Llesiant Cymru, 2022: lles plant a phobl ifanc - Cymru o gymunedau cydlynus
Mae’r adroddiad atodol hwn wedi’i dynnu o’r dadansoddiad yn adroddiad Llesiant Cymru ynghylch llesiant plant. Nid yw’n cynnwys naratif na dadansoddiad ychwanegol.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Y nod ar gyfer Cymru o gymunedau cydlynus
Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
Digartrefedd
Yn ystod 2018-19, roedd tua 44% o’r holl aelwydydd a oedd dan fygythiad o ddigartrefedd yn deuluoedd â phlant dibynnol, i lawr o 46% yn ystod 2017-18.
Roedd aelwydydd unig riant (gyda phlant dibynnol) ac un person yn cyfrif am 84% o’r holl aelwydydd a gafodd eu hasesu fel rhai cymwys, anfwriadol ddigartref ac ag angen blaenoriaethol yn 2018-19. Mae’r mathau hyn o aelwydydd wedi eu gorgynrychioli’n sylweddol o’i gymharu â’u cyfran o boblogaeth aelwydydd. Roedd aelwydydd un rhiant (gyda phlant dibynnol) yn cyfrif am 32.3% o achosion digartrefedd o’i gymharu â 7.5% o’r boblogaeth aelwydydd yn 2011.
Trosedd
Roedd Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn amcangyfrif bod tua 11% o blant rhwng 10 a 15 oed yng Nghymru wedi dioddef o leiaf un drosedd yn y flwyddyn ddiweddaraf a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020.
Ar draws Cymru a Lloegr, roedd canran uwch o fechgyn rhwng 10 a 15 oed o’i gymharu â genethod o’r un oed wedi dioddef erledigaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020), gyda hyn yn wir am gategorïau pob trais, pob lladrad a phob trosedd.
Dangosodd ystadegau arbrofol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod yr heddlu yng Nghymru wedi nodi yn 2021-22 bod 3,729 o droseddau yn ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol a 752 yn ymwneud â chamfanteisio’n rhywiol ar blant. Fodd bynnag, roedd gostyngiad o 28% yn nifer y rhai a ymunodd â’r System Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru am y tro cyntaf yn 2021 o’i gymharu â 2020, er efallai oedd y pandemig wedi effeithio ar y rif hwn.
Gwirfoddoli
Mae data ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd yn dangos bod 7% yn gwirfoddoli i glwb neu sefydliad yn yr ysgol (y tu allan i wersi) a bod 18% yn gwirfoddoli i glwb neu sefydliad y tu allan i’r ysgol.
Unigrwydd
Yn arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion 2021, dywedodd 14% o bobl ifanc 11 i 16 oed yng Nghymru eu bod yn aml yn teimlo ar eu pennau eu hunain, i fyny o 12% yn 2019. Ar gyfartaledd, roedd merched yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn aml yn teimlo ar eu pennau eu hunain na bechgyn (15% o'i gymharu â 11% yn y drefn honno). Fodd bynnag, roedd y ganran ar ei huchaf ymhlith y rhai nad oedd yn hunan-adnabod fel naill ai bachgen neu merch (44%).
Ffynonellau data a darllen pellach
Modiwl plant, Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Ystadegau blynyddol Cyfiawnder Ieuenctid: 2020 i 2021 (Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr)