Llesiant Cymru, 2022: lles plant a phobl ifanc - Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Mae’r adroddiad atodol hwn wedi’i dynnu o’r dadansoddiad yn adroddiad Llesiant Cymru ynghylch llesiant plant. Nid yw’n cynnwys naratif na dadansoddiad ychwanegol.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Y nod ar gyfer Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
Cyfranogiad chwaraeon
Cynhaliwyd yr arolwg ar chwaraeon ysgol diweddaraf yn ystod 2022 a chaiff y canlyniadau eu cyhoeddi yn yr hydref. Roedd yr arolwg blaenorol yn 2018 yn dangos bod 48% o ddisgyblion ym mlynyddoedd 3 i 11 yn yr ysgol yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos. Nid oedd hyn wedi newid ers 2015, yn dilyn cynnydd sylweddol ers 2013.
Ychydig iawn o wahaniaeth a welwyd yn y cyfraddau cyfranogi cyffredinol rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd, gyda 47% o ddisgyblion cynradd (7 i 11 oed) a 48% o ddisgyblion uwchradd (11 i 16 oed) yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos.
Roedd bechgyn yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd na genethod (50% o’i gymharu â 46%), ond roedd y bwlch wedi lleihau o’i gymharu â’r arolwg blaenorol yn 2015. Roedd cyfraddau cyfranogi disgyblion o’r ysgolion lleiaf difreintiedig yn tueddu i fod yn uwch nag ar gyfer disgyblion o’r ysgolion mwyaf difreintiedig. Roedd y cyfraddau hefyd yn uwch ar gyfer disgyblion o grŵp cymysg neu aml-ethnig ac ar gyfer disgyblion sy’n rhugl yn y Gymraeg.
Roedd ymchwil Chwaraeon Cymru yn ystod y pandemig wedi darganfod erbyn mis Awst 2021 bod oedolion yn dweud bod eu plant yn cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon neu weithgarwch corfforol y tu allan i oriau ysgol nag y byddent fel arfer wedi’i wneud cyn y pandemig.
Cyfranogiad yn y celfyddydau
Mae data gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn dangos bod cyfran y plant a phobl ifanc sy’n mynychu digwyddiadau celfyddydol wedi cynyddu dros y degawd diwethaf, er bod gostyngiad bach wedi bod yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae data ar gael ar ei chyfer. Fe gododd o 76.3% yn 2010 i 86.7% yn 2019. Nid yw data ar gael eto ar gyfer cyfnod y pandemig.
Nid yw cyfranogiad plant yn y celfyddydau wedi newid fawr ddim dros y blynyddoedd diwethaf. Mae tua 86% i 87% o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan mewn digwyddiad celfyddydol ym mhob un o’r pedair blynedd diwethaf hyd at 2019.
Mae gwahaniaethau o ran presenoldeb a chyfranogiad yn ôl rhywedd a chefndir economaidd-gymdeithasol. Roedd genethod a phlant o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o fynychu a chymryd rhan yn y celfyddydau, er bod y bwlch rhwng bechgyn a genethod wedi gostwng yn 2019.
Defnydd o'r Gymraeg
Plant a phobl ifanc yw’r grŵp sydd fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn ôl y cyfrifiad ac arolygon, gyda’r ddwy ffynhonnell yn awgrymu bod tua 40% o’r rhai rhwng 3 a 15 oed yn gallu gwneud hynny. Mae pobl iau y tu hwnt i oedran addysg orfodol yn llai tebygol o ddweud eu bod yn siarad Cymraeg.
Mae’r Arolwg Defnydd o’r Gymraeg yn darparu dadansoddiad o’r defnydd o’r Gymraeg ymysg plant ac oedolion. Roedd yn dangos mai plant sydd fwyaf tebygol o ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd, ac mae hynny'n debygol o fod yn sgil ei defnyddio’n rheolaidd mewn ysgolion. Roedd canran y plant rhwng 3 a 15 oed a oedd yn siarad Cymraeg bob dydd yn sylweddol uwch nag unrhyw grŵp oedran arall, gyda bron i chwarter ohonynt yn siarad Cymraeg bob dydd. Mae canran y rhai rhwng 3 a 15 oed sy’n siarad Cymraeg bob dydd yn debyg i ganran y disgyblion sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog mewn ysgolion cynradd, canol ac uwchradd, er nad ydym yn gwybod a ydynt o reidrwydd yr un plant.
Mae plant rhwng 3 a 15 oed yn llawer mwy tebygol o fod wedi dechrau dysgu siarad yr iaith yn yr ysgol na’r rhai 65 oed neu hŷn (69% o’i gymharu â 15%). Mae’n debygol mai’r rheswm am hyn yw’r newid sylweddol yn y sector addysg cyfrwng Cymraeg dros yr hanner can mlynedd diwethaf, gyda chynnydd cyffredinol yn nifer y disgyblion sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd wedi cael eu hagor ledled Cymru.
Mae’r grŵp oedran ieuengaf yn llai tebygol o fod ag o leiaf un rhiant sy’n rhugl yn y Gymraeg. Mae 36% o blant rhwng 3 a 15 oed wedi adrodd am hyn, o’i gymharu â 69% o bobl 65 oed neu hŷn.