu astudiaethau cwmpasu fel rhan o'r gwaith o ddatblygu Ymarfer Awdioleg Uwch mewn gofal sylfaenol fod 3% o'r boblogaeth yn gofyn am gymorth gyda chwyr clustiau bob blwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i tua 96,000 o apwyntiadau cleifion mewn gofal sylfaenol ledled Cymru bob blwyddyn.

Argymhellion:

Cytunodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rheoli Cwyr ar y canlynol:

  1. Bydd gwasanaethau rheoli cwyr clustiau yn cael eu darparu mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol, yn unol â'r fanyleb gwasanaeth y cytunwyd arni'n genedlaethol, gweithdrefnau gweithredu safonol a safonau hyfforddi, dan arweiniad Ymarferwyr Awdioleg Uwch a byddant yn cael eu darparu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig.
  2. Bydd y Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau Awdioleg yn cytuno ac arwain ar drafod a gweithredu pwyntiau 3-9 isod
  3. Cyflwynir llwybr rheoli cwyr cenedlaethol ar gyfer cleifion
  4. Comisiynir rhaglen hyfforddi rheoli cwyr genedlaethol; i gynnwys darpariaeth microsugno a/neu dynnu â llaw gan ddefnyddio chwiliedydd.
  5. Bydd y llwybr rheoli cwyr newydd yn ategu'r broses o gyflwyno mynediad 'pwynt cyswllt cyntaf' i wasanaethau awdioleg mewn gofal sylfaenol, i gleifion sy'n ceisio cymorth gyda phroblemau clyw, tinitws, a phroblemau cydbwysedd penodol.
  6. Datblygir cyngor cenedlaethol ar gyfer hunanreoli cwyr clustiau.
  7. Bydd byrddau iechyd yn gweithredu, monitro ac adolygu'r llwybr a'r modelau gwasanaeth newydd yn eu hardaloedd clwstwr yn awr
  8. Parheir i drafod gyda gweithwyr iechyd proffesiynol i godi ymwybyddiaeth e.e. rhoi mynediad at hyfforddiant i fferyllwyr a hyrwyddo hunanreoli cwyr
  9. Eir ati i gaffael cyfarpar yn ganolog ar gyfer Cymru gyfan mewn un bwrdd iechyd.

Mae'r argymhellion yn seiliedig ar adolygiadau systematig o'r dystiolaeth orau sydd ar gael ac ystyriaeth benodol o gost-effeithiolrwydd. Pan fydd y dystiolaeth sydd ar gael yn brin, mae'r argymhellion yn seiliedig ar brofiad a barn y Pwyllgor Canllawiau am yr hyn sy'n arferion da. Mae llwybr NICE ar gyfer colli clyw mewn oedolion yn argymell y dylai gwasanaethau gofal sylfaenol neu gymunedol gynnig tynnu cwyr clustiau os yw'r cwyr yn cyfrannu at golli clyw neu symptomau eraill, neu os oes angen ei dynnu er mwyn archwilio'r glust i gymryd argraff o diwb y glust.

Llwybr clinigol ar gyfer pobl â chwyr clustiau sy'n peri problem

  1. ar gyfer oedolion a phlant dros 4 oed: Hunanreoli gan ddefnyddio diferion olew olewydd am saith diwrnod.

Eithriadau:

  • ni ddylai cleifion sydd â chyflwr y glust allanol neu'r glust fewnol sy'n cael ei reoli neu y mae angen ei reoli gan wasanaethau ENT/AVM hunanreoli. Y claf i'w gyfeirio at weithiwr iechyd proffesiynol priodol ee Nyrs Practis, ENT, AVM, ymarferydd cyffredinol neu Uwch Ymarferydd Awdioleg.
  • ni ddylai plant 0-4 oed hunanreoli. Dylai'r rhiant atgyfeirio'r plentyn at ymarferydd cyffredinol/ Uwch Ymarferydd Nyrsio/ Uwch Ymarferydd Awdioleg. Os cadarnheir bod cwyr clustiau'n peri problem, ystyriwch atgyfeiriad at awdioleg baediatrig ar gyfer rheoli cwyr clustiau. Os nad oes cwyr clustiau, ystyriwch atgyfeiriad at ENT/AVM/awdioleg baediatrig ar gyfer archwiliad pellach.
  1. Os na chaiff symptomau cwyr clustiau eu datrys:
  • Dylai oedolion hunanatgyfeirio at wasanaeth rheoli cwyr clustiau
  • ar gyfer plant 11 oed ac yn hŷn, y rhiant yn atgyfeirio'r plentyn at wasanaeth rheoli cwyr clustiau. Gall atgyfeiriad gael ei wneud gan staff practis meddyg teulu (brysbennu) neu gan ymarferydd cyffredinol os caiff ei ganfod yn ystod apwyntiad am gyflwr arall.
  • ar gyfer plant 5-10, y rhiant yn atgyfeirio'r plentyn at y gwasanaeth rheoli cwyr clustiau gyda sgiliau arbenigol sy'n briodol ar gyfer rheoli plant
  • gallai fod angen atgyfeirio cleifion o bob oed (ee anabledd dysgu, dementia, pryder) at wasanaeth rheoli cwyr clustiau gyda sgiliau arbenigol/uwch sy'n briodol ar gyfer rheoli pobl sydd ag anghenion cymhleth.
  1. Os caiff symptomau cwyr clustiau eu datrys, mae cleifion yn cael cyngor parhaus ynghylch hunanreoli.
     
  2. Ar gyfer cleifion o bob oedran - os yw cwyr clustiau sy'n peri problem yn dal yn bresennol, a/neu os na chaiff symptomau eu datrys a/neu os canfyddir abnormaleddau, ystyriwch atgyfeirio at:
  • Ymarferydd Cyffredinol os yw'r cwyr clustiau wedi'i dynnu allan ond bod archwiliad yn canfod anghysur/poen clust, clust wedi'i blocio neu glust annormal
  • Awdioleg Baediatrig os caiff cwyr clustiau ei dynnu ond bod colled clyw neu dinitws
  • ENT neu Awdioleg Baediatrig os oes cwyr clustiau heb ei ddatrys

Nodiadau ar y Llwybr Rheoli Cwyr Clustiau

Gall cleifion sy'n ceisio cymorth gyda symptomau cwyr clust sy'n peri problem gael:

  • anghysur / pigyn clust
  • clust wedi'i blocio (y claf wedi rhoi gwybod amdano neu wedi'i weld gan glinigydd)
  • colli clyw
  • tinitws

Bydd cleifion heb y symptomau clust uchod ond sy'n dweud bod ganddynt gwyr clustiau sy'n peri problem yn cael gwybodaeth am hunanreoli, gan gynnwys hunanreoli parhaus. Daw'r cyngor o:

  • taflenni/gwefan
  • Cyngor Dewis Doeth mewn fferyllfeydd
  • Galw Iechyd Cymru 0845 4647
  • Gwybodaeth iechyd y cyhoedd yn cynnwys cyngor i BEIDIO â defnyddio ffyn gwlân cotwm neu debyg y tu mewn i'r glust

Yr eithriadau ar gyfer hunanreoli yw:

  • colli clyw'n sydyn neu glyw'n gwaethygu'n gyflym (Canllawiau NICE NG98)
  • cleifion â phoen sylweddol a/neu redlif o'r glust
  • cleifion â rhwyg y gwyddys amdano yn nhympan y glust a/neu redlif o'r glust
  • dylai’r grwpiau hyn o gleifion gysylltu â’u practis cyffredinol

Troednodiadau

(1) Y cyngor gan Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol, yw nad oes llawer o dystiolaeth i awgrymu pa fath o olew sy'n fwy effeithiol, neu a yw dŵr halen yn well na thoddiant o deucarbonad soda. Ei sylwadau ar hunanreoli: “Rydym wedi canfod y gallai defnyddio diferion clust helpu i gael gwared ar y cwyr clustiau. Nid yw'n glir a yw un math o ddiferion yn well nag un arall, neu a yw diferion sy'n cynnwys cynhwysion gweithredol yn well na dŵr plaen neu hallt.” Ei sylwadau ar ddiferion clust y gellir eu cael ar bresgripsiwn, pe bai rheoli cwyr clusiaut yn cael i ychwanegu at y Cynllun Anhwylderau Cyffredin: “Wrth benderfynu ar y dewis o ddiferion clust i'w rhoi ar bresgripsiwn, dylai'r sawl sy'n rhoi presgripsiwn ddewis y cynnyrch sydd â'r gost gaffael isaf gan y GIG oni bai bod rhesymau cryf er budd y claf.