Llesiant Cymru, 2023 - Cymru iachach
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Y nod ar gyfer Cymru iachach
Awdur: Dr William Perks
Cymru iachach: Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle mae modd deall dewisiadau ac ymddygiad sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
Beth ydym wedi ei ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?
- Mae’r holl ddata sydd yn y bennod hon nawr yn dangos effaith o leiaf un cyfnod ym mhandemig y coronafeirws (COVID-19), a’r tu hwnt mewn rhai achosion.
- Gwelwyd gostyngiad mewn disgwyliad oes yn y cyfnod diweddaraf sydd ar gael (2018-20), sy’n cynnwys rhan o gyfnod pandemig COVID-19.
- Mae disgwyliad oes yn uwch i fenywod, ond mae cyfran y bywyd a dreulir mewn iechyd da yn uwch i ddynion.
- Mae dadansoddiad (yn seiliedig ar y cyfnod rhwng 2018 a 2020) yn dangos bod y bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig wedi aros yn eang ond yn gymharol sefydlog, gan gulhau ychydig ymysg dynion.
- Yn 2022, bu 35,694 o farwolaethau o bob achos, gostyngiad o’i gymharu â’r nifer uchel o farwolaethau a welwyd yn 2020 a 2021 ond sy’n dal yn uwch na’r niferoedd a gofnodwyd cyn y pandemig.
- Roedd y mwyafrif o oedolion a phobl ifanc yn dweud eu bod yn dilyn dau neu fwy o’r pum ymddygiad ffordd o fyw iach.
- Roedd canlyniadau cymysg ar gyfer ymddygiad ffordd iach o fyw menywod beichiog yn yr asesiad cychwynnol, gyda chanran is o fenywod yn dweud eu bod yn ysmygu, ond canran uwch yn cael eu cofnodi fel rhai sy'n ordew neu gyda chyflwr iechyd meddwl nag yn y flwyddyn flaenorol.
- Roedd lefelau llesiant meddyliol oedolion a phobl ifanc ychydig yn is ond yn debyg i’r hyn a welwyd yn y blynyddoedd blaenorol.
- Roedd data ar foddhad â bywyd a lefelau gorbryder ymysg oedolion wedi gwella ar ôl cwympo yn ystod y pandemig, ond roedd data ar foddhad â bywyd wedi gostwng ymysg pobl ifanc.
Beth yw’r cynnydd hirdymor tuag at y nod?
Ymddengys fod rhywfaint o gynnydd wedi ei wneud tuag at gyflawni’r nod, gyda nifer o ddangosyddion cenedlaethol Cymru iachach yn aros yn weddol sefydlog a ddim yn dangos newid sylweddol dros y cyfnodau y maent ar gael. Mae’r pandemig hefyd wedi cael effaith amlwg ar nifer o’r tueddiadau yn y data diweddaraf, ac nid yw’r goblygiadau ar gyfer tueddiadau tymor hwy yn glir. Am y rheswm hwn, mae’r casgliadau hirdymor canlynol yn cael eu llunio’n bennaf ar sail tystiolaeth cyn y pandemig.
Roedd disgwyliad oes wedi bod yn codi ers yr Ail Ryfel Byd, er bod hynny’n arafach dros y degawd diwethaf. Fodd bynnag, mae wedi disgyn ar gyfer y cyfnod mwyaf diweddar, sy'n adlewyrchu effaith pandemig COVID-19 yn ôl pob tebyg.
Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer disgwyliad oes iach yw cynyddu disgwyliad oes iach oedolion a lleihau’r bwlch rhwng disgwyliad oes iach y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig o leiaf 15% erbyn 2050. Mae’r data yn dangos bod disgwyliad oes iach yn parhau i fod yn waeth i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig, ond mae wedi aros yn gymharol sefydlog rhwng 2011-13 a 2018-20.
Yn yr hirdymor, mae cyfraddau marwolaeth safonedig yn ôl oedran wedi bod yn gwella, gan ostwng o 1,406 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl ym 1994 i 1,087 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl yn 2021. Mae’r cynnydd yn nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r pandemig wedi cael effaith negyddol ar hyn dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae cyfran y babanod sy’n cael eu geni gyda phwysau geni isel wedi aros yn gymharol sefydlog dros y gyfres amser, fel arfer yn amrywio rhwng 5% a 6%, er ei bod wedi gweld cynnydd bach yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Nod y garreg filltir genedlaethol yw cynyddu canran yr oedolion sydd â dau ymddygiad iach neu fwy i 97% erbyn 2050. Oherwydd y newid ym modd Arolwg Cenedlaethol Cymru, nid yw’n bosibl cymharu tueddiadau diweddar ar gyfer mesurau ffordd o fyw iach i oedolion. Cyn y pandemig, rhwng 2016-18 a 2019-20, nid oedd newid sylweddol yng nghyfran yr oedolion a ddywedodd fod ganddynt ddau neu fwy ymddygiad ffordd o fyw iach, ac mae ychydig yn is na’r garreg filltir genedlaethol. Yn 2022-23 roedd y mwyafrif (92%) o oedolion yn dweud eu bod yn dilyn dau neu fwy o’r pum ymddygiad ffordd o fyw iach.
Nod y garreg filltir genedlaethol yw cynyddu canran y plant sydd â dau ymddygiad iach neu fwy i 94% erbyn 2035 ac i dros 99% erbyn 2050. Mae’r data’n dangos bod canran y bobl ifanc a oedd yn cyrraedd y garreg filltir genedlaethol yn 2021 yn 90%, ychydig yn uwch na’r 88% a gofnodwyd yn 2019 a 2017.
Y garreg filltir genedlaethol ar lesiant meddyliol yw gwella llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant a dileu’r bwlch mewn llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig yng Nghymru erbyn 2050. Roedd llesiant meddyliol oedolion ar gyfartaledd yn debyg o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, oherwydd y gwahaniaeth yn y modd casglu, mae’n anodd cymharu’r dangosydd hwn yn y tymor hwy.
Wrth fesur llesiant meddyliol pobl ifanc gan ddefnyddio’r mesur newydd (SWEMWBS) ar gyfer y dangosydd cenedlaethol, roedd y sgôr gyfartalog ar gyfer pobl ifanc ychydig yn is yn 2021-22 o’i gymharu â 2019-20 a 2017-18, gan ddangos gostyngiad bach mewn llesiant meddyliol.
Roedd boddhad â bywyd ar gyfartaledd wedi bod yn cynyddu ymhlith oedolion ers 2011-12, gyda lefelau gorbryder yn gostwng rhywfaint ar gyfartaledd. Fodd bynnag, gwelodd y flwyddyn cyn y pandemig rywfaint o ostyngiad mewn lefelau bodlonrwydd ar fywyd a gorbryder. Parhaodd y duedd hon ym mlwyddyn gyntaf y pandemig, gyda lefelau yn gostwng o dan y rhai a welwyd yn 2011-12. Ond yn fwy diweddar, gwelwyd sgoriau gwell yn 2022 o’i gymharu â 2021.
Mae boddhad cyfartalog â bywyd pobl ifanc wedi gostwng ers 2017-18 pan ddywedodd 85% eu bod yn fodlon â’u bywyd, o’i gymharu â 78% yn 2021-22
Mae cyflwr tai wedi gwella yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Dangosodd yr Arolwg Cyflwr Tai Cymru diweddaraf nad oedd y peryglon mwyaf difrifol (categori 1) i’w gweld mewn 82% o’r anheddau yn 2017-18, o’i gymharu â 71% yn 2008. Gwelwyd gwelliannau ym mhob deiliadaeth.
Disgwyliad oes
Roedd disgwyliad oes wedi bod yn codi ers yr Ail Ryfel Byd, er bod hynny’n arafach dros y degawd diwethaf.
Mae dadansoddiad yn dangos mai dynion a menywod 60-84 oed sy’n cyfrannu fwyaf at gynyddu disgwyliad oes, ond mae’r gwelliannau hyn wedi arafu’n sylweddol.
Gwelwyd gostyngiad mewn disgwyliad oes yn y cyfnod diweddaraf sydd ar gael (2018-20), sy’n cynnwys rhan o gyfnod pandemig COVID-19, o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol (2017-19).
Roedd disgwyliad oes adeg geni yn 82 oed i fenywod a 78 oed i ddynion yn 2018-20. Roedd hyn yn ostyngiad bach i ddynion a menywod, yn dilyn cyfraddau marwolaeth uwch yn 2020 yn ystod pandemig COVID-19.
Roedd disgwyliad oes iach yn 62 oed i fenywod a 61 oed i ddynion yn 2018-20.
Ffigur 3.1: Mynegai disgwyliad oes adeg geni, yn ôl rhyw (2001-03 = 100), 2001-03 i 2018-20
Disgrifiad o Ffigur 3.1: Siart linell sy’n dangos bod cynnydd mewn disgwyliad oes ar gyfer dynion a menywod wedi arafu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac yn y cyfnod diweddaraf wedi gostwng, gan adlewyrchu effaith pandemig COVID-19.
Ffynhonnell: Disgwyliad oes, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Achosion marwolaethau
Yn 2022, bu 35,694 o farwolaethau o bob achos, gostyngiad o’i gymharu â’r nifer uchel o farwolaethau a welwyd yn 2020 a 2021 ond sy’n dal yn uwch na’r niferoedd a gofnodwyd cyn y pandemig.
Ar gyfer achosion marwolaethau a gofnodwyd yn y flwyddyn hyd yma, mae’r cyfartaledd dros bum mlynedd ar gyfer 2023 wedi cael ei ddarparu ar gyfer 2017 i 19, 2021 a 2022, gan ddarparu cymhariaeth gyfredol sy’n dal yn agos at gynrychioli blwyddyn arferol (heb fod yn y pandemig), ond heb gynnwys y nifer eithriadol o uchel o farwolaethau a welwyd yn 2020.
Roedd y nifer uchaf o farwolaethau yn y flwyddyn hyd yma (Ionawr i Orffennaf 2023) yn deillio o glefydau isgemia’r galon, ac yna Dementia a chlefyd Alzheimer, y ddau gyda bron i ddwywaith nifer y marwolaethau nag unrhyw achos arall o farwolaeth. Yn hanesyddol, dyma sydd wedi achosi’r nifer mwyaf o farwolaethau. COVID-19 oedd y nawfed achos uchaf o farwolaeth yn y flwyddyn hyd yma ar ôl bod yn brif achos marwolaeth yn 2020 a’r ail yn 2021.
Mae cyfraddau marwolaethau safonedig yn ôl oedran yn caniatáu i ni wneud cymariaethau gwell dros amser ac ardal am eu bod yn ystyried maint y boblogaeth a’r strwythur o ran oedran.
Yn seiliedig ar ddata hyd at 2021, dros yr hirdymor mae cyfraddau marwolaeth safonedig yn ôl oedran wedi bod yn gwella, gan ostwng o 1,406 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl ym 1994 i 1,087 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl yn 2021. Fodd bynnag, mae’r cynnydd yn nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r pandemig wedi cael effaith negyddol ar hyn dros y ddwy flynedd diwethaf.
Yn 2021, roedd y cyfraddau marwolaethau safonedig yn ôl oedran yn sylweddol uwch ar gyfer dynion (1,272 o farwolaethau am bob 100,000 o ddynion) nag ar gyfer menywod (935 o farwolaethau am bob 100,000 o fenywod).
Daw’r data diweddaraf ar farwolaethau yr oedd modd eu hosgoi o 2020 ymlaen, pan oedd y gyfradd ar gyfer Cymru yn sylweddol uwch yn ystadegol na’r holl flynyddoedd ers 2012. Priodolwyd tua dwy ran o dair o farwolaethau yr oedd modd eu hosgoi i gyflyrau y gellir eu hatal, ac un rhan o dair i rai yr oedd modd eu trin. Gan edrych ar grwpiau eang o achosion marwolaeth, neoplasmau (tiwmor) oedd prif achos marwolaethau yr oedd modd eu hosgoi. COVID-19 oedd y trydydd achos mwyaf cyffredin.
Yn 2021, roedd 322 o farwolaethau yn sgil gwenwyno gan gyffuriau wedi eu cofrestru yng Nghymru, ac roedd 210 ohonynt yn farwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau. Mae’r duedd gyffredinol mewn marwolaethau o ganlyniad i wenwyno gan gyffuriau a chamddefnyddio cyffuriau yng Nghymru wedi bod yn uwch ers yr ystadegau cyntaf yn 1993. Y ffigurau ar gyfer 2021 yw’r ail uchaf a gofnodwyd o ran gwenwyno gan gyffuriau (bron yn cyrraedd uchafbwynt 2018), a’r uchaf erioed o ran camddefnyddio cyffuriau. Roedd marwolaethau oherwydd cyffuriau yn fwy cyffredin ymysg dynion na menywod a gwelwyd cyfraddau uwch o farwolaethau o ganlyniad i wenwyno gan gyffuriau mewn ardaloedd mwy difreintiedig.
Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar y flwyddyn y cofrestrwyd y farwolaeth, yn hytrach na phan ddigwyddodd y farwolaeth. Oherwydd oedi wrth gofrestru, digwyddodd tua hanner y marwolaethau hyn mewn blynyddoedd cyn 2021. Mae oedi wrth gofrestru marwolaethau, a gynyddodd yn ystod pandemig COVID-19, yn debygol o fod wedi effeithio ar y ffigurau.
Dros yr hirdymor, mae’r gyfradd hunanladdiadau wedi amrywio o un flwyddyn i’r llall, ond yn gyffredinol maent wedi bod yn gostwng. O ran 12.7 o farwolaethau o hunanladdiad fesul 100,000 o bobl, dangosodd cofrestriadau 2021 nad oedd cyfraddau hunanladdiad yn sylweddol uwch yn ystadegol na 2020, ac roeddent yn debyg i’r lefelau a welwyd mewn blynyddoedd cyn y pandemig. Mae'r cynnydd nad yw'n sylweddol yn 2021 o'i gymharu â 2020 yn debygol o adlewyrchu aflonyddwch i gwestau crwneriaid a achoswyd gan y pandemig ac felly’n golygu oedi wrth gofrestru marwolaethau. Mae’r ffigurau diweddaraf yn cynnwys marwolaethau a ddigwyddodd yn 2020 ac a gofrestrwyd yn 2021.
Er bod cynnydd bach yn 2021, mae cyfraddau marwolaethau sy’n ymwneud ag alcohol wedi bod yn gymharol sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf.
Ffigur 3.2: Achosion marwolaeth, yn ôl nifer y marwolaethau a gofrestrwyd yn ystod y flwyddyn hyd yma (Ionawr - Gorffennaf 2023), o’u cymharu â chyfartaledd 2017-2019, 2021 a 2022
Disgrifiad o Ffigur 3.2: Siart dymbel yn dangos y 10 prif achosion marwolaeth yn y flwyddyn hyd yma, o’u cymharu â chyfartaledd 2017-19, 2021 a 2022, gyda chlefyd isgemig y galon yr uchaf.
Ffynhonnell: Dadansoddiad misol o farwolaethau, Cymru a Lloegr - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
[Nodyn 1] Mae’r cyfartaledd dros bum mlynedd ar gyfer 2023 wedi cael ei ddarparu ar gyfer 2017-19, 2021 a 2022, gan ddarparu cymhariaeth gyfredol sy’n dal yn agos at gynrychioli blwyddyn arferol (heb fod yn y pandemig), ond heb gynnwys y nifer eithriadol o uchel o farwolaethau a welwyd yn 2020.
[Nodyn 2] Bwriad y cyfartaledd pum mlynedd yw dangos yr hyn a ddisgwylir mewn blwyddyn heb fod yn y pandemig. Gan hynny, nid yw hyn yn berthnasol ar gyfer y cyfartaledd pum mlynedd ar gyfer COVID-19.
Anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes a marwolaeth
Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer disgwyliad oes iach yw cynyddu disgwyliad oes iach oedolion a lleihau’r bwlch rhwng disgwyliad oes iach y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig o leiaf 15% erbyn 2050.
Mae llawer o anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes a marwolaeth o hyd.
Mae dadansoddiad yn seiliedig ar y cyfnod rhwng 2018 a 2020 yn dangos bod y bwlch cyffredinol mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd mwyaf a’r lleiaf difreintiedig wedi aros yn gymharol sefydlog rhwng 2011-13 a 2018-20. Mae’n ymddangos bod y bwlch hwn wedi lleihau ychydig yn y cyfnod diweddaraf ar gyfer dynion (13.3 mlynedd) ac wedi cynyddu ychydig ar gyfer menywod (16.9 mlynedd).
Mae’r bwlch disgwyliad oes yn llawer llai, sef 7.6 mlynedd i ddynion a 6.3 mlynedd i fenywod. Ond mae wedi bod yn cynyddu’n gyffredinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ddynion a menywod, sy’n awgrymu bod anghydraddoldeb cynyddol.
Mae dynion yn treulio mwy o’u bywyd mewn iechyd da (78.5%) o’i gymharu â menywod (76.0%).
Mae rhagor o ddadansoddiadau o’r bwlch mewn disgwyliad oes a disgwyliad oes iach gan y bwrdd iechyd a’r awdurdod lleol i’w gweld yn yr adran deunydd darllen pellach isod.
Mae’r data diweddaraf ar farwolaethau y gellir eu hosgoi yn dod o 2020 ymlaen, lle’r oedd cyfran y marwolaethau yr oedd modd eu hosgoi yn parhau i fod yn sylweddol uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’i gymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Roedd marwolaethau y gellid eu hosgoi yn cyfrif am 37.0% o’r holl farwolaethau ymysg dynion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’i gymharu â 18.9% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Ar gyfer menywod, roedd y ffigurau cyfatebol yn 25.7% yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a 14.1% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Yn 2020, fe wnaeth y bwlch absoliwt mewn marwolaethau y mae modd eu hosgoi rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a’r lleiaf difreintiedig gynyddu i’r lefel uchaf ers 2003 ar gyfer dynion ac ers i’r gyfres amser data ddechrau ar gyfer menywod.
Roedd cyfraddau marwolaethau yr oedd modd eu hosgoi gyda COVID-19 fel achos marwolaeth sylfaenol yn llawer uwch yn ystadegol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’u cymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Ffigur 3.3: Bwlch absoliwt mewn disgwyliad oes a’r disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf, dynion a menywod, rhwng 2011-13 a 2018-20 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 3.3: Siart linell yn dangos bwlch absoliwt mewn disgwyliad oes a disgwyliad oes iach ar gyfer dynion a menywod rhwng 2011-13 a 2018-20 gyda menywod â disgwyliad oes uwch ond dynion â disgwyliad oes iach uwch.
Ffynhonnell: Disgwyliad iechyd yng Nghymru gyda bwlch anghydraddoldeb, Iechyd Cyhoeddus Cymru
[Nodyn 1] Cyfrifir y bwlch mewn disgwyliadau iechyd fel y gwahaniaeth absoliwt rhwng y pumed lleiaf a’r mwyaf difreintiedig. Mae’r dull hwn wedi newid ers i ddisgwyliadau iechyd blaenorol gael eu rhyddhau, a hynny er mwyn gwella sefydlogrwydd y mesur ar lefel awdurdod lleol. Defnyddiwyd Mynegai Oleddol Anghydraddoldeb (SII) i gyfrifo’r bwlch yn flaenorol. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i gyhoeddi’r SII ar lefel genedlaethol fel rhan o’i datganiad ar ddisgwyliad oes a chyflwr iechyd (Swyddfa Ystadegau Gwladol).
Babanod â phwysau geni isel
Mae canran y babanod pwysau geni isel wedi aros yn gymharol sefydlog dros y gyfres amser, fel arfer yn amrywio rhwng 5% a 6%.
Cofnodwyd y ffigurau isaf yn y cofnodion yn 2014 a 2015. Ers hynny, mae cynnydd bach wedi bod yn nifer y babanod pwysau geni isel, gyda 2022 ar ei uchaf erioed.
Yn 2022, roedd gan ganran ychydig yn uwch o fabanod benyw bwysau geni isel (6.9%) o’i gymharu â babanod gwryw (5.3%). Mae hyn yn weddol gyson â’r duedd dros dymor hirach.
Roedd cyfran y genedigaethau byw â phwysau geni isel neu oed ffetws isel ar ei huchaf ymhlith y mamau ieuengaf a’r mamau hynaf yn 2022, er mai dim ond nifer fach o enedigaethau i famau sydd yn y grwpiau oedran hyn. Mae canran y babanod sydd ag oed ffetws isel a chanran y babanod sydd â phwysau geni isel wedi aros yn weddol sefydlog ar draws y grwpiau oedran dros y 10 mlynedd diwethaf.
Gwelwyd manteision iechyd i fabanod a’u mamau yn sgil bwydo ar y fron. Yn ystod y degawd diwethaf, mae cyfraddau bwydo ar y fron adeg geni wedi bod yn cynyddu. Roedd y data blynyddol diweddaraf yn 2022 yn dangos bod canran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron adeg geni tua 63%. Mae hyn 1.6 pwynt canran yn uwch nag yn 2018. Mae babanod mamau hŷn yn fwy tebygol o gael eu bwydo ar y fron na rhai mamau iau.
Ffigur 3.4: Canran y genedigaethau unig blant gyda phwysau geni o lai na 2,500g, 2005 i 2022
Disgrifiad o Ffigur 3.4: Siart linell yn dangos canran genedigaethau byw unig blant gyda phwysau geni o lai na 2,500g. Mae’r gyfradd fel arfer wedi amrywio rhwng 5% a 6% yn ystod y gyfres amser, gyda chynnydd bach ers 2014.
Ffynhonnell: Ystadegau mamolaeth a genedigaethau, Llywodraeth Cymru
Iechyd mamau
Yn 2022, roedd y data yn dangos canlyniadau cymysg ar gyfer ymddygiad iach menywod beichiog yn yr asesiad cychwynnol, gyda chanran is o fenywod yn dweud eu bod yn ysmygu, ond canran uwch yn cael eu cofnodi fel rhai sy'n ordew neu sydd â chyflwr yn gysylltiedig ag iechyd meddwl nag yn y flwyddyn flaenorol.
Yn 2022, cafodd 14% o fenywod beichiog eu cofnodi fel ysmygwyr yn eu hasesiad cychwynnol. Mae hyn yn parhau’r duedd ar i lawr ers i ddata gael ei gasglu am y tro cyntaf yn 2016, ac mae un pwynt canran yn is nag yn y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, ers 2021 mae bron yr holl ddata wedi cael ei hunan-adrodd, yn hytrach na bod carbon monocsid yn cael ei fonitro, a gallai hynny fod wedi effeithio ar gymariaethau uniongyrchol cyn hyn.
Roedd cyfran uwch o fenywod iau yn dweud eu bod yn ysmygu yn yr asesiad cychwynnol o’i gymharu â menywod hŷn. Cofnodwyd bod tri allan o ddeg (29%) o fenywod rhwng 16 a 19 oed yn ysmygu yn yr asesiad cychwynnol o’i gymharu ag un o bob deg (10%) o fenywod 30 oed neu hŷn. Mae cyfraddau ysmygu yn yr asesiad cychwynnol wedi gostwng dros y chwe blynedd diwethaf ar gyfer pob grŵp oedran, (ac eithrio’r rhai o dan 16 oed, sy’n ddarostyngedig i anwadalrwydd o un flwyddyn i’r llall oherwydd y nifer isel o fenywod yn y grŵp hwn).
Roedd gan dri o bob deg (31%) o fenywod beichiog fynegai màs y corff (BMI) o 30 neu fwy yn yr asesiad cychwynnol. Parhaodd y duedd ar i fyny yn y tymor hwy gan fod y ganran yn 2022 un pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol a phum pwynt canran yn uwch nag yn 2016 (blwyddyn gyntaf y data cymaradwy).
Dywedodd tri o bob deg (30%) o fenywod beichiog fod ganddynt gyflwr iechyd meddwl yn yr asesiad cychwynnol. Parhaodd y duedd ar i fyny yn y tymor hwy hefyd, gyda’r data diweddaraf un pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol, ac un ar ddeg pwynt canran yn uwch nag yn 2016 (blwyddyn gyntaf y data cymaradwy).
Roedd nifer y genedigaethau byw wedi gostwng ychydig; gan barhau â gostyngiad yn y duedd a welwyd yn gyffredinol ers 2010. Mae canran y babanod newydd-anedig o bob grŵp ethnig wedi cynyddu ar wahân i’r rhai o grŵp ethnig Gwyn (sydd wedi gostwng) ers 2018.
Mae canran y mamau ifanc yn parhau i ostwng. Roedd y rhan fwyaf o famau a roddodd enedigaeth yn ystod y flwyddyn rhwng 25 a 34 oed.
Ymddygiadau ffordd iach o fyw
Dyma’r cerrig milltir cenedlaethol ar ymddygiad iach oedolion a phlant o ran ffordd o fyw:
cynyddu’r ganran sydd â dau neu fwy o ymddygiadau iach i fwy na 97% ar gyfer oedolion erbyn 2050.
cynyddu’r ganran sydd â dau ymddygiad iach neu fwy i 94% yn achos plant erbyn 2035 ac i dros 99% erbyn 2050.
Cafodd Arolwg Cenedlaethol Cymru ei addasu oherwydd y pandemig, gyda newid ym modd yr arolwg (cyfweliadau dros y ffôn yn hytrach na chyfweliadau wyneb yn wyneb) a newidiadau i rai cwestiynau o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Gan fod y pynciau hyn yn gallu bod yn sensitif i newidiadau o’r fath, nid yw’n bosibl cymharu’r canlyniadau’n uniongyrchol â data o flynyddoedd cyn 2020-21.
Cyn y pandemig, rhwng 2016-18 a 2019-20, nid oedd newid sylweddol yng nghyfran yr oedolion a ddywedodd fod ganddynt ddau neu fwy ymddygiad ffordd o fyw iach, ac mae ychydig yn is na’r garreg filltir genedlaethol
Mae’r data a gyflwynir yma ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023.
Roedd y mwyafrif (92%) o oedolion yn dweud eu bod yn dilyn dau neu fwy o’r pum ymddygiad ffordd o fyw iach. Mae hyn yn cynnwys peidio ag ysmygu, yfed o fewn y canllawiau wythnosol, bwyta pum dogn neu fwy o ffrwythau neu lysiau y diwrnod blaenorol, bod yn gorfforol egnïol am 150 munud neu fwy'r wythnos flaenorol, a bod yn bwysau iach. Roedd 30% o oedolion yn dilyn pedwar neu bump ymddygiad ffordd iach o fyw.
Nid oedd unrhyw newid sylweddol yn y rhan fwyaf o ymddygiadau ffordd o fyw rhwng 2021-22 a 2022-23, ond roedd cynnydd yn y nifer a oedd yn defnyddio e-sigaréts.
Ffigur 3.5: Ffeithlun o ganran yr oedolion a ddywedodd eu bod yn dilyn ffordd iach o fyw fel unigolion [Nodyn 1]
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-23, Llywodraeth Cymru
[Nodyn 1] Mae yfed o fewn canllawiau wythnosol yn cynnwys y rhai nad ydynt yn yfed
Yn 2022-23, roedd canran yr oedolion â dau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy yn is ymysg dynion (o’i gymharu â menywod), pobl 45-64 oed (o’i gymharu â’r rhai mewn grwpiau oedran iau neu hŷn) a phobl o ardal fwy difreintiedig (o’i gymharu â’r rheini o ardal lai difreintiedig).
Oherwydd maint sampl Arolwg Cenedlaethol Cymru, mae dadansoddiadau yn ôl nodweddion gwarchodedig eraill yn gyfyngedig, felly mae'r dadansoddiad isod yn cyfuno pedair blynedd o ddata (o 2016-17 i 2019-20) i allu dadansoddi’r rhain. Ar ben hynny, mae’r dadansoddiad hwn ar sail canlyniadau wedi’u safoni yn ôl oedran er mwyn ystyried gwahaniaethau ym mhroffil oedran mewn gwahanol grwpiau.
Roedd oedolion a oedd yn ystyried eu hunain yn ddeurywiol yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt ddau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy (o’u cymharu â’r rheini mewn grwpiau cyfeiriadedd rhywiol eraill), fel yr oedd oedolion nad oeddent yn anabl (o’u cymharu â’r rhai a oedd yn anabl).
Roedd oedolion a ddywedodd nad oedd ganddynt grefydd yn llai tebygol o adrodd bod ganddynt ddau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy na’r rhai mewn grwpiau crefyddol eraill; y rhai a oedd yn nodi eu bod yn Fwslim oedd fwyaf tebygol o wneud hynny (er nad oedd y gwahaniaeth o’i gymharu â’r grŵp crefydd Arall yn ystadegol arwyddocaol). Roedd oedolion a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt ddau ymddygiad ffordd iach o fyw neu fwy na’r rheini a oedd yn sengl neu’r rheini a oedd wedi gwahanu neu ysgaru.
Dangosodd arolwg Iechyd a Llesiant y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion fod canran y bobl ifanc (11-16 oed) sy’n cyrraedd y garreg filltir genedlaethol ym mlwyddyn academaidd 2021/22 yn 90% - ychydig yn uwch na’r 88% a adroddwyd ym mlynyddoedd academaidd 2019/20 a 2017/18.
Mae’r ymddygiadau iach dan sylw yn cynnwys peidio ag ysmygu, peidio ag yfed alcohol neu beidio â’i yfed yn aml, bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd a bod yn gorfforol egnïol am awr neu fwy bob dydd, dros y saith diwrnod blaenorol. Ar gyfer yr ymddygiadau sylfaenol hyn ym mlwyddyn academaidd 2021/22:
- Roedd 95% o bobl ifanc yn dweud nad oeddent yn ysmygu.
- Roedd 83% o bobl ifanc yn dweud nad oeddent yn yfed alcohol neu nad oeddent yn ei yfed yn aml.
- Roedd 45% o bobl ifanc yn dweud eu bod yn bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd.
- Dywedodd 16% o bobl ifanc eu bod wedi bod yn gorfforol egnïol am awr neu fwy y dydd, dros y saith diwrnod diwethaf.
Rhwng blynyddoedd academaidd 2017/18 a 2021/22, mae’r rhai a ddywedodd nad oeddent yn ysmygu ac nad oeddent byth neu’n anaml yn yfed alcohol wedi gweld gwelliannau bach. Mae’r rhai sy’n dweud eu bod yn bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd neu wedi bod yn gorfforol egnïol am awr neu fwy y dydd dros y saith diwrnod diwethaf wedi gweld gostyngiad bach.
Ym mlwyddyn academaidd 2021/22, y rhai a oedd yn iau, a oedd yn ddynion (91%) ac o olud teuluol uchel (90%) oedd â’r ganran uchaf o blant â dau neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw, o’i gymharu â’r rhai nad oeddent yn ystyried eu hunain yn fachgen nac yn ferch (84%), o grŵp golud teuluol isel (89%) neu a oedd yn hŷn a oedd â’r ganran isaf.
Mae lefelau gweithgarwch corfforol yn gostwng yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd, ac mae bechgyn (yn hytrach na merched neu bobl ifanc a nododd nad oeddent yn fachgen nac yn ferch) a’r rhai sy’n dod o grŵp golud teuluol uchel (yn hytrach na golud teuluol canolig neu isel) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gorfforol egnïol am awr neu fwy bob dydd, dros y saith diwrnod diwethaf.
Mae canran y bobl ifanc sy'n dweud eu bod yn bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd hefyd yn gostwng yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd, gyda merched (yn hytrach na bechgyn neu bobl ifanc a nododd nad oeddent yn fachgen nac yn ferch) a’r rhai sy’n dod o grŵp golud teuluol uchel (yn hytrach nag un canolig neu isel) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bwyta ffrwythau neu lysiau bob dydd.
Gostyngodd canran y bobl ifanc sy'n dweud nad ydynt yn ysmygu yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd. Roedd merched a bechgyn (o’u cymharu â phobl ifanc a nododd nad oeddent yn fachgen nac yn ferch) a’r rhai o grŵp golud teuluol uchel a chanolig (o’i gymharu â golud teuluol isel) yn fwy tebygol o ddweud nad oeddent yn ysmygu.
Roedd canran y bobl ifanc sy'n dweud nad ydynt yn yfed alcohol neu nad ydynt yn ei yfed yn aml yn gostwng yn ôl oedran yn yr ysgol uwchradd. Roedd merched a bechgyn (o’u cymharu â phobl ifanc a nododd nad oeddent yn fachgen nac yn ferch) a’r rhai o grŵp golud teuluol isel (o’i gymharu â golud teuluol uchel a canolig) yn fwy tebygol o ddweud nad oeddent yn yfed alcohol neu'n yfed yn anaml iawn.
Ffigur 3.6: Canran y bobl ifanc 11 i 16 oed sy’n dilyn ymddygiadau iechyd penodol, 2017/18 (blwyddyn academaidd) i 2021/22
Disgrifiad o Ffigur 3.6: Siart linell yn dangos mân welliannau neu duedd sefydlog yng nghanran y bobl ifanc nad ydynt yn ysmygu, sy’n egnïol bob dydd, sy’n bwyta ffrwythau a llysiau bob dydd ac nad ydynt byth neu bron byth yn yfed alcohol, rhwng blynyddoedd academaidd 2017/18 a 2021/22.
Ffynhonnell: Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Iechyd meddwl a llesiant ymysg oedolion
Y garreg filltir genedlaethol ar lesiant meddyliol yw gwella llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant a dileu’r bwlch mewn llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig yng Nghymru erbyn 2050
Cafodd Arolwg Cenedlaethol Cymru ei addasu oherwydd y pandemig, gyda newid ym modd yr arolwg (cyfweliadau dros y ffôn yn hytrach na chyfweliadau wyneb yn wyneb) a newidiadau i rai cwestiynau o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Gofynnwyd i oedolion am eu llesiant meddyliol a sgoriwyd y canlyniadau gan ddefnyddio Graddfa Llesiant Meddwl Warwick-Caeredin (WEMWBS). Mae sgôr uwch (58 i 70) yn awgrymu llesiant meddyliol uchel, ac mae sgorio 44 neu is yn awgrymu llesiant meddyliol isel. Mae sgôr rhwng 45 a 57 yn awgrymu bod gan yr unigolyn lesiant meddyliol canolig.
Y sgôr WEMWBS cyfartalog cyffredinol yn 2022-23 oedd 48, sy’n golygu bod llesiant meddyliol canolig gan ymatebwyr ar gyfartaledd. Mae hyn yn debyg i’r sgôr WEMWEBS gyfartalog yn 2021-22.
Wrth edrych ar y dadansoddiad o sgoriau ymatebwyr, roedd 32% o sgoriau oedolion yn cyfateb i lesiant meddyliol isel, 55% i lesiant meddyliol canolig a 13% i lesiant meddyliol uchel.
Ar gyfartaledd, mae gan oedolion iau lesiant meddyliol is (gyda’r rhai rhwng 16 a 24 oed yn cael sgôr WEMWBS o 47) na’r rhai sy’n 65 oed neu’n hŷn (sgôr WEMWBS o 51).
Roedd gan oedolion a ddisgrifiodd eu hiechyd cyffredinol fel gwael neu wael iawn sgôr WEMWBS gyfartalog o 39, a oedd yn is na phobl sydd â gwell iechyd cyffredinol.
Mae llesiant meddyliol oedolion sy’n dweud eu bod yn unig hefyd yn is ar gyfartaledd (sgôr WEMWBS 39) na’r rhai sydd weithiau’n unig (sgôr WEMWBS 47) neu byth yn unig (sgôr WEMWBS 52).
Mae’r rhyngweithiadau hyn ag oedran ac iechyd yn dangos yr un duedd â blynyddoedd blaenorol, ond dylid ystyried y newid yn y modd hefyd wrth gymharu’r canlyniadau.
Roedd boddhad â bywyd ar gyfartaledd wedi bod yn cynyddu am bron i ddegawd ers 2011-12, gyda lefelau gorbryder yn gostwng rhywfaint ar gyfartaledd. Fodd bynnag, yn 2020-21, dirywiodd lefelau boddhad â bywyd a gorbryder i lefelau gwaeth na’r rhai a welwyd yn 2011-12, yn ôl pob tebyg oherwydd effeithiau’r pandemig. Yn 2021-22 roedd y sgoriau wedi gwella ar gyfer boddhad â bywyd a gorbryder, gan ddadwneud rhywfaint o’r dirywiad a welwyd yn 2020-21, ond nid yw wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig.
Ffigur 3.7: Prif fesurau llesiant personol (sgôr cyfartalog allan o 10), 2012 i 2022
Disgrifiad o Ffigur 3.7: Siart linell yn dangos sgoriau cynyddol ar gyfer boddhad â bywyd, teimlo’n werth chweil, teimlo’n hapus a sgoriau’n lleihau ar gyfer teimlo’n orbryderus rhwng 2012 a 2019, cyn gostwng yn 2020 i 2021. Ond gwelwyd sgoriau gwell yn 2022 o’i gymharu â 2021.
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Iechyd meddwl a llesiant plant
Mae’r mesur sylfaenol a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r dangosydd cenedlaethol ar gyfer llesiant meddyliol plant wedi newid o’i gymharu â diweddariadau blaenorol o adroddiad Llesiant Cymru. Mae'r dangosydd hwn bellach yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Edinburgh (SWEMWBS) gan ddefnyddio Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion. Mesurwyd y dangosydd yn flaenorol gan ddefnyddio’r Holiadur Cryfderau ac Anawsterau (SDQ). Mae’r newid hwn wedi ei wneud gan fod SWEMWBS, sy’n cyfleu hapusrwydd unigolyn ac i ba raddau mae unigolyn yn gweithredu’n llawn, yn cyd-fynd yn well â’r dangosydd cenedlaethol o’i gymharu â’r Holiadur Cryfderau ac Anawsterau, sy’n offeryn sgrinio ar gyfer mesur cryfderau ac anawsterau seicolegol. Mae’r mesur newydd hefyd yn cyd-fynd yn well â’r mesur a ddefnyddir ar gyfer llesiant meddyliol oedolion (WEMWBS).
Wrth fesur llesiant meddyliol plant gan ddefnyddio’r mesur newydd (SWEMWBS) ar gyfer y dangosydd cenedlaethol, roedd y sgôr SWEMWBS gyfartalog ar gyfer pobl ifanc (11 i 16 oed) ychydig yn is ym mlwyddyn academaidd 2021/22 (23) o’i gymharu â 2019/20 a 2017/18 (24 yr un), gan ddangos gostyngiad bach mewn llesiant meddyliol. Mae sgôr gyffredinol uwch ar gyfer SWEMWBS yn arwydd o lesiant meddyliol mwy cadarnhaol. Mae sgoriau o’r SWEMWBS yn seiliedig ar set fyrrach o gwestiynau i’r WEMWBS oedolion ac felly nid yw’r sgoriau’n cyfateb yn uniongyrchol.
Roedd y dadansoddiadau yn ôl rhywedd yn dangos mai’r rhai nad ydynt yn ystyried eu hunain yn fachgen nac yn ferch oedd â’r llesiant meddyliol isaf, a merched yn adrodd llesiant meddyliol is na bechgyn. Roedd sgoriau llesiant meddyliol hefyd yn gostwng yn ôl oedran ac ar eu hisaf yn y grŵp cyfoeth teuluoedd isel.
Roedd 78% o bobl ifanc yn dweud bod eu boddhad â’u bywyd yn 6 neu’n uwch ar yr Ysgol Cantril (lle mae’r sgoriau’n amrywio o 0 i 10, ac mae sgôr o 6 neu fwy yn cael ei ddiffinio fel bodlonrwydd uchel â’u bywyd) ym mlwyddyn academaidd 2021/22, gan ddangos tuedd sy’n gostwng o flwyddyn academaidd 2017-18 pan oedd 85% o bobl ifanc yn dweud bod eu boddhad â bywyd yn 6 neu’n uwch.
Roedd bechgyn (85%) yn fwy tebygol na merched (74%) o gael boddhad â bywyd, ac roedd boddhad â bywyd yn sylweddol is ymysg pobl ifanc nad oeddent yn ystyried eu hunain yn fachgen nac yn ferch (43%).
Gostyngodd bodlonrwydd ar fywyd hefyd yn ôl oedran ac roedd ar ei isaf yn y grŵp cyfoeth teuluoedd isel.
Mae rhagor o ddata am ymddygiad iechyd ymhlith plant oed ysgol ar gael o Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion.
Ffigur 3.8: Canran y bobl ifanc 11 i 16 oed sy’n fodlon ar eu bywyd, 2017/18 (blwyddyn academaidd) i 2021/22
Disgrifiad o Ffigur 3.8: Siart linell yn dangos gostyngiad ym moddhad â bywyd pobl ifanc 11-16 oed rhwng blynyddoedd academaidd 2017/18 a 2021/22.
Ffynhonnell: Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
Tai peryglus
Mae amrywiaeth o ffactorau’n bwysig i iechyd pawb. Er enghraifft, mae cyflogaeth, llygredd aer a thai i gyd yn effeithio ar ganlyniadau iechyd cyffredinol.
Mae cyflwr tai yng Nghymru wedi gwella dros y deng mlynedd diwethaf, gan leihau’r perygl posibl i iechyd y preswylwyr.
Dangosodd yr Arolwg Cyflwr Tai Cymru diweddaraf nad oedd y peryglon mwyaf difrifol (categori 1) i’w gweld mewn 82% o’r anheddau yn 2017-18, o’i gymharu â 71% yn 2008. Gwelwyd gwelliannau ym mhob deiliadaeth.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn casglu data ar asesiadau’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai sy'n cael ei gynnal gan awdurdodau lleol. Mae’r data diweddaraf yn dangos bod 71% o asesiadau HHSRS awdurdodau lleol yn 2021-22 yn rhydd o beryglon categori 1. Fel arfer, cynhelir asesiadau HHSRS awdurdodau lleol yn y sector rhentu preifat a dim ond o dan amgylchiadau penodol (er enghraifft, pan dderbynnir cwyn am annedd). Am y rheswm hwn, nid oes modd cymharu data ar asesiadau HHSRS awdurdodau lleol yn uniongyrchol â chanlyniadau WHCS.
Darllen pellach
Disgwyliad iechyd yng Nghymru gyda phroffil bwlch anghydraddoldeb (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Mae adroddiadau Llesiant blaenorol Cymru wedi cynnwys dadansoddiad pellach ar:
- Goroesi canser
- Defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd broblemus
Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, ac felly dim ond mesurau cynnydd lefel uchel y mae modd eu hystyried yn yr adroddiad hwn. Mae dadansoddiad manylach o lawer o’r pynciau hyn ar gael drwy’r amrywiaeth o ddatganiadau ystadegol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, y Swyddfa Ystadegau Gwladol neu gynhyrchwyr ystadegol eraill.
Ffynonellau data
Marwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol yn benodol yn y Deyrnas Unedig (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Amcangyfrifon llesiant personol blynyddol (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Marwolaethau y mae modd eu hosgoi ym Mhrydain Fawr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Marwolaethau sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Ystadegau cryno ar farwolaethau sydd wedi’u cofrestru (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Disgwyliad iechyd yng Nghymru gyda bwlch anghydraddoldeb (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Disgwyliad oes ar gyfer ardaloedd lleol yn y Deyrnas Unedig (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Disgwyliad Oes a Marwolaethau yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Ystadegau mamolaeth a genedigaethau
Dadansoddiad misol o farwolaethau, Cymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr, y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion
Hunanladdiadau yng Nghymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Arolwg Cyflwr Tai Cymru (asesiad o elfennau o’r Safon Ansawdd Tai Cymru)