Llesiant Cymru, 2022: lles plant a phobl ifanc - Cymru sy’n fwy cyfartal
Mae’r adroddiad atodol hwn wedi’i dynnu o’r dadansoddiad yn adroddiad Llesiant Cymru ynghylch llesiant plant. Nid yw’n cynnwys naratif na dadansoddiad ychwanegol.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Y nod i Gymru sy’n fwy cyfartal
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).
Anfantais economaidd-gymdeithasol
Mae disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael canlyniadau addysgol gwaeth mewn ysgolion ar gyfartaledd, gyda’r bwlch yn ehangu wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn
Drwy ddefnyddio cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim fel mesur o amddifadedd, mae cysylltiad rhwng amddifadedd a lefelau cyrhaeddiad yn yr ysgol. Er bod cyflawniad yn gwella’n gyson ar draws yr holl ddisgyblion, mae perfformiad y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn waeth ym mhob cyfnod allweddol ac ar bob mesur perfformiad. Mae’r bwlch hwn yn cynyddu wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn. Mae data Arolwg Cenedlaethol Cymru hefyd yn dangos bod rhieni mewn aelwydydd difreintiedig yn llai tebygol o fod yn cefnogi eu plant â gwaith ysgol, a bod ganddynt hefyd lai o hyder i wneud hynny.
Ar gyfer TGAU mae bwlch o hyd mewn canlyniadau addysgol ar gyfer plant sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt yn gymwys. Mae'r bwlch yn nifer y cofrestriadau gafodd graddau A* i A ar lefel TGAU wedi ehangu yn ystod y chwe blynedd diwethaf, gyda'r bwlch yn nifer y cofrestriadau yn ennill graddau A* i C yn gymharol sefydlog. Mae data hyd at 2019 yn dangos ar gyfnodau cynharach yn yr ysgol bod y bwlch yn ehangu wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn.
Yn 2020/21, ehangodd y bwlch rhwng disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion sy'n gymwys i dderbyn graddau TGAU A* i A i 21.3 pwynt canran, o 17.8 pwynt canran yn 2019/20. Cyn hynny roedd y bwlch wedi bod yn gymharol sefydlog ar tua 14.7 pwynt canran rhwng 2015/16 a 2018/19 cyn ehangu yn ystod y 2 flynedd ddiweddaraf.
Mae anghydraddoldebau'n bodoli hefyd ar gyfer plant sy'n cael gofal a chymorth, unwaith eto gyda'r bwlch yn cynyddu wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn. Roedd dadansoddiad o berfformiad ysgolion o 2019 wedi canfod bod plant sy'n cael gofal a chymorth yn perfformio'n llai da na disgyblion yn gyffredinol.
Mae’r adroddiad diweddaraf y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion o’r arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr sy'n cymharu canfyddiadau lles meddwl cyn ac yn ystod y pandemig (2019 i 2021) yn dangos ostyngiad mewn lles meddwl i bobl ifanc 11 i 16 oed, gan ddefnyddio Graddfa Lles Meddwl Byr Warwick-Caeredin (SWEMWBS). Yn ôl cyfoeth teuluol roedd ddirywiad o faint tebyg rhwng 2019 a 2021 ymhlith myfyrwyr o chyfoeth teuluol is ac uwch, sy'n awgrymu nad oedd anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol sy'n bodoli eisoes mewn lles meddyliol wedi ehangu dros y cyfnod hwn.
Yn 2021, dywedodd 14% o bobl ifanc 11 i 16 oed yng Nghymru eu bod yn aml yn teimlo ar eu pennau eu hunain, i fyny o 12% yn 2019, gydag unigrwydd â adroddwyd yn uwch ymhlith myfyrwyr cyfoeth is o'i gymharu â chyfoeth uwch.
Dangosodd arolwg ysgolion cynradd Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion o ddisgyblion blwyddyn 6 yn 2021 fod graddiant economaidd-gymdeithasol clir mewn sgoriau anawsterau emosiynol a adroddwyd, gyda sgôr cymedrig uwch ymhlith myfyrwyr o deuluoedd llai cyfoethog, gyda phlant o'r teuluoedd lleiaf cyfoethog yn fwyaf tebygol o roi gwybod am anawsterau emosiynol clinigol arwyddocaol. O ran boddhad bywyd roedd peth tystiolaeth o raddiant cymdeithasol, gyda llai o blant blwyddyn 6 o deuluoedd llai cyfoethog yn adrodd bodlonrwydd bywyd uchel.
Rhywedd
Mae deilliannau addysgol merched yn parhau i fod yn well na bechgyn a hefyd yn fwy tebygol o barhau mewn addysg amser llawn ar ôl 16 oed.
Yn haf 2021, cafodd merched fwy o raddau A* i C na bechgyn. Roedd yr anghyfartaledd gradd mwyaf yn yr A* ac A gradd, dyfarnwyd 6.5 a 4.5 pwynt canran i ferched, yn y drefn honno, yn fwy na bechgyn.
Mae cyfran uwch o fenywod rhwng 16 a 18 oed na dynion yn parhau mewn addysg llawn amser. Mae hyn yn wir hefyd i'r rhai rhwng 19 a 24 oed.
Roedd adroddiad diweddaraf o’r arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion sy’n cymharu canfyddiadau llesiant meddwl o'r cyfnod cyn ac yn ystod y pandemig (2019 i 2021) yn cynnwys dadansoddiadau gan grŵp rhyw a blwyddyn a oedd yn dangos fod rheini sydd ddim yn hunan-adnabod fel naill ai bachgen na merch yn adrodd y llesiant meddyliol isaf, a merched yn adrodd llesiant meddyliol is na bechgyn. Dirywiodd sgoriau llesaint meddyliol gydag oedran.
Dywedodd mwy na dwy ran o bump o fyfyrwyr sydd ddim yn hunan-adnabod fel naill ai bachgen na merch eu bod yn aml yn teimlo ar eu pennau eu hunain yn 2019 a 2021, tua phedair a thair gwaith yn fwy na chyfran y bechgyn (10% yn 2019 ac 11% yn 2021) a merched (14% yn 2019 a 15% yn 2021).
Dangosodd arolwg ysgolion cynradd o ddisgyblion blwyddyn 6 y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn 2021 fod gan ferched sgôr anawsterau emosiynol cyfartalog uwch ar y mesur Fi a Fy Nheimladau o'i gymharu â bechgyn (h.y. mwy o anawsterau emosiynol), tra bod gan fechgyn sgôr trafferthion ymddygiadol cyfartalog uwch mewn cymhariaeth i ferched (h.y. mwy o anawsterau ymddygiadol). Roedd cyfran ychydig yn uwch o fechgyn yn adrodd bodlonrwydd bywyd uchel.
Ethnigrwydd
Yn 2021, roedd gan ganran uwch o fabanod Asiaidd bwysau geni isel (8.4%) o'i gymharu â grwpiau ethnig eraill. Mae nifer y babanod pwysau geni isel bob blwyddyn yng Nghymru yn fach pan gaiff eu categoreiddio gan grŵp ethnig, felly gellir cael newidiadau cymharol fawr o flwyddyn i flwyddyn trwy anwadalwch naturiol. Fodd bynnag, roedd gan gyfran fwy o fabanod Asiaidd bwysau geni isel nag unrhyw grŵp ethnig arall mewn tair allan o'r pedair blynedd y mae data ar gael ar eu cyfer (gan ddechrau yn 2018).
Mae plant o rai grwpiau ethnig (er enghraifft, Asiaidd a phlant sydd â chefndir ethnig cymysg) yn tueddu i gyflawni'n well ar gyfartaledd yn yr ysgol o'i gymharu ag eraill.
Mae canlyniadau TGAU ar gyfer 2020/21 yn dangos bod 35.6% o ddisgyblion Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wedi cael graddau A* i A o'i gymharu â 28.9% o ddisgyblion Gwyn. Mae'r bwlch hwn wedi bod yn ehangu ers 2015/16 (4.5 pwynt canran yn 2015/16 i 6.7 pwynt canran yn 2020/21). Mae'r bwlch mewn disgyblion a gafodd raddau A* i C hefyd wedi ehangu, o 0.9 yn 2015/16 pwynt canran i 3.3 pwynt canran yn 2020/21.
Ar lefel A, symudodd y dosbarthiad gradd i fyny eto yn 2020/21, ond nid oedd hyn yn wir am bob grŵp ethnig eang. Roedd cyfran y dysgwyr A2 (ail flwyddyn o safon uwch) gyda chefndiroedd Du, Affricanaidd, Caribïaidd, Du Prydeinig a gafodd o leiaf 3 gradd C wedi disgyn yn serth, gan ddadwneud llawer o'r cynnydd mewn graddau yn 2019/20. Dyma'r grŵp gyda'r ganran isaf o A* i Cs yn A2 yn 2020/21, tra gwelwyd y ganran uchaf o raddau A* i C ymysg y grwpiau Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (74%) a Gwyn (73%).
Rhwng mis Awst 2017 a Gorffennaf 2021, roedd myfyrwyr blwyddyn 11 gyda chefndiroedd Sipsiwn, Teithwyr neu Deithwyr Gwyddelig yn llai tebygol o barhau i ddysgu ôl-16 na grwpiau ethnig eraill. I'r rhan fwyaf o grwpiau ethnig lleiafrifol eraill, roedd cymryd rhan mewn dysgu ôl-16 yn agos at gyfartaledd Cymru, neu’n uwch.
Yn ôl y Cyfrifiad Gweithlu'r Ysgolion, cyfran yr athrawon ysgol a oedd yn Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (ac eithrio lleiafrifoedd ethnig Gwyn) oedd 1.1% ym mis Tachwedd 2021, sy'n sylweddol is na'r 9.1% o ddisgyblion 5 oed neu hŷn yng Nghymru sydd o grŵp Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (ac eithrio lleiafrifoedd ethnig Gwyn) yng Nghyfrifiad Ysgolion Chwefror 2022.
Nodwyd bod 9% o fyfyrwyr sy'n cofrestru mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2020/21 o grŵp lleiafrifoedd ethnig.
Er bod yr adroddiad diweddaraf o arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion sy'n cymharu canfyddiadau llesiant meddwl yn y cyfnod o'r blaen ac yn ystod y pandemig (2019 i 2021) wedi canfod gostyngiad mewn llesiant meddwl i bobl ifanc 11 i 16 oed, amlygodd tueddiadau yn ôl ethnigrwydd ostyngiad cymharol llai mewn llesiant meddwl ymhlith myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig o'i gymharu â myfyrwyr Gwyn. O'i gymharu â chynnydd bychan mewn unigrwydd a adroddwyd ymhlith myfyrwyr Gwyn rhwng 2019 a 2021, ni welwyd unrhyw newid ymhlith myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.