"Bydd cyflawni prosiect Metro Cymru gwerth £1bn yn un o'r rhaglenni mwyaf uchelgeisiol a chymhleth rydym erioed wedi'i chynnal."
Meddai’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am drafnidiaeth, Lee Waters, wrth iddo ddadorchuddio mapiau newydd yn dangos maint enfawr y prosiect.
Roedd y Dirprwy Weinidog yn siarad dim ond wythnos cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynlluniau Sero-net yn y cyfnod cyn COP26, gan ddweud sut y byddai'r prosiect yn cyflawni’r cynlluniau a amlinellir yn Llwybr Newydd, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, drwy greu rhwydwaith trafnidiaeth modern, integredig a chynaliadwy sy'n cefnogi ffyrdd modern o fyw.
Bydd y Metro yn ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio eu ceir yn llai a thrafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn fwy, er mwyn lleihau ein heffaith amgylcheddol yn sylweddol a helpu Cymru i gyrraedd ei tharged Carbon sero-net erbyn 2050.
Mae'r mapiau newydd, sydd ar gael am y tro cyntaf heddiw, yn dangos y cynlluniau tymor byr a thymor hwy uchelgeisiol y bydd y rhaglen yn eu rhoi ar waith, i helpu pobl i wneud y dewis cywir.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Trydaneiddio 172km i wella amseroedd teithio ac amlder gwasanaethau
- Hyd at 30% mwy o wasanaethau i wella cysylltiadau ledled Cymru, fel trenau tram newydd sy’n cynnig gwasanaethau cyflym nad oes angen eu trefnu ymlaen llaw mewn 45 gorsaf ar Reilffyrdd y Cymoedd erbyn 2024
- Gwasanaethau trenau a bysiau newydd a gwell a llwybrau teithio llesol i leihau ynysigrwydd yn y cefn gwlad, i ddarparu gwasanaeth cymudo drws i ddrws a rhoi mynediad at gyfleoedd ar gyfer swyddi, busnes a hamdden ar draws Gogledd Cymru
- Tocynnau integredig newydd ac opsiynau mwy hyblyg ar gyfer prisiau, drwy ddefnyddio technoleg newydd ar bob bws a mwy na 200 o beiriannau tocynnau newydd mewn gorsafoedd
- Gorsafoedd newydd a gwell ledled Cymru i wneud defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn hyfyw yn hytrach na defnyddio’r rhwydwaith ffyrdd gorlawn.
- Gwifrau uwchben sy’n defnyddio 100% ynni adnewyddadwy i leihau ein ôl troed carbon
- Yn ogystal â chysylltu cymunedau, mae'r prosiect eisoes yn sicrhau manteision economaidd ledled Cymru – gan hyrwyddo gyrfaoedd mewn peirianneg i blant a menywod, darparu cyfleoedd gwaith i gyn-filwyr, a chreu llwybrau i helpu troseddwyr i adsefydlu a chael swyddi sefydlog a boddhaus.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Lee Waters:
"Dim prosiect trafnidiaeth yn unig mo’r Metro. Mae'n newid bywydau pobl ledled Cymru ac mae'n enghraifft wych o sut mae buddsoddi i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn arwain at fanteision cymunedol ehangach o lawer.
"Gwella ein llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yw'r peth cywir a chyfrifol i'w wneud dros yr amgylchedd. Mae’n gwneud defnyddio trafnidiaeth carbon isel yn fwy deniadol a fforddiadwy ac yn haws ei defnyddio. Yn ei dro mae hyn yn galluogi pobl i adael eu ceir gartref, yn enwedig yn rhannau mwyaf poblog Cymru, drwy ddarparu llwybrau teithio llesol drws i ddrws fel rhan o rwydwaith trafnidiaeth integredig a chynaliadwy.
"Y mis nesaf byddwn yn mynychu COP26 – y COP pwysicaf ers Paris yn 2015 – a byddwn yn mynd â neges glir i Glasgow fod Cymru yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Mae prosiectau uchelgeisiol fel hyn yn enghraifft o hynny ac yn dangos sut mae pawb yma yn barod i chwarae ei ran yn y frwydr yn erbyn cynhesu byd-eang."
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi heddiw hwb ariannol ychwanegol o £2 miliwn i ehangu'r cynlluniau presennol ar gyfer Metro De-ddwyrain a Metro De-orllewin Cymru, gan gynnwys gorsafoedd a gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd newydd yn ogystal â rhagor o lwybrau teithio llesol sy'n gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy deniadol a hygyrch ac yn cysylltu cymunedau.
Gweler y mapiau newydd: Datblygiadau metro yn y dyfodol