Daeth yr ymgynghoriad i ben 23 Medi 2015.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 317 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn am y fersiwn ddrafft o'r Llwybr Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Digartrefedd i Blant, Pobl Ifanc ac Oedolion mewn Sefydliadau Diogel.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Pasiwyd Deddf Tai (Cymru) 2014 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Gorffennaf 2014 a chafodd Gydsyniad Brenhinol ar 17 Medi 2014.
Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn cyflwyno system newydd i fynd i’r afael â digartrefedd a’r bygythiad o ddigartrefedd gan gynnwys pwyslais mwy o lawer ar atal digartrefedd yn y lle cyntaf. Cyflawnwyd hyn trwy gryfhau rôl atal yn nyletswyddau Awdurdodau Lleol tuag at bobl ddigartref.
Mae Adran 70 o’r Ddeddf yn nodi’r categorïau angen blaenoriaethol ar gyfer y rhai ac arnynt angen cymorth ychwanegol. O ganlyniad i a.70 nid yw’r rhai a ryddhawyd o ddalfa’n gymwys yn awtomatig ar gyfer angen blaenoriaethol mwyach.
Mewn ymateb i bryderon ynghylch y newid hwn mewn deddfwriaeth aeth y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pryd ati i sefydlu’r Gweithgor Llety ac Ailsefydlu Carcharorion i sicrhau y byddai gan y rhai sy’n cael eu cadw mewn dalfa fynediad at wasanaethau atal cyn cael eu rhyddhau.
Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn am y fersiwn ddrafft o’r Llwybr Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Digartrefedd i Blant Pobl Ifanc ac Oedolion mewn Sefydliadau Diogel a gynhyrchwyd gan y Gweithgor mewn ymateb i bryderon ynghylch mynediad at wasanaethau atal.