Mae lluniau newydd yn dangos sut mae cenedl gynhenid yn Nyffryn Amazon Periw yn defnyddio arian gan Lywodraeth Cymru i'w helpu i wireddu'u nod o ddefnyddio dim ond ynni adnewyddadwy.
Mae'r lluniau, sydd wedi eu rhyddhau i ddathlu Wythnos Ewch yn Wyrdd Maint Cymru, yn dangos sut mae pobl y Wampís wedi elwa ar £55,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Mae pobl Wampís yn gynhenid i'r Amazon ym Mheriw.
Prin 15,000 o bobl sy'n perthyn i'r genedl ond mae eu tiriogaeth yn estyn dros 1.3 miliwn hectar o goedwig drofannol hynod hynod fioamrywiol. Mae 98% o'r goedwig yn dal yn ddilychwyn er gwaethaf torri coed yn anghyfreithlon, cloddio am aur a chwilio am olew.
Mae un astudiaeth wedi amcangyfrif bod eu coedwigoedd yn gallu storio 145 miliwn tunnell o garbon. Mae Maint Cymru wedi bod yn cefnogi cenedl y Wampís ers 2016.
Cafodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd bryd hynny, gwrdd â chynrychiolwyr Cenedl y Wampís yn COP27 yn Glasgow yn 2021 ac eto yn y COP Bioamrywiaeth ym Montreal yn 2022.
O ganlyniad i'r cyfarfodydd hyn, gwnaeth Llywodraeth Cymru neilltuo cyllid i'r Wampís trwy Maint Cymru i'w helpu i gael eu holl ynni o ffynonellau adnewyddadwy a thalu am adeiladu cwch pŵer solar deg sedd - y cyntaf o'i fath ym Mheriw.
Mae'r cwch eisoes yn gwneud gwaith gwerthfawr i genedl y Wampís drwy fynd ag aelodau'r gymuned i ganolfannau iechyd ac ysgolion, i wneud eu gwaith pob dydd ac i batrolio'r afon a chludo’r cynhaeaf.
Mae’n cynnig gwasanaeth hanfodol hefyd trwy fynd â mamau beichiog o'r cymunedau lleol i'r ganolfan iechyd leol i gael archwiliadau yn ogystal â mynd â'u plant i gael eu harchwiliadau iechyd misol.
Dywedodd Julie James, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio bellach:
Cael cwrdd â'r Wampís oedd uchafbwynt fy ymweliadau â Glasgow a Montreal.
Mae ganddyn nhw hanes hynod ddiddorol ac mae gwrando ar eu straeon yn gwneud i chi sylweddoli pa mor real a byw yw bygythiad newid hinsawdd i bobl ar draws y byd.
Roeddwn yn falch iawn o allu cefnogi'r Wampís trwy Maint Cymru ac rwyf wedi mwynhau'r wybodaeth ddiweddaraf hon ynghylch sut mae'r cyllid yn cael ei ddefnyddio.
Rwy'n falch hefyd bod ein nawdd ariannol yn helpu i gryfhau cenedl y Wampís i amddiffyn eu coedwig, eu diwylliant a'u bywoliaeth.
Ers derbyn cyllid Maint Cymru, mae dau borth solar wedi'u gosod yn nhir y Wampís.
Maen nhw'n gallu cynhyrchu ynni adnewyddadwy i'r gymuned heb ddefnyddio tanwyddau ffosil sy'n llygru.
Mae'r pyrth solar wedi'u gosod mewn warws bach wedi'i adeiladu gan y gymuned leol i gadw'r offer yn ddiogel a'i gynnal a'i gadw'n dda.
Mae'r cyllid wedi cael ei ddefnyddio hefyd i hyfforddi aelodau'r genedl (8 dyn ac 1 fenyw) mewn technoleg solar a sut i osod, rhedeg a rheoli paneli solar.
Ychwanegodd Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd:
Rwyf wedi mwynhau darllen y bwletin hwn o'r Amazon ym Mheriw ac mae'n hynod ddiddorol dysgu sut mae cyllid Maint Cymru yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd mor rhagorol.
Bydda' i'n cwrdd â chynrychiolwyr Cenedl y Wampís pan fyddan nhw'n dod i Gymru yn ddiweddarach eleni a dw i'n disgwyl ymlaen yn fawr at ddysgu mwy bryd hynny a chael gwybod y diwedddaraf ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru wedi gallu eu helpu i droi at ynni adnewyddadwy ac ymladd y newid yn yr hinsawdd.
Mae Kara Solar o Ecuador yn cydweithio â Maint Cymru i roi’r hyfforddiant.
Mae’r berthynas honno wedi annog cenedl yr Achuar yn Ecuador sydd eisoes yn berchen ar gwch solar i rannu eu gwybodaeth gyda‘u cymdogion, cenedl y Wampís ym Mheriw.
Dywedodd Carmen Pirucho Huar:
Rydyn ni fenywod yn gallu teithio’n ddiogel nawr i gael archwiliadau pan fyddwn yn feichiog ac mae mamau’n cael mynd â’u plant i gael archwiliadau.
I ddechrau, roedd ofn arna i gan nad yw’r cwch yn gwneud unrhyw sŵn ond mae e yn gweithio! Mae e’n symud fel cwch bach heb wneud unrhyw sŵn.
Gwnaethon ni gyrraedd ar ôl awr a hanner, heb wastraffu unrhyw danwydd gan ei fod yn gweithio ar banel solar.
Dw i’n diolch i genedl y Wampís a phawb arall sy wedi’n helpu ni i gael y cwch gan ei fod e mor eco-gyfeillgar.
Dyma’r tro cynta yn fy mywyd ifi weld cwch sydd ddim angen petrol i’w symud. Mae e’n beth rhyfeddol a dweud y gwir.