Llesiant Cymru, 2024 - Cymru o gymunedau cydlynus
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y nod ar gyfer Cymru o gymunedau cydlynus
Awdur: Ian Jones
Cymru o gymunedau cydlynus: Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?
Nid yw’r dangosyddion o Arolwg Cenedlaethol Cymru sy’n ymwneud â chymunedau cydlynus wedi cael eu diweddaru eleni. Ar gyfer y dangosyddion hyn, cynhaliwyd dadansoddiad ychwanegol i ganfod gwahaniaethau yn ôl gwahanol grwpiau poblogaeth. Fodd bynnag, mae data newydd ar gael ar gyfer digartrefedd, a throseddu a chyfiawnder.
Mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd lle mae llai o amddifadedd yn fwy tebygol o gytuno â phob un o’r tri mesur cydlyniant cymunedol. Maent hefyd yn fwy tebygol o deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu a bod yn fodlon ar eu hardal leol na phobl sy’n byw mewn ardaloedd lle mae mwy o amddifadedd.
Mae’r dangosyddion yn cyflwyno darlun cymysg yn ôl oedran rhywun. Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o gytuno â phob un o’r tri mesur o gydlyniant cymunedol ac maent yn fwy tebygol o wirfoddoli. Fodd bynnag, mae pobl hŷn yn llai tebygol o deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu, ac yn llai tebygol o fod yn fodlon ar fynediad at wasanaethau a chyfleusterau da.
Mae cyfran sylweddol uwch o ddynion na menywod yn teimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu. Mae cyfran uwch o ddynion na menywod yn gwirfoddoli.
Mae pobl anabl neu bobl â salwch cyfyngus hirdymor yn llai tebygol o deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu, ac yn llai tebygol o fod yn fodlon ar fynediad at wasanaethau a chyfleusterau da.
Un dangosydd sy’n cyflwyno darlun ychydig yn wahanol yw gallu dylanwadu ar benderfyniadau lleol. Mae pobl iau a phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau lleol. Nid oes gwahaniaethau sylweddol yn ôl amddifadedd ardal, rhyw nac a yw rhywun yn anabl / â salwch cyfyngus hirdymor.
Mae canran yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag digartrefedd a’u rhyddhau o ddigartrefedd wedi gostwng, tra mae nifer yr unigolion mewn llety dros dro wedi cynyddu, ac, mae’r amcangyfrif o nifer yr unigolion sy’n cysgu allan dros 30% yn uwch ym Mehefin 2024 o gymharu ag amcangyfrifon 2022, er bod hyn wedi gostwng yn y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd tua 7% o oedolion yng Nghymru wedi dioddef trosedd (ac eithrio twyll) yn 2023-24. Roedd troseddau a gofnodir gan yr heddlu yng Nghymru (ac eithrio twyll) wedi gostwng 4% yn 2023-24 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ac roedd yr un peth yn wir am drais yn erbyn y person.
Roedd cyfanswm nifer y troseddau casineb a gofnodir gan yr heddlu yng Nghymru wedi gostwng 4% yn 2022/23. Fodd bynnag, roedd troseddau casineb lle’r oedd statws crefydd neu drawsryweddol yn ffactor ysgogol wedi cynyddu 26% a 22% yn y drefn honno.
Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?
Mae rhai o’r dangosyddion ar gyfer cymunedau cydlynus yn fesurau cymharol ddiweddar a gasglwyd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru. Felly, mae’n anodd gwneud sylwadau hyderus ar newidiadau dros amser. Mae effeithiau pandemig COVID-19 yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal â newidiadau yn y ffordd y cesglir data Arolwg Cenedlaethol Cymru, hefyd yn effeithio ar y gallu i gymharu â data cynharach. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod nifer o fesurau sy’n ymwneud â chydlyniant cymunedol ac ymgysylltu wedi dangos newid cadarnhaol yn y blynyddoedd diweddar.
Roedd dangosyddion cydlyniant cymunedol wedi bod yn weddol sefydlog ers 2016-17 tan y gwelwyd cynnydd sylweddol yn 2020-21. Yn ystod yr un flwyddyn hefyd gwelwyd newid sylweddol cadarnhaol yn y ffordd mae pobl yn teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau lleol, er bod y ffigur cyffredinol yn dal i fod yn isel. Ni fydd yn glir a fydd y cynnydd yma yn cael ei gynnal nes bydd data ar gael ar gyfer blynyddoedd yn y dyfodol.
Gwelwyd ychydig o welliannau dros yr hirdymor ym modlonrwydd pobl â’u hardal leol. Mae pobl sy’n teimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu wedi aros yn gymharol gyson ers iddynt gael eu holi am y tro cyntaf yn 2016-17 ac roeddent yn 66% yn 2021-22.
Roedd canran y bobl sy’n gwirfoddoli wedi bod yn gostwng ond mae’n ddangosydd arall sydd wedi gweld cynnydd yn ddiweddar. Cyrhaeddwyd y garreg filltir genedlaethol sef bod 30% o bobl yn gwirfoddoli yn 2022-23.
Mae unigrwydd, sy’n seiliedig ar gyfuniad o chwe mesur ar wahân, wedi aros yr un fath dros y blynyddoedd diwethaf. O fewn y mesur cyffredinol, mae’r ganran sydd ‘wedi gweld colli cael pobl o gwmpas’ wedi dilyn patrwm gwahanol gyda chanran wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod pandemig COVID-19 yn 2020-21 a 2021-22 cyn gostwng yn ôl i lefelau blaenorol yn 2022-23.
Ers i ddeddfwriaeth newid yn 2015, 2023-24 oedd yr ail dro i’r gyfradd atal digartrefedd am o leiaf chwe mis fod o dan 60% (fel yn 2022-23). Cyn hyn, roedd digartrefedd wedi cael ei atal mewn tua dwy ran o dair o achosion ers 2017-18.
Mae tua hanner y bobl yng Nghymru yn credu bod troseddu wedi codi’n sylweddol yn genedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ffigur hwn wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig ar ôl gostyngiad yn 2022-23. Fodd bynnag, ers 2015-16, bu tueddiadau cyffredinol ar i lawr yng nghyfran yr oedolion a oedd wedi dioddef trosedd (ac eithrio twyll), a dioddefwyr troseddau personol.
Cydlyniant cymunedol
Roedd bron i ddwy ran o dair o oedolion (64%) yn cytuno â phob un o’r tri mesur cydlyniant cymunedol (perthyn i’r ardal leol, pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda, a thrin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth) yn 2021-22 pan gasglwyd data ar y dangosydd hwn ddiwethaf gan Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae hyn yn gynnydd ers y blynyddoedd cyn y pandemig, ac yn ychydig o ostyngiad ers 2020-21. Roedd 95% o oedolion yn cytuno ag o leiaf un datganiad yn ymwneud â chydlyniant cymunedol yn 2021-22.
Mae’r ffigurau hyn wedi bod yn weddol sefydlog ers iddynt gael eu casglu am y tro cyntaf yn 2012 tan y cynnydd sylweddol yn 2020-21. Ni ddaw’n glir a yw’r cynnydd yn 2020-21 a 2021-22 yn effaith byrdymor o'r pandemig (gyda chymunedau’n dod at ei gilydd yn lleol) ac a fyddant yn cael eu cynnal, neu eu cynnal yn rhannol dros y tymor hirach nes y bydd data ar gael ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Mae tuedd glir tuag at fwy o gydlyniant cymunedol wrth i amddifadedd yn yr ardal ostwng. Roedd tua hanner y bobl a oedd yn byw yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf yn cytuno â’r tri datganiad, o’i gymharu ag oddeutu saith o bob deg yn yr ardaloedd â’r amddifadedd lleiaf.
Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o gytuno â phob un o’r tri mesur o gydlyniant cymunedol. Roedd y gyfran a oedd yn cytuno â’r tri datganiad yn 2021-22 yn amrywio o 57% ar gyfer pobl 16-24 oed i 77% ar gyfer y rhai a oedd yn 75 oed a hŷn.
Nid oes gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol rhwng dynion a menywod, nac yn ôl ethnigrwydd, o ran cytuno â'r tri datganiad.
Ffigur 5.1: Canran y bobl sy’n cytuno â datganiadau am eu hardal leol, yn ôl blwyddyn [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 5.1: Siart linell yn dangos canran y bobl sy’n cytuno â thri datganiad am gydlyniant cymunedol yn eu hardal leol rhwng 2012-13 a 2021-22. Yn 2021-22, roedd 84% yn cytuno bod pobl yn yr ardal o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda; roedd 82% yn cytuno bod pobl yn trin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth; ac roedd 79% yn cytuno eu bod yn perthyn i’r ardal leol.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru: Llywodraeth Cymru
[Nodyn 1] Nid oes gan y blynyddoedd 2015-16, 2017-18 a 2019-20 ddata sy’n gysylltiedig â nhw.
Teimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu
Mae dwy ran o dair o oedolion yn teimlo’n ddiogel mewn gwahanol sefyllfaoedd ar ôl iddi dywyllu.
Y dangosydd cenedlaethol yw canran y bobl a gytunodd â'r pedwar datganiad am deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu gartref, wrth gerdded yn eu hardal leol, teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio mewn car. Yn 2021-22, roedd 66% o bobl yn teimlo’n ddiogel ym mhob un o’r pedair sefyllfa. Mae’r canlyniadau hyn wedi aros yn weddol gyson ar draws y blynyddoedd ers gofyn am y tro cyntaf yn 2016-17.
Mae tuedd glir tuag at fwy o deimlad o ddiogelwch wrth i amddifadedd yn yr ardal ostwng, gyda 72% o bobl sy'n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf yn teimlo'n ddiogel ym mhob sefyllfa o gymharu â 54% o bobl sy'n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf.
Mae gwahaniaeth amlwg hefyd yn ôl rhyw, gyda dynion yn teimlo’n fwy diogel (81%) na menywod (51%).
Roedd pobl anabl neu bobl â salwch cyfyngus hirdymor, a phobl 65 oed neu’n hŷn hefyd yn llai tebygol o deimlo’n fwy diogel ar ôl iddi dywyllu.
Ffigur 5.2: Canran y bobl sy’n cytuno â datganiadau am deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu, 2021-22 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 5.2: Siart far yn dangos canran y bobl sy’n cytuno â datganiadau am deimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu yn 2021-22. Roedd 96% yn teimlo’n ddiogel gartref, roedd 97% yn teimlo’n ddiogel wrth deithio mewn car, roedd 75% yn teimlo’n ddiogel wrth gerdded yn yr ardal leol ac roedd 76% yn teimlo’n ddiogel wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
[Nodyn 1] ‘Ddim yn gwybod’ oedd ateb 27% o’r bobl a holwyd i’r cwestiwn am drafnidiaeth gyhoeddus ac ni chawsant eu cynnwys yn y dadansoddiad. O ganlyniad, mae cyfran y bobl sy’n teimlo’n ddiogel ym mhob un o’r pedair sefyllfa yn is nag y byddai’r canlyniadau unigol yn ei awgrymu.
Bodlonrwydd â’r ardal leol
Yn 2021-22, roedd 89% o bobl yn dweud eu bod yn fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw, sydd ychydig yn uwch na'r canlyniadau yn y blynyddoedd blaenorol.
Roedd pobl a oedd yn byw yn yr 20% o’r ardaloedd o amddifadedd lleiaf yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar eu hardal leol na phobl a oedd yn byw yn 40% o’r ardaloedd o amddifadedd mwyaf.
Ni welwyd unrhyw gysylltiadau rhwng bodlonrwydd ar yr ardal leol a rhyw, ethnigrwydd, oedran na bod yn anabl / bod â salwch cyfyngus hirdymor.
Mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da
Yn 2021-22, roedd 86% o bobl yn fodlon eu bod yn gallu cyrraedd neu ddefnyddio’r gwasanaethau a’r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt, o fewn 15 i 20 munud ar droed o’u cartref, ychydig yn is na 2020-21 ond cynnydd ers 2018 19 (81%). Nid oedd y gostyngiad diweddaraf yn arwyddocaol yn ystadegol.
Roedd hyn yn amrywio yn ôl y math o ardal gyda chanran sylweddol is o bobl o ardaloedd gwledig yn cael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da o’i gymharu â’r rhai o ardaloedd trefol (83% o’i gymharu ag 87%). Nid yw’n syndod mai preswylwyr pentrefannau ac adeiladau ynysig oedd y lleiaf bodlon â’u mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da, gyda dim ond 77% yn dangos eu bod yn fodlon ar y dangosydd hwn.
Mae tuedd amlwg yn ôl oedran, gyda phobl iau yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar eu mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da na phobl hŷn.
Mae gwahaniaeth sylweddol hefyd yn ôl a oes gan bobl anabledd / salwch cyfyngus hirdymor (80% yn fodlon) neu beidio (89% yn fodlon).
Ffigur 5.3: Mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da yn ôl ardal, 2021-22
Disgrifiad o Ffigur 5.3: Siart far yn dangos canran y bobl sy’n fodlon â’u mynediad at wasanaethau a chyfleusterau da. Mae 87% o bobl mewn ardaloedd trefol yn fodlon o’i gymharu â 77% o bobl sy’n byw mewn pentrefannau ac anheddau ynysig.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Dywedodd llai na 60% o bobl (yn 2022-23) fod gwasanaethau trefol fel canolfannau cymunedol, ysgolion uwchradd, llyfrgelloedd a chlybiau ieuenctid neu chwaraeon ar gael yn eu hardal leol. I’r gwrthwyneb, dywedodd dros 80% eu bod yn gallu cerdded o’u cartref i gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, siopau a thafarndai mewn 15 i 20 munud. Ar ben hynny, ar gyfer pob un o’r gwasanaethau trefol uchod, bu gostyngiad hefyd yng nghanran y bobl a ddywedodd eu bod ar gael yn eu hardal leol ers 2018-19, fel sy’n wir am wasanaethau canolfannau iechyd / meddygfeydd, fferyllfeydd, swyddfeydd post a pheiriannau arian.
Dylanwadu ar benderfyniadau lleol
Ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf y mae data ar gael (2021-22), mae cyfran y bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau lleol wedi cynyddu, er bod y ffigur cyffredinol yn dal yn isel.
Yn 2021-22, roedd 30% o bobl yn teimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol o’i gymharu â 26% yn 2020-21 a 19% yn 2018-19. Mae hyn yn gynnydd sylweddol ers cyn 2020. Gall hyn yn adlewyrchu newid go iawn o ganlyniad i’r pandemig, ond mae angen ei fonitro yn ystod blynyddoedd yr arolwg yn y dyfodol.
Mae pobl rhwng 16 a 24 oed yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol nag unrhyw grŵp oedran arall.
Roedd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol hefyd yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau yn eu hardal leol.
O ran rheoli ffactorau eraill, ni chafwyd unrhyw wahaniaethau sylweddol o ran rhyw, p’un a oedd gan rywun anabledd / salwch cyfyngus hirdymor, nac o ran amddifadedd ardal.
Ffigur 5.4: Canran y bobl sy’n teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar yr ardal leol, 2012-13 i 2021-22
Disgrifiad o Ffigur 5.4: Siart linell yn dangos canran y bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol. Yn 2021-22, dywedodd 30% eu bod yn teimlo y gallent ddylanwadu ar benderfyniadau, o’i gymharu â 19% yn 2018-19. Mae canlyniad 2021-22 yn uwch nag ym mhob blwyddyn ers i'r cwestiwn gael ei ofyn am y tro cyntaf yn 2012-13.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Gwirfoddoli
Roedd canlyniadau data ar-lein a gasglwyd fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23 yn dangos bod 30% o bobl wedi dweud eu bod yn gwirfoddoli i glybiau neu sefydliadau. Mae hyn yn cymharu â 26% yn 2019-20 (pan gynhaliwyd yr arolwg wyneb yn wyneb) a 29% yn 2021-22 (pan ofynnwyd y cwestiynau gwirfoddoli fel rhan o’r modiwl ar-lein am y tro cyntaf). Ym mhob blwyddyn, roedd y bobl fwyaf cyffredin yn gwirfoddoli ar gyfer elusennau a chlybiau chwaraeon.
Yn 2022-23, gwirfoddolodd cyfran uwch o ddynion (32%) na menywod (27%), fel y gwnaeth cyfran uwch o bobl heb anabledd a phobl heb salwch cyfyngus hirdymor (31%) o’i gymharu â phobl anabl a phobl â salwch cyfyngus hirdymor (26%).
Mae gwirfoddoli’n tueddu i gynyddu gydag oedran, gan gyrraedd uchafbwynt ymysg pobl 65-74 oed (35%) cyn disgyn ychydig ymysg pobl 75 oed a hŷn (32%). Y rhai 16 i 24 oed yw’r lleiaf tebygol o wirfoddoli (24%).
Nid oes gwahaniaethau sy’n arwyddocaol yn ystadegol yn ôl ethnigrwydd.
Ffigur 5.5: Canran y bobl sy’n gwirfoddoli yn ôl math o sefydliad, 2022-23
Disgrifiad o Ffigur 5.5: Siart far yn dangos canran y bobl sy’n gwirfoddoli, yn ôl math o sefydliad, yn 2022-23. Mae pobl yn fwy tebygol o wirfoddoli ar gyfer mudiadau elusennol (10%) neu glybiau chwaraeon (8%).
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd gwirfoddoli yw “cynyddu canran y bobl sy’n gwirfoddoli 10% erbyn 2050, gan ddangos statws Cymru fel cenedl sy'n gwirfoddoli”. Mae hyn yn golygu cyrraedd ffigur o 30% erbyn 2050. Cafodd y garreg filltir hon ei chyflawni yn 2022-23 ond, gyda’r ansicrwydd ynghylch pa mor gynaliadwy fydd y cynnydd a welwyd yn ystod pandemig COVID-19, nid yw’n glir a fydd y lefel hon yn cael ei chynnal.
Unigrwydd
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn casglu data gan ddefnyddio graddfa unigrwydd De Jong Gierveld sy’n mynd i'r afael â chwe mesur o unigrwydd emosiynol a chymdeithasol.
Yn 2022-23, yn seiliedig ar bob un o’r chwe mesur, canfuwyd bod 13% o bobl Cymru yn unig, sef yr un ganran ag yn y ddwy flynedd ddiwethaf (2021-22 a 2020-21) ac yn is nag yn 2019-20. Fodd bynnag, mae amrywiadau amlwg yng nghanran y bobl sy’n dweud eu bod yn teimlo’n unig ar draws y mesurau unigol:
- yn 2019-20, dywedodd 36% o bobl eu bod yn gweld eisiau cael pobl o gwmpas; cynyddodd hyn yn sylweddol yn ystod pandemig COVID-19 (71% yn 2020-21 a 53% yn 2021-22), cyn gostwng i 36% eto yn 2022-23
- roedd canran y bobl sy’n dweud bod ganddynt bobl y maent yn gallu ymddiried yn llwyr ynddynt wedi cynyddu o 59% yn 2019-20 i 67% yn 2020-21; cafodd hyn ei gynnal yn 2021-22 a 2022-23
- rhwng 2019-20 a 2021 22, roedd cynnydd yng nghanran y bobl a ddywedodd fod ganddynt ddigon o bobl roeddent yn teimlo’n agos atynt, a digon o bobl y gallent ddibynnu arnynt; roedd y ffigurau ar gyfer 2022-23 ychydig yn is ond nid yn newid arwyddocaol yn ystadegol o 2020-21
Mae canlyniadau diweddaraf (2022-23) Arolwg Cenedlaethol Cymru yn awgrymu bod oedolion iau (16 i 44 oed) yn fwy tebygol o deimlo’n unig na phobl 65 oed a hŷn.
Mae pobl sy’n byw mewn amddifadedd materol, ac unigolion sydd â chyflwr iechyd meddwl neu sydd ag iechyd cyffredinol gwaeth, yn fwy tebygol o fod yn unig.
Mae gwahaniaethau hefyd yn ôl ethnigrwydd, gyda phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn fwy tebygol o fod yn unig.
Canfu adolygiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru o anghydraddoldebau unigrwydd:
Mae mudwyr, aelodau o grwpiau ethnig a hil lleiafrifiedig, unigolion o’r rhyw leiafrifol, trawsryweddol, ac nad ydynt yn cydymffurfio o ran eu rhywedd, pobl anabl, y rhai sydd ag iechyd meddwl neu gorfforol gwael, gofalwyr, unigolion sydd â statws economaidd-gymdeithasol isel a phobl ddi-waith, i gyd yn profi unigrwydd yn anghymesur.
Ffynhonnell: Barreto et al 2023: 4
Gall effaith yr anghydraddoldebau hyn waethygu pan fyddant yn croestorri.
Ffigur 5.6: Canran y bobl sy’n teimlo’n unig yn ôl rheswm a blwyddyn
Disgrifiad o Ffigur 5.6: Siart far yn dangos y canlyniadau ar gyfer 2019-20 a 2022-23 a’r chwe chwestiwn a ofynnwyd i greu’r mesur o unigrwydd. Yn gyffredinol, mae’r ymatebion i’r datganiadau yn dangos bod pobl yn llai unig yn 2022-23 o’i gymharu â 2019-20.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
Allgáu digidol
Cafodd dangosydd cenedlaethol newydd ei osod yn 2021 a fydd yn mesur statws cynhwysiant digidol. Mae profion gwybyddol yn cael eu cynnal ar set newydd o gwestiynau sy’n cyd-fynd ag egwyddorion y safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol i’w cynnwys mewn camau o Arolwg Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol. Mae’r cwestiynau yn seiliedig ar ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gynhaliwyd gan Brifysgol Lerpwl. Pan fydd y cwestiynau wedi’u cwblhau’n derfynol, byddant yn darparu data i fesur allgáu digidol ledled Cymru ac yn cyfrannu at y dangosydd cenedlaethol.
Yn y cyfamser, mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2022-23 yn dangos bod 93% o oedolion yn defnyddio’r rhyngrwyd at ddibenion personol yn y cartref, yn y gwaith neu yn rhywle arall, sydd heb newid ers 2021-22 a 2020-21.
Mae data Arolwg Cenedlaethol Cymru hefyd yn dangos, er bod bron pob person 16 i 64 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd, bod hyn yn gostwng i 89% o bobl 65 i 74 oed a 68% o’r rheini sy’n 75 oed a hŷn.
Mae’r arolwg hefyd yn gofyn cwestiynau am weithgarwch digidol a’r sgiliau sydd gan bobl. Mae’r rhain wedi eu grwpio’n bum math o sgil:
- trin gwybodaeth a chynnwys
- cyfathrebu
- trafod
- datrys problemau
- bod yn ddiogel ac yn gyfreithiol ar-lein
Daw’r data diweddaraf o 2021-22, lle’r oedd 78% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd wedi gwneud gweithgareddau a oedd yn ymwneud â phob un o’r pump sgil hyn yn y tri mis diwethaf, o’i gymharu â 73% yn 2019-20.
Digartrefedd
Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae canran yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag digartrefedd a’u rhyddhau o ddigartrefedd wedi gostwng, ac mae nifer yr unigolion mewn llety dros dro wedi cynyddu. Mae’r amcangyfrif o nifer yr unigolion sy’n cysgu allan dros 30% yn uwch ym mis Mehefin 2024 o’i gymharu â Mehefin 2022.
Atal digartrefedd
Ymysg aelwydydd yng Nghymru a oedd dan fygythiad o ddigartrefedd rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, cafodd digartrefedd ei atal am o leiaf 6 mis mewn 58% o’r achosion. Mae hyn yn debyg i’r gyfran o 59% ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023.
Ers i ddeddfwriaeth newid yn 2015, 2023-24 oedd yr ail dro i’r gyfradd atal am o leiaf chwe mis fod o dan 60% (fel yn 2022-23). Cyn hyn, roedd digartrefedd wedi cael ei atal mewn tua dwy ran o dair o achosion ers 2017-18.
Rhyddhad o ddigartrefedd
Roedd cyfran yr aelwydydd a ryddhawyd o ddigartrefedd wedi aros yn gymharol sefydlog o 2016-17 i 2019-20. Fodd bynnag, mae wedi bod yn gostwng ers hynny, o 41% yn 2019-20 i 26% yn 2023-24.
Ffigur 5.7: Canran yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag digartrefedd a’u rhyddhau o ddigartrefedd, 2015-16 i 2023-24
Disgrifiad o Ffigur 5.7: Siart linell yn dangos canrannau’r aelwydydd a gafodd eu hatal rhag digartrefedd a’u rhyddhau o ddigartrefedd yng Nghymru rhwng 2015-16 a 202324. Mae’r siart yn dangos bod canrannau’r aelwydydd sy’n cael eu hatal rhag bod yn ddigartref yng Nghymru wedi aros yn gymharol gyson rhwng 2015-16 a 2021-22 cyn disgyn yn 2022-23 ac aros ar lefel debyg ar gyfer 2023-24. Yn yr un modd, roedd canrannau’r aelwydydd a gafodd eu rhyddhau o ddigartrefedd yng Nghymru hefyd yn sefydlog rhwng 2016-17 a 2020-21, ac ar ôl hynny bu gostyngiad yn 2021-22, 2022-23 a 2023-24.
Llety dros dro
Mae gwybodaeth fisol yn dangos bod 11,301 o unigolion mewn llety dros dro ar 30 Mehefin 2024, a oedd yn gynnydd o 4% ar y flwyddyn flaenorol. Felly mae’r cynnydd a welwyd yn nifer yr unigolion mewn llety dros dro dros y blynyddoedd diwethaf yn parhau. Roedd tua chwarter y rhain (2,881) yn blant dibynnol o dan 16 oed, gostyngiad o 14% ers y flwyddyn flaenorol.
Y math mwyaf cyffredin o lety dros dro oedd gwely a brecwast a gwestai, a oedd yn darparu llety i 3,670 o unigolion.
Cysgu allan
Ar 30 Mehefin 2024, amcangyfrifwyd bod 153 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn 12% yn llai na’r amcangyfrif o 173 o unigolion yn cysgu allan yn ystod yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol, ond dros 30% yn uwch na’r amcangyfrif o 117 o unigolion yn cysgu allan ar 30 Mehefin 2022.
Caerdydd, Ceredigion a Chasnewydd oedd yr awdurdodau lleol gyda’r amcangyfrifon uchaf o bobl yn cysgu allan ar 30 Mehefin 2024.
Troseddu a chyfiawnder
Gosodwyd dangosydd cenedlaethol newydd yn 2021 a fydd yn mesur canran y bobl sydd â hyder yn y system gyfiawnder. Nid yw data wedi ei gasglu eto ar gyfer y dangosydd hwn, ond mae’n cael ei ddatblygu.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae troseddau a gofnodir gan yr heddlu yng Nghymru wedi gostwng tra bo cyfran yr oedolion sy’n ddioddefwyr troseddau wedi aros yn gymharol sefydlog.
Dioddefwyr troseddau a chanfyddiadau o droseddau
Yn 2023-24, roedd 6.9% o oedolion yng Nghymru wedi dioddef trosedd (yn debyg i 6.6% y flwyddyn flaenorol) ac roedd 1.9% wedi dioddef trosedd bersonol (wedi gostwng o 2.5% y flwyddyn flaenorol). Rydym wedi gweld tuedd ar i lawr yn y gyfres amser sydd ar gael o 2015-16, pan oedd y canrannau’n 14.7% a 4.4%.
Mae’r data diweddaraf ar ganfyddiadau o droseddu yn 2023-24 yn dangos bod tua hanner y bobl yng Nghymru (49%) yn credu bod troseddu wedi codi’n sylweddol yn genedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er bod hyn wedi cynyddu o 41% yn 2022-23, mae’n dal yn is na’r lefelau cyn y pandemig o 53% yn 2018-19 a 2019-20 (nid oes data ar gael ar gyfer 2020-21 na 2021-22).
Mae canran y rhai sy’n credu bod troseddu wedi cynyddu’n sylweddol yn eu hardal leol yn llawer iawn llai (17%). Mae’r ffigur hwn wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig ar ôl gostwng i 11% yn 2022-23.
Troseddau a gofnodir gan yr heddlu
Roedd troseddau a gofnodir gan yr heddlu yng Nghymru (ac eithrio twyll) wedi gostwng 4% yn 2023-24 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Gostyngodd trais yn erbyn y person 4% hefyd, er bod y gyfradd fesul 1,000 o’r boblogaeth yn dal yn sylweddol uwch na degawd yn ôl (Ffigur 5.8).
Gwelwyd cynnydd mewn tri o’r naw prif gategori o droseddau yn 2023-24 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gan gynnwys troseddau yn ymwneud â meddu ar arfau (cynnydd o 11%) a throseddau dwyn (cynnydd o 8%). Roedd y cynnydd mewn troseddau dwyn wedi’i sbarduno’n rhannol gan gynnydd o 34% mewn dwyn o siopau.
Ymhlith y prif gategorïau o droseddau eraill, gwelwyd gostyngiad sylweddol mewn troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus (gostyngiad o 19%) a throseddau yn ymwneud â chyffuriau (gostyngiad o 15%). Roedd gostyngiad hefyd mewn achosion o ddifrod troseddol a thanau bwriadol (gostyngiad o 8%), lladrad (gostyngiad o 7%) a throseddau rhywiol (gostyngiad o 5%).
Mae troseddau yn ymwneud â thwyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron wedi cynyddu 5% yng Nghymru rhwng 2022-23 a 2023-24 er bod y gyfradd wedi aros yr un fath ar bum trosedd am bob 1,000 o'r boblogaeth yng Nghymru.
Ffigur 5.8: Troseddau a gofnodir gan yr Heddlu am bob 1,000 o'r boblogaeth, 2002-03 i 2023-24
Disgrifiad o Ffigur 5.8: Siart linell yn dangos cyfraddau troseddau a gofnodir gan yr heddlu am bob 1,000 o’r boblogaeth yng Nghymru rhwng 2002-03 a 2023-24. Mae’r siart yn dangos mai cyfraddau troseddau dwyn sydd wedi newid fwyaf, gan ddisgyn o dros 50 am bob 1,000 o’r boblogaeth yn 2002-03 i tua 20 am bob 1,000 o’r boblogaeth yn y blynyddoedd diweddaraf. Roedd troseddau trais yn erbyn y person wedi bod yn cynyddu ers 2013-14 ac ers 2018-19 roedd y gyfradd yn uwch nag erioed, er ei bod wedi gostwng yn 2023-24. Gwelwyd gostyngiad yng nghyfraddau difrod troseddol a thanau bwriadol tan 2016-17, ond mae’r rhain wedi bod yn sefydlog ers hynny. Cyfradd troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus oedd yr isaf am bob 1,000 o'r boblogaeth tan 2021-22, pan ddechreuodd y gyfradd godi yn uwch na chyfradd difrod troseddol a thanau bwriadol.
Ffynhonnell: Troseddau a Gofnodir gan yr Heddlu, y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Troseddau casineb
Roedd gostyngiad o 4% mewn troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru yn 2022-23 o’i gymharu â 2021-22. Cofnodwyd 6,041 o droseddau casineb ar draws pedair ardal heddlu Cymru, ac o’r rhain roedd:
- 62% yn droseddau casineb ar sail hil
- 20% yn droseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol
- 5% yn droseddau casineb ar sail crefydd
- 14% yn droseddau casineb ar sail anabledd
- 5% yn droseddau casineb ar sail trawsrywedd
O’i gymharu â 2021-22, roedd cynnydd yn nifer y troseddau casineb â statws crefydd neu drawsryweddol fel ffactorau cymell a gofnodwyd, ac roedd gostyngiadau mewn troseddau casineb gydag anabledd, hil a chyfeiriadedd rhywiol fel ffactorau cymell a gofnodwyd:
- gostyngiad o 8% mewn troseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol
- gostyngiad o 4% mewn troseddau casineb ar sail hil
- gostyngiad o 2% mewn troseddau casineb ar sail anabledd
- cynnydd o 22% mewn troseddau casineb ar sail trawsrywedd
- cynnydd o 26% mewn troseddau casineb ar sail crefydd
Er bod hyn yn ffordd dda o fesur y galw sy’n gysylltiedig â throseddau casineb ar yr heddlu, oherwydd bod heddluoedd yn gwneud gwelliannau sylweddol o ran sut maent yn cofnodi troseddau ers 2014, yn ogystal â gwelliannau o ran nodi beth yw trosedd casineb, nid yw ffigurau troseddau a gofnodir gan yr heddlu yn darparu gwybodaeth ddibynadwy am dueddiadau mewn troseddau casineb ar hyn o bryd. Hefyd, ni ddylid gweld ffigurau gan yr heddlu fel mesur o ba mor gyffredin yw troseddau casineb.
Darllen pellach
Pa ffactorau sy’n gysylltiedig â phobl yn teimlo’n ddiogel yn eu hardal leol?
Pa ffactorau sy’n gysylltiedig â phobl yn teimlo’n fodlon ar yr ardal lle maent yn byw?
Pa ffactorau sy’n gysylltiedig â phobl yn cytuno bod ymdeimlad o gymuned yn eu hardal leol?
Unigrwydd (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2022 i Fawrth 2023
Adolygiad o Dystiolaeth Anghydraddoldebau Unigrwydd (Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru)
Tuag at y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol: safbwyntiau dinasyddion a rhanddeiliaid
Ffynonellau data
Defnyddiwyd y ffynonellau data a ganlyn yn y naratif hwn:
Digartrefedd
Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: gwybodaeth reoli fisol
Troseddau
Data ar Ganfyddiadau: Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG))
Tablau data agored am niferoedd troseddau personol (SYG)
Tablau data agored am droseddau a gofnodir gan yr heddlu (Y Swyddfa Gartref)
Troseddau a gofnodir gan yr heddlu 2023-24 (SYG)