Neidio i'r prif gynnwy

Estynnodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, ei llongyfarchiadau i fyfyrwyr ledled Cymru sy’n dathlu canlyniadau eu TGAU a’u Bagloriaeth Gymreig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r niferoedd uchel o raddau A*-C, sydd yn y ddwy flynedd ddiwethaf wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed, wedi’u cynnal a gwelwyd cynnydd yn y rheini a gafodd y graddau uchaf.

Mae’r ystadegau yn dangos:

  • Bod cyfran y graddau A*-A wedi cynyddu 0.2 pwynt canran o gymharu â’r llynedd, ac wedi cyrraedd 19.4%.
  • Cynnydd mewn graddau A*, sydd wedi codi 0.1% i 6.1%.
  • Cyfradd basio gyffredinol A*-C o 66.6%, sy’n golygu bod tua dwy ran o dair o bob disgybl wedi cael graddau A*-C.
  • Cyfradd basio gyffredinol A*-G o 98.7%, yr un fath â’r llynedd.
  • Bod y canlyniadau mathemateg yng Nghymru ymhlith disgyblion 16 oed dros flwyddyn academaidd gyfan 2015-16 yn dangos gwelliannau ym mhob gradd, a bod cyfraddau pasio A*-C nawr wedi cyrraedd 65.5%.
  • Bod mwy nag 14,000 o ddysgwyr wedi cael Diploma’r Fagloriaeth Gymreig.
  • Bod cynnydd o 0.4 pwynt canran yn nifer y dysgwyr a gwblhaodd eu Bagloriaeth Gymreig ar lefel ganolradd o gymharu â lefelau 2015.
  • Bod bron i 12,000 o ddysgwyr wedi cael y Diploma Canolradd llawn.

Wrth ymweld ag ysgol Cefn Hengoed yn Abertawe, dywedodd Kirsty Williams:

“Dwi am longyfarch y miloedd o bobl ifanc sydd wedi cael eu canlyniadau. Mae canlyniadau TGAU eleni yn dangos perfformiad cryf arall. Mae dwy ran o dair o’n dysgwyr wedi cael o leiaf A*-C ac mae yna gynnydd yn y graddau uchaf, diolch i waith caled ein disgyblion a’u hathrawon.

“Mae’r perfformiad yn y pynciau gwyddoniaeth unigol yn parhau’n uchel o gymharu â chanlyniadau gweddill y DU ac mae’r canlyniadau lefel mynediad hefyd wedi codi. Mae ein perfformiad yn y Fagloriaeth hefyd yn wych, ac mae gan fwy nag 14,000 o ddisgyblion sgiliau a phrofiadau ychwanegol bellach sy’n rhoi mantais iddynt mewn byd cynyddol gystadleuol.

“Fe all athrawon a disgyblion ymfalchïo yn y ffaith bod Cymru wedi cynnal ei record o ran y gyfradd basio. Fe fydda i’n parhau i ganolbwyntio ar godi’r safonau a’n huchelgais i sicrhau rhagoriaeth ym mhob un o’n hysgolion.”

Mae cymwysterau TGAU yn newid yng Nghymru; ers Medi 2015 mae chwe phwnc TGAU wedi bod yn cael eu haddysgu ar eu ffurf ddiwygiedig am y tro cyntaf – Cymraeg Iaith, Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Gymraeg, Llenyddiaeth Saesneg, Mathemateg Rhifedd a Mathemateg. Bydd arholiadau Tachwedd 2016 a haf 2017 yn adlewyrchu’r cymwysterau newydd hyn.