Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod
Cymorth a chefnogaeth i ferched neu fenywod sydd wedi dioddef anffurfio eu horganau cenhedlu neu sydd mewn perygl o hynny.
Mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn fath o gam-drin plant a gall gael effeithiau hirfaith ar oroeswyr.
Os ydych chi wedi dioddef anffurfio organau cenhedlu benywod neu’n ofni eich bod mewn perygl o ddioddef anffurfio organau cenhedlu benywod, gallwch siarad â phobl a fydd yn gallu darparu cymorth a chefnogaeth i chi’n gyfrinachol.
Llinell Gymorth Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yr NSPCC
Ffoniwch: 0800 028 3550
Llinellau ar agor 24 awr y dydd ac maent yn ddi-dâl o linellau tir a'r rhan fwyaf o ffonau symudol.
E-bost: help@nspcc.org.uk
Cwestiynau cyffredin
Beth yw Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM)?
Arfer sy'n ymwneud â thorri, niweidio neu newid organau cenhedlu yn fwriadol, pan nad oes unrhyw reswm meddygol dros wneud, yw anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM). Mae'n boenus iawn a gall cael effaith niweidiol a difrifol iawn ar iechyd merched a menywod. Gall hefyd achosi problemau hirdymor mewn perthynas â rhyw, geni plant ac iechyd meddwl.
Fel arfer, mae FGM yn digwydd i ferched ifanc rhwng babandod a 15 oed - ond gan amlaf cyn cyrraedd y glasoed. Mae'n anghyfreithiol yn y DU ac yn fath o gam-drin plant. Yn fyd-eang, mae FGM yn arfer sy'n cael ei gydnabod a'i gondemnio fel arfer sy'n torri hawliau dynol sylfaenol.
Mythau am Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM)
Mae’r adran hon yn amlinellu rhai o’r mythau sy’n arwain at achos o anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM).
Mae’r mythau yn amrywio o ranbarth i ranbarth, a rhwng grwpiau ethnig gwahanol. Mae’r cyfiawnhad neu’r esboniadau mwyaf cyffredin yn cynnwys:
- dymuniadau’r cyndeidiau
- diogelu ymddygiad moesol menywod mewn cymdeithas
- sicrhau bod menywod yn ffyddlon i’w gwŷr
- derbyn i gymdeithas oedolion
- rheoli rhywioldeb menywod
- mae gwaëgu (infibulation) yn sicrhau tadolaeth
- cynyddu ffrwythlondeb
- hunaniaeth o ran rhywedd
- mae’r clitoris yn organ peryglus sy’n rhaid ei dorri
- bydd y clitoris yn niweidio organ y gŵr
- mae’n tawelu merched
- glendid
- mae’n plesio dynion
- osgoi marwolaeth i fabandod a’r fam
- gofyniad crefyddol
- ffordd o gadw gwyryfdod
- mae’n rheoli merched mentrus
- mae’n rhwystro rhyw cyn priodi ac anffyddlondeb.
Gan fod y mythau hyn yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, maen nhw bellach yn rhan greiddiol o gymunedau sy’n eu harfer ar hyd a lled y byd, gan gynnwys rhai yng Nghymru.
Mewn gwirionedd, mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn anghyfreithlon – nid yw’n cael ei argymell gan unrhyw destun crefyddol ac mae’n gadael effaith gorfforol a meddygol ar ferched a menywod sy’n goroesi FGM.
Beth yw effeithiau Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM)?
Mae Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yn cael effaith niweidiol ar iechyd corfforol a meddyliol (seicolegol) plant bach, merched a menywod adeg y llawdriniaeth a gweddill eu hoes.
Mae’r effeithiau’n gallu ymddangos o fewn dim o dro, gan ddechrau ychydig oriau wedi’r llawdriniaeth. Mae cymhlethdodau tymor hwy yn para am oes, yn ddi-droi’n-ôl, a bydd angen sylw meddygol er mwyn lleihau eu heffeithiau.
Effeithiau tymor byr
- Sioc yn sgil gwaedu, poen a straen o ganlyniad i dorri rhan sensitif a thyner iawn o’r genitalia heb ddefnyddio anesthetig.
- Gwaedu neu waedlif: mae torri’r pibellau gwaed yn ystod y llawdriniaeth yn arwain at waedu. Gall gwaedu am gyfnod hir arwain at anemia a hyd yn oed farwolaeth.
- Mae atal dŵr/wrin oherwydd ofn poen, y feinwe’n chwyddo neu niweidio’r wrethra yn achosi poen ac anghysur a all arwain yn hawdd at haint y bledren a heintiad y llwybr wrinol.
- Haint a achosir gan ddefnydd o offer heb eu sterileiddio mewn amgylchedd budr (nad yw’n hylan) sy’n gallu arwain at gymhlethdodau eraill a hyd yn oed farwolaeth.
- Niwed i organau eraill oherwydd enwaedwyr amhrofiadol.
Effeithiau hirdymor
- Achosion niferus o heintiau wrinol yn sgil culhau ceg y system wrinol sy’n rhwystro rhywun rhag gwagio wrin o’r bledren yn llwyr.
- Mislif hynod boenus oherwydd bod wrin a gwaed yn cronni yn yr wterws, gan arwain at lid y bledren a’r organau rhywiol mewnol.
- Creithiau neu godennau yn ffurfio, a allai arwain at grawniad.
- Genedigaeth anodd, lle gall esgor hir a rhwystredig arwain at golli’r plentyn ac achosi niwed i ymennydd y baban.
- Yn achos gwaegu, haint aciwt a chronig yn y pelfig sy’n arwain at anffrwythlondeb a/neu feichiogrwydd pibennol.
- Gwaed a tholchenau yn cronni yn yr wterws a/neu’r wain.
- Goblygiadau seicolegol.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n meddwl fy mod i mewn perygl o gael fy anffurfio?
Os ydych chi’n credu eich bod chi mewn perygl o gael eich anffurfio, neu’n mynd dramor i gael eich anffurfio, ffoniwch yr heddlu (999).
Gallwch hefyd ffonio Llinell Gymorth yr NPSCC ar anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) ar 0800 028 3550 (am ddim).
Dydy hi ddim yn hawdd siarad am anffurfio organau cenhedlu benywod. Os nad ydych chi’n teimlo y gallwch drafod y mater gyda’ch rhieni, mae’n bwysig eich bod chi’n siarad gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo fel eich athro ysgol neu’ch meddyg. Gallwch hefyd sgwrsio â’r heddlu neu ffonio Llinell Gymorth FGM yr NSPCC os ydych chi’n poeni y gallech fod mewn perygl o FGM.
Mae gan yr heddlu, athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill ddyletswydd i’ch diogelu chi, a byddant yn gallu dod o hyd i’r cymorth angenrheidiol i chi.
Gallwch hefyd wneud cais am Orchymyn Amddiffyn rhag FGM i chi’ch hun. Gorchymyn llys yw hwn, a’r nod yw amddiffyn dioddefwyr neu ddarpar ddioddefwyr rhag dioddef anffurfio organau cenhedlu benywod.
Efallai bod gwasanaethau arbenigol FGM ar gael yn eich ardal chi, a fydd yn gallu’ch cefnogi a’ch cynghori chi.
Beth fydd yn digwydd os bydda' i’n ffonio Llinell Gymorth Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM)?
Os ydych chi wedi dioddef neu’n bryderus eich bod mewn perygl o ddioddef Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, yna gallwch ffonio llinell gymorth Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yr NSPCC am ddim, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar 0800 028 3550.
Mae llinell gymorth Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yr NSPCC yn croesawu galwadau gan unrhyw un sy’n credu eu bod mewn perygl o ddioddef Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, sydd wedi dioddef Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, neu sy’n weithwyr proffesiynol sydd am dderbyn cyngor proffesiynol.
Gall y rhai sy’n ffonio barhau’n ddienw os mai hynny yw eu dymuniad. Mae galwadau’n cael eu hateb gan staff sy’n brofiadol iawn ac sydd wedi’u hyfforddi’n llawn. Byddant yn gwrando arnoch chi ac yn cynnig cyngor a manylion gwasanaethau lleol i chi yn eich ardal.
Os oes angen rhannu gwybodaeth ag asiantaethau eraill, bydd hyn ond yn cael ei wneud os ydych chi’n cytuno’n llwyr. Yr eithriadau i hyn fydd os yw’ch bywyd mewn perygl dybryd neu os oes plant mewn perygl. O dan yr amgylchiadau hyn, byddai’r awdurdodau priodol yn cael eu hysbysu i sicrhau eich lles a’ch diogelwch chi neu berson neu blentyn rydych chi wedi cysylltu yn eu cylch.
Ni fydd rhif y llinell gymorth yn ymddangos ar eich bil ffôn.
Mae’r llinell gymorth Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yn cael ei rheoli gan yr NSPCC ar ran y Swyddfa Gartref.
Os ydych chi’n dewis e-bostio’r llinell gymorth Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yn fgmhelp@nspcc.org.uk, byddwch yn derbyn ymateb o fewn 72 awr.
Hygyrchedd
Mae’r Llinell Gymorth yn darparu cymorth yn Saesneg. Maen nhw hefyd yn defnyddio Language Line ar gyfer y rhai sydd am sgwrsio mewn iaith arall. Mae fideo arwyddion ar gael hefyd.
Pa mor gyffredin yw Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM)?
Mae Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yn drosedd gudd, felly mae’n anodd gwybod yn union pa mor gyffredin ydyw.
Gall cael gwybod am y math llai eithafol o FGM fod yn anoddach.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn credu bod rhwng 100 miliwn a 140 miliwn o ferched a menywod yn byw gyda goblygiadau anffurfio organau cenhedlu benywod.
Mae adroddiad yn dweud y gall 23,000 o ferched dan 15 oed fod mewn perygl o FGM yng Nghymru a Lloegr, ac y gallai 60,000 o fenywod fod yn byw gyda chanlyniadau FGM.
Yn 2013, cyhoeddodd Unicef ddadansoddiad o nifer yr achosion o FGM yn Affrica a’r Dwyrain Canol. Gan ddefnyddio dros 70 o arolygon cenedlaethol a gynhyrchwyd dros gyfnod o 20 mlynedd a mwy, roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y 29 o wledydd lle mae’r arfer fwyaf cyffredin.
Pa mor gyffredin yw Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yng Nghymru a Lloegr: Cyhoeddwyd amcangyfrifon cenedlaethol a lleol gan Brifysgol Dinas Llundain ac Equality Now ym mis Gorffennaf 2015. Mae’r adroddiad yn cynnwys amcangyfrifon pellach o niferoedd y merched ag FAM sy’n byw yng Nghymru a Lloegr, nifer y merched ag FGM sy’n geni plant a nifer y merched a anwyd i famau ag FGM.
A yw Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) yn anghyfreithiol?
Ydy, mae’n anghyfreithlon a gall olygu hyd at 14 mlynedd o garchar.
Mae anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) yn y DU yn drosedd ers 1985. Mae’r deddfau sy’n berthnasol i FGM yn cynnwys:
- prohibition of Female Circumcision Act 1985 a oedd yn gwneud FGM yn anghyfreithlon yn y DU
- Female Genital Mutilation Act 2003 sy’n gwneud FGM yn drosedd i wladolion y DU neu drigolion parhaol y DU:
- i gyflawni FGM dramor
- i fynd ag un o wladolion y DU neu breswylydd parhaol y DU dramor i gael FGM.
Mae’n pennu uchafswm cosb ar gyfer troseddau FGM, sef 14 mlynedd o garchar.
Mae’r ddeddf hon yn berthnasol i Gymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Mae gan yr Alban ei deddfwriaeth FGM ei hun.
The Serious Crime Act 2015 yn cyflwyno dyletswyddau a throseddau ychwanegol yn ymwneud ag anffurfio organau cenhedlu benywod, gan gynnwys:
- cyflwyno hysbysu gorfodol am FGM. Bydd y ddyletswydd hon yn cael ei chyflwyno yn ystod hydref 2015
- cyflwyno Gorchmynion Amddiffyn rhag FGM. Fe’u cyflwynwyd ar 17 Gorffennaf 2015
- dioddefwyr FGM i gael bod yn anhysbus gydol oes
- cyflwyno cyfraith trosedd lymach fel bod modd erlyn rhai â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn dan 16 oed, os nad ydynt yn cymryd camau rhesymol i rwystro’r plentyn rhag cael FGM, a hwythau’n gwybod, neu y dylent fod wedi gwybod, bod risg sylweddol bod FGM yn mynd i gael ei gyflawni.
Gallai deddfau eraill sy’n amddiffyn merched a phlant ac sy’n rhoi Hawliau Dynol ar waith fod yn berthnasol.