Llesiant Cymru, 2023 - Prif bwyntiau
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Prif bwyntiau
Mae Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, wedi wynebu argyfwng costau byw: mae chwyddiant wedi codi’n sylweddol gan gyrraedd ei lefel uchaf sef 11.1% ym mis Hydref 2022, gan arwain at ostyngiadau yn incwm gwirioneddol pobl. Gan fod y cynnydd mewn prisiau wedi bod fwyaf amlwg ym mhrisiau ynni a bwyd, pobl ar incwm isel sydd wedi teimlo effaith hyn fwyaf gan eu bod yn gwario cyfran uwch o’u cyllideb ar y nwyddau hyn, er gwaethaf y mesurau a roddwyd ar waith gan Lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru i amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed.
Roedd gostyngiad bach yn y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023, ac roedd cyfradd y Deyrnas Unedig wedi codi rhywfaint. Roedd anweithgarwch economaidd wedi codi yn ystod 2022 a dechrau 2023 gydag anweithgarwch oherwydd salwch yn cyrraedd lefelau hanesyddol uchel.
Sefydlwyd carreg filltir genedlaethol ar gymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur yn 2021, sef y bydd o leiaf 90% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050. Mae amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2021, yn dangos gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur sy’n cael ei sbarduno gan gynnydd yn y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed. Mae’n rhy gynnar i asesu effaith y pandemig ar y duedd hon.
Ym mis Ebrill 2022, 6.1% oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (llawn amser), gan gynyddu o 4.4% y flwyddyn flaenorol. Roedd y gwahaniaeth cyflog ar sail anabledd yn 9.7%, sy’n golygu bod gweithwyr anabl yng Nghymru yn ennill £1.32 yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl. Mae hyn wedi lleihau £0.13 (1.7 pwynt canran) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Yn 2022 roedd y gwahaniaeth ar sail ethnigrwydd yn £2.23 yr awr (neu 16.8%), sy’n golygu bod gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru yn ennill £2.23 yn llai yr awr ar gyfartaledd na gweithwyr Gwyn. Mae’r gwahaniaeth cyflog wedi ehangu £1.38 (9.9 pwyntiau canran) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Ein hôl troed byd-eang yw cyfanswm y baich amgylcheddol y mae cymdeithas yn ei roi ar y blaned. Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd ôl troed byd-eang yw y bydd Cymru ond yn defnyddio ei chyfran deg o adnoddau’r byd erbyn 2050. Mae amcangyfrifon diweddar yn awgrymu bod yr ôl troed byd-eang fesul unigolyn wedi gostwng bron i draean rhwng 2004 a 2018. Fodd bynnag, mae hyn yn parhau i fod dros ddwywaith yr amcangyfrif o’r biogapasiti yng Nghymru. Pe bai holl boblogaeth y byd yn byw fel dinasyddion Cymru, byddai angen tir cyfwerth â 2.08 Daear ar ddynoliaeth.
Mae’r asesiad cynhwysfawr diweddaraf o adnoddau naturiol Cymru yn dangos bod amrywiaeth fiolegol yn dirywio ar y cyfan. Y garreg filltir genedlaethol ar fioamrywiaeth yw gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth drwy wella statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a’u hadferiad clir erbyn 2050. Roedd dangosydd arbrofol ar statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2021 yn dangos bod dosbarthiad rhywogaethau yng Nghymru wedi dirywio dros yr hirdymor ond ei fod yn sefydlog yn fwy diweddar.
Mae Cymru wedi gweld gostyngiad o ran cynhyrchu gwastraff a gwelliannau sylweddol yng nghyfraddau ailgylchu gwastraff, ond rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau’n gyflymach nag y gellir eu hadnewyddu.
Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer disgwyliad oes iach yw cynyddu disgwyliad oes iach oedolion a lleihau’r bwlch rhwng disgwyliad oes iach y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig o leiaf 15% erbyn 2050. Mae’r data yn dangos bod disgwyliad oes iach yn parhau i fod yn waeth i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig, ond mae wedi aros yn gymharol sefydlog rhwng 2011-13 a 2018-20.
Nod y garreg filltir genedlaethol yw cynyddu canran yr oedolion sydd â dau ymddygiad iach neu fwy i 97% erbyn 2050. Yn 2022-23 roedd y mwyafrif (92%) o oedolion yn dweud eu bod yn dilyn dau neu fwy o’r pum ymddygiad ffordd o fyw iach.
Nod y garreg filltir genedlaethol yw cynyddu canran y plant sydd â dau ymddygiad iach neu fwy i 94% erbyn 2035 ac i dros 99% erbyn 2050. Mae’r data’n dangos bod canran y bobl ifanc a oedd yn cyrraedd y garreg filltir genedlaethol yn 2021 yn 90%, ychydig yn uwch na’r 88% a gofnodwyd yn 2019 a 2017.
Y garreg filltir genedlaethol ar lesiant meddyliol yw gwella llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant a dileu’r bwlch rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru erbyn 2050. Roedd llesiant meddyliol oedolion ar gyfartaledd yn debyg i’r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, oherwydd y gwahaniaeth yn y moddau casglu, mae’n anodd cymharu’r dangosydd hwn yn y tymor hwy.
Rhwng 2019-20 a 2021-22, roedd ychydig mwy nag un o bob pump o’r boblogaeth (21%%) yn byw mewn tlodi incwm cymharol ar ôl talu am gostau eu tai.
Mae merched yn parhau i gael deilliannau addysgol gwell ar lefel TGAU. Yn ystod yr haf 2022, dyfarnwyd mwy o raddau A* - C i ferched na bechgyn. Roedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng graddau ar raddfa A* ac A: dyfarnwyd 6.5 a 4.5 pwynt canran yn fwy i ferched na bechgyn, yn y drefn honno. Ehangodd y gwahaniaeth o ran graddau A* yn 2022.
Mae bwlch o hyd rhwng deilliannau addysgol plant yn yr ysgol sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, gyda’r bwlch ar lefel TGAU yn ehangu yn y 6 blynedd diwethaf.
Yn 2022-23, roedd sgoriau boddhad â bywyd yn parhau i fod yn debyg i’r lefelau cyn y pandemig ar gyfer pob grŵp oedran ac eithrio’r rhai rhwng 16 a 24 oed a rhwng 25 a 44 oed. Mae pobl 16 i 24 oed yn dal yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig na phobl 65 oed a hŷn.
Ar wahân i bobl ifanc, mae rhai grwpiau eraill sy’n fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig. Mae’r rhain yn cynnwys pobl anabl sydd â nam hirdymor cyfyngol, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a phobl sy’n lesbiaid, yn hoyw neu’n ddeurywiol.
Roedd dangosyddion cydlyniant cymunedol wedi bod yn weddol sefydlog ers iddynt gael eu casglu am y tro cyntaf yn 2012 tan y gwelwyd cynnydd sylweddol yn 2020-21. Yn ystod yr un flwyddyn hefyd gwelwyd newid sylweddol cadarnhaol yn y ffordd mae pobl yn teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau lleol. Ni fydd yn glir a fydd y cynnydd yn 2020-21 a 2021-22 yn cael ei gynnal nes bydd data ar gael ar gyfer nifer o flynyddoedd yn y dyfodol.
Cyrhaeddwyd y garreg filltir genedlaethol eleni sef bod 30% o bobl yn gwirfoddoli, ond bydd angen cynnal hyn. Cynyddodd gwirfoddoli yn ystod pandemig COVID-19, ac mae canlyniadau 2022-23 yn dangos bod y lefel uwch hon wedi cael ei chynnal (o 26% yn 2019-20, i 29% yn 2021-22 a 30% yn 2022-23).
Nid oedd llawer o newid eleni yn nifer yr aelwydydd a gysylltodd â’u hawdurdod lleol i gael cymorth gan eu bod dan fygythiad o ddigartrefedd. Ond roedd cynnydd yn nifer yr aelwydydd yr aseswyd eu bod yn ddigartref a nifer yr aelwydydd a oedd mewn llety dros dro yn 2022-23 o’i gymharu â 2021-22.
Mae mwy o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd eleni. Dywedodd 39% o oedolion eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy. Roedd gostyngiad yn y ganran a ddywedodd nad oeddent yn gwneud unrhyw chwaraeon na gweithgarwch corfforol – o 44% yn 2021-22 i 40% eleni.
Mae llai o blant yn cymryd rhan mewn chwaraeon rheolaidd y tu allan i’r ysgol. Roedd 39% o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn chwaraeon wedi’u trefnu dair gwaith yr wythnos neu fwy yn 2022, i lawr 9 pwynt canran o’r arolwg diwethaf yn 2018.
Gostyngodd nifer a chanran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021, gyda’r ganran bellach yr isaf i'w chofnodi erioed mewn cyfrifiad. Mae carreg filltir genedlaethol i filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn ôl y cyfrifiad, roedd 538,000 o bobl yn gallu siarad Cymraeg yn 2021, i lawr o bron i filiwn yn 1911.
Yn 2021, amcangyfrifwyd bod allyriadau nwyon tŷ gwydr a ryddhawyd i’r atmosffer yn uniongyrchol o Gymru yn gyfanswm o 36.3 miliwn o dunelli o garbon deuocsid cyfatebol (MtCO2e), 7% o gynnydd ers 2020.