Llesiant Cymru, 2022: lles plant a phobl ifanc - Prif bwyntiau
Mae’r adroddiad atodol hwn wedi’i dynnu o’r dadansoddiad yn adroddiad Llesiant Cymru ynghylch llesiant plant. Nid yw’n cynnwys naratif na dadansoddiad ychwanegol.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Prif bwyntiau
Gwelwyd canlyniadau hirdymor cymysg o ran cychwyn iach mewn bywyd, gyda thuedd gymharol sefydlog o ran babanod pwysau geni isel, ond cynnydd yn y nifer sy’n bwydo ar y fron a gostyngiad yn nifer y menywod beichiog sy'n dweud eu bod yn ysmygu yn yr asesiad cychwynnol.
Mae data newydd o asesiadau sylfaenol y Cyfnod Sylfaen yn dangos sut mae plant wedi datblygu cyn dechrau yn yr ysgol, gyda'r data diweddaraf yn cael ei adrodd ar y flwyddyn academaidd rhwng 2021 a 2022 yn dilyn blwyddyn gyntaf pandemig COVID-19.
Yn 2021-22, mae 66% o bobl ifanc 16 i 24 oed yn credu bod newid yn yr hinsawdd yn bennaf neu'n gyfan gwbl oherwydd gweithgarwch dynol. Mae 97% yn meddwl bod gweithgarwch dynol yn gysylltiedig â rhyw raddau yn hinsawdd y byd yn newid.
Mae lles personol yn dirywio gydag oed ac ymysg y rhai nad ydynt yn ystyried eu hunain yn fachgen nac yn fenyw.
Nod y garreg filltir genedlaethol ar ymddygiad iach plant yw cynyddu canran y plant sydd â dau ymddygiad iach neu fwy i 94% erbyn 2035 ac i dros 99% erbyn 2050. Mae’r data’n dangos bod canran y plant sy’n cyrraedd y garreg filltir genedlaethol yn dal yn 88% (ym mlwyddyn academaidd 2019/20) ac mae wedi aros yn sefydlog ers dechrau casglu data yn ystod blwyddyn academaidd 2013/14.
Mae’r rhan fwyaf o ymddygiadau iach yn gwaethygu yn yr ysgol uwchradd.
Mae data o flwyddyn academaidd 2019/20 yn dangos bod defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd broblemus, ar gyfartaledd, yn cynyddu gydag oedran, a’i fod yn uwch ymysg merched na bechgyn.
Mae’r astudiaethau ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn tynnu sylw at y berthynas rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chanlyniadau negyddol hirdymor.
Mae’r adroddiad diweddaraf o’r arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion sy'n cymharu canfyddiadau lles Meddwl i’r cyfnod o blaen ac yn ystod y pandemig (2019 i 2021) yn dangos gwymp mewn llesiant meddyliol i bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed.
Plant yw’r grŵp poblogaeth sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol, gyda’r data diweddaraf yn dangos bod 31% yn byw mewn tlodi incwm.
Mae llai o blant yn byw mewn aelwydydd heb waith, gyda gostyngiad yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf a thros y tymor canolig.
Mae cyrhaeddiad mewn ysgolion cynradd ac uwchradd wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf, er fod plant o gefndiroedd difreintiedig yn dal i fod â chanlyniadau tlotach.
Mae cyfranogiad mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ymysg pobl ifanc ar ôl addysg orfodol wedi bod yn cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae presenoldeb a chyfranogiad yn y celfyddydau wedi bod yn cynyddu dros y degawd diwethaf.
Gwelir y cyfraddau uchaf o ran gallu a'r defnydd o’r Gymraeg ymysg plant, er nad yw hynny’n cael ei gynnal ar ôl addysg orfodol.
Mae un o bob deg disgybl ysgol uwchradd yn cael ei fwlio bob wythnos, ac mae’r ffigurau hyn yn gymharol uchel yn y Deyrnas Unedig.