Llesiant Cymru, 2022 - Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy’n cael ei wneud yng Nghymru o ran cyflawni’r saith nod llesiant.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Y nod ar gyfer Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Awdur: Stephanie Howarth
Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?
Mae'r pandemig wedi parhau i gael effaith negyddol ar bresenoldeb mewn digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol. Yn 2021-22, roedd 33% o bobl wedi ymweld â digwyddiad celfyddydol yn y flwyddyn flaenorol, i lawr yn sylweddol o 73% yn 2018-19. Roedd cyfranogiad yn y celfyddydau hefyd wedi gostwng o 20% i 14%. Nid oes data newydd ar bresenoldeb na chyfranogiad plant yn y celfyddydau eleni.
Bu cynnydd cymysg o ran cymryd rhan mewn chwaraeon. Roedd cyfradd yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd wedi cynyddu am y tro cyntaf ers 2017-18, er nad oedd yn newid arwyddocaol yn ystadegol. Fodd bynnag, mae’r gyfran nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon neu weithgarwch corfforol hefyd wedi cynyddu.
Nid oes data newydd ar gyfranogiad mewn chwaraeon ymysg disgyblion ysgol, er bod disgwyl i’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol diweddaraf gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Roedd yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ac Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos cynnydd yng nghanran y bobl sy’n siarad Cymraeg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod 11% o siaradwyr Cymraeg yn rhugl.
Cafodd cyflwr 444 o henebion eu hasesu yn 2021-22. Canfuwyd bod 50% yn sefydlog neu wedi gwella a bod cyflwr 50% wedi gwaethygu. Roedd 16% o’r henebion mewn perygl. Yn gyffredinol, roedd henebion a aseswyd yn ystod y flwyddyn hon yn fwy tebygol o fod mewn cyflwr sy’n gwaethygu neu mewn perygl na’r rhai a aseswyd hyd yma.
Mae nifer yr amgueddfeydd sy’n cyrraedd safonau achrededig wedi cynyddu gan 5 i 99 ac mae nifer y gwasanaethau archif achrededig yn 14.
Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?
Mae arolygon yn awgrymu bod cynnydd cadarnhaol wedi bod yn y tymor hwy yn nifer y siaradwyr Cymraeg (yn enwedig y rhai nad ydynt yn rhugl) ac yn y dangosyddion ar gyfranogiad a phresenoldeb plant mewn gweithgareddau celfyddydol. Mae cyfranogiad mewn chwaraeon ymysg oedolion a phlant hefyd wedi gwella yn y tymor hwy, ond erys gwahaniaethau mawr rhwng rhai grwpiau. Gwelwyd gostyngiad mewn rhai dangosyddion sy’n ymwneud â’r celfyddydau ymysg oedolion, gyda’r pandemig yn dwysau hynny.
Dim ond dwywaith mae’r dangosydd cenedlaethol ar weithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wedi cael ei gasglu ac mae’n dangos gostyngiad mewn presenoldeb a chyfranogiad rheolaidd, o 75% yn 2017-18 i 71% yn 2019-20. Wrth edrych ar y celfyddydau’n benodol, gwaethygodd y gostyngiad mewn presenoldeb a chyfranogiad yn ystod y pandemig, ond nid yw’n duedd sefydledig eto. Mae gwahaniaethau mawr yn parhau, yn dibynnu ar oedran, iechyd, amddifadedd a chymwysterau.
Er y gostyngiad o ran presenoldeb yn y flwyddyn ddiweddaraf (2019), mae presenoldeb a chyfranogiad plant a phobl ifanc mewn gweithgareddau celfyddydol wedi cynyddu’n sylweddol dros y degawd diwethaf.
Mae mwy o amgueddfeydd a gwasanaethau archifau yn cyrraedd y safonau achrededig. Mae 63% bellach wedi cyrraedd y meincnod hwn, i fyny o 59% yn 2017.
Ers 2016-17, gwelwyd cynnydd cadarnhaol o ran oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, er gwaethaf y ffaith bod y sefyllfa wedi aros ar yr un lefel rhwng 2017-18 a 2019-20. Mae cyfranogiad mewn chwaraeon ymysg disgyblion ysgol wedi aros ar yr un lefel yn 2015 a 2018, yn dilyn cynnydd o’r arolwg blaenorol.
Roedd nifer a chanran y bobl sy’n siarad Cymraeg wedi gostwng yng Nghyfrifiad 2011, ond mae arolygon ers hynny’n awgrymu bod y niferoedd yn cynyddu. Bydd data Cyfrifiad 2021 i fonitro’r garreg filltir genedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn 2022.
Mae data arolwg yn awgrymu cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl. Mae canran y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio’r iaith bob dydd wedi bod yn weddol sefydlog.
Mae cyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru wedi gwella fymryn ers 2015, ond mae llai o henebion sydd wedi cael eu hasesu’n ddiweddar mewn cyflwr sefydlog. Yn gyffredinol, roedd 76% o adeiladau rhestredig mewn cyflwr sefydlog neu’n gwella o’i gymharu â 59% o henebion.
Celfyddydau, diwylliant a threftadaeth
Mae’r dangosydd cenedlaethol ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wedi cael ei gasglu ddwywaith erbyn hyn, am y tro cyntaf yn 2017-18 ac yn fwyaf diweddar yn 2019-20. Mae’n dangos gostyngiad yng nghanran yr oedolion sy’n mynychu neu’n cymryd rhan reolaidd mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth, o 75% yn 2017-18 i lawr i 71% yn 2019-20.
Mae gwahaniaethau mawr o hyd o ran presenoldeb a chyfranogiad rhwng grwpiau. Mae oedolion iau, pobl mewn iechyd da, pobl â chymwysterau uwch neu bobl sy’n byw yn ardaloedd lleiaf difreintiedig Cymru yn fwy tebygol o fynychu neu gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn.
Presenoldeb a chyfranogiad oedolion yn y celfyddydau
Gan edrych ar y celfyddydau’n fanylach, mae Arolwg Cenedlaethol Cymru diweddaraf yn dangos bod y pandemig wedi parhau i effeithio ar bresenoldeb mewn digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol. Yn 2021-22, roedd 33% o bobl wedi ymweld â digwyddiad celfyddydol yn y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn sylweddol is na 2018-19 pan oedd y ffigur yn 73%.
Gweld ffilm yw’r gweithgaredd celfyddydol mwyaf cyffredin o hyd. Mae 21% o bobl yn dweud eu bod wedi gweld ffilm yn y sinema yn 2021-22, i lawr o 57% yn 2018-19.
Roedd cyfranogiad yn y celfyddydau wedi cynyddu drwy gydol 2021-22 wrth i’r cyfyngiadau lacio ond roedd y cyfraddau’n dal yn is na chyn y pandemig. Ar gyfer 2021-22 yn gyffredinol, roedd 14% o bobl wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol yn y 12 mis blaenorol, o’i gymharu â 20% pan gasglwyd y data ddiwethaf yn 2018-19. Crefftau a chelfyddydau gweledol welodd y lefel uchaf o gyfranogiad yn 2021-22, gydag 8% o bobl yn cymryd rhan yn y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 6% o bobl wedi mynd i ddigwyddiad celfyddydol Cymraeg yn y flwyddyn ddiwethaf, neu wedi cymryd rhan mewn digwyddiad o’r fath.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn holi ynglŷn â rhwystrau o ran mynd neu gymryd rhan yn y celfyddydau. Diffyg diddordeb ac anhawster dod o hyd i amser oedd y rhwystrau mwyaf cyffredin a grybwyllwyd, gyda 28% a 22% o bobl yn nodi’r rhesymau hyn. Fodd bynnag, yn achos oedolion hŷn, nodwyd mai rhesymau iechyd oedd y rhwystr mwyaf.
Plant a’r celfyddydau
Dros y tymor hir, gwelwyd cynnydd yn nifer y plant sy’n mynychu digwyddiadau celfyddydol. Fodd bynnag, mae cyfranogiad plant yn y celfyddydau wedi bod yn fwy sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae data gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn dangos bod cyfran y plant a phobl ifanc sy’n mynychu digwyddiadau celfyddydol wedi cynyddu dros y degawd diwethaf, er bod gostyngiad bach wedi bod yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae data ar gael ar ei chyfer. Fe gododd o 76.3% yn 2010 i 86.7% yn 2019. Nid yw data ar gael eto ar gyfer cyfnod y pandemig.
Nid yw cyfranogiad plant yn y celfyddydau wedi newid fawr ddim dros y blynyddoedd diwethaf. Mae tua 86% i 87% o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan mewn digwyddiad celfyddydol ym mhob un o’r pedair blynedd diwethaf hyd at 2019.
Mae gwahaniaethau o ran presenoldeb a chyfranogiad yn ôl rhywedd a chefndir economaidd-gymdeithasol. Roedd genethod a phlant o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o fynychu a chymryd rhan yn y celfyddydau, er bod y bwlch rhwng bechgyn a genethod wedi gostwng yn 2019.
Amgueddfeydd ac archifau
Cafodd y cynllun achredu ar gyfer amgueddfeydd ac archifau ei atal dros dro ar gyfer y rhan fwyaf o’r pandemig, ond mae’r data diweddaraf yn dangos bod 99 o amgueddfeydd wedi cyrraedd y safon achredu yn 2022, cynnydd o bump ers 2019. Mae hyn yn golygu bod 62% o amgueddfeydd wedi eu hachredu erbyn hyn, o’i gymharu â 59% yn 2017 i 2019. Effeithiodd y pandemig ar ymweliadau ag amgueddfeydd yn ystod 2021-22, gyda data gan Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos bod 13% o bobl wedi ymweld ag amgueddfa yn y flwyddyn ddiwethaf o’i gymharu â 37% yn 2018-19.
Roedd 14 o wasanaethau archif achrededig yn 2022. Er bod nifer y rhai sy’n bodloni’r safon achredu wedi cynyddu, mae’r ganran wedi gostwng o 86% yn 2019 i 74% yn 2022. Mae hyn yn sgil nifer yr ymgeiswyr newydd i’r cynllun sydd eto i fynd gerbron y panel achredu.
Cymryd rhan mewn chwaraeon
Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos darlun cymysg o ran cymryd rhan mewn chwaraeon. Am y tro cyntaf ers 2017-18, gwelwyd cynnydd bach yng nghyfran yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, er nad oedd y newid hwn yn arwyddocaol yn ystadegol. Yn 2021-22, dywedodd 34% eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy. Cyn hyn, nid oedd y ffigur wedi newid yn ystod y tair blynedd flaenorol yr oedd data ar gael, sef 32%.
Dynion, pobl rhwng 16 i 44 oed a phobl mewn gwaith oedd yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos neu fwy. Roedd lefelau cyfranogiad yn is ymysg pobl mewn amddifadedd materol a phobl â salwch neu gyflwr hirdymor. Ar gyfer grwpiau ethnig, dim ond y canlyniadau ar gyfer y categorïau Gwyn (Cymreig, Seisnig, Prydeinig ac ati), Gwyn arall, ac unrhyw grŵp ethnig arall y mae modd eu dadansoddi. Y grŵp Gwyn (Cymreig, Seisnig, Prydeinig ac ati) a welodd y lefel isaf o gyfranogiad rheolaidd sef 33%, er nad oedd hyn yn sylweddol is na’r cyfraddau ar gyfer y grwpiau ethnig eraill.
Er bod cynnydd yn nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, roedd cynnydd hefyd yn nifer y bobl nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon neu weithgarwch corfforol. Roedd 44% o oedolion yn nodi hyn. Dyma’r tro cyntaf i’r ffigur hwn godi ers i ddata ddechrau cael ei gasglu yn yr arolwg yn 2016-17.
Yn gyffredinol, byddai 31% o bobl yn hoffi cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon neu weithgarwch corfforol. Mae hyn wedi cwympo’n sylweddol ers yr arolygon blaenorol lle dywedodd tua 50% y byddent yn hoffi gwneud mwy.
Cyfranogaeth plant mewn chwaraeon
Cynhaliwyd yr arolwg ar chwaraeon ysgol diweddaraf yn ystod 2022 a chaiff y canlyniadau eu cyhoeddi yn yr hydref. Roedd yr arolwg blaenorol yn 2018 yn dangos bod 48% o ddisgyblion ym mlynyddoedd 3 i 11 yn yr ysgol yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos. Nid oedd hyn wedi newid ers 2015, yn dilyn cynnydd sylweddol ers 2013.
Ychydig iawn o wahaniaeth a welwyd yn y cyfraddau cyfranogi cyffredinol rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd, gyda 47% o ddisgyblion cynradd (7 i 11 oed) a 48% o ddisgyblion uwchradd (11 i 16 oed) yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith yr wythnos.
Roedd bechgyn yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd na genethod (50% o’i gymharu â 46%), ond roedd y bwlch wedi lleihau o’i gymharu â’r arolwg blaenorol yn 2015. Roedd cyfraddau cyfranogi disgyblion o’r ysgolion lleiaf difreintiedig yn tueddu i fod yn uwch nag ar gyfer disgyblion o’r ysgolion mwyaf difreintiedig. Roedd y cyfraddau hefyd yn uwch ar gyfer disgyblion o grŵp cymysg neu aml-ethnig ac ar gyfer disgyblion sy’n rhugl yn y Gymraeg.
Roedd ymchwil Chwaraeon Cymru yn ystod y pandemig wedi darganfod erbyn mis Awst 2021 bod oedolion yn dweud bod eu plant yn cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon neu weithgarwch corfforol y tu allan i oriau ysgol nag y byddent fel arfer wedi’i wneud cyn y pandemig.
Siaradwyr Cymraeg
Y cyfrifiad yw’r brif ffynhonnell o wybodaeth am nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru. Caiff data o Gyfrifiad 2021 ei gyhoeddi yn nes ymlaen yn 2022. Yn ôl y cyfrifiad blaenorol yn 2011, roedd 19% o bobl tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg.
Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer y Gymraeg yw miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r data o’r cyfrifiad yn dangos mai ychydig dros 562,000 o bobl yng Nghymru oedd yn siarad Cymraeg yn 2011. Yn 1911, roedd bron i filiwn o bobl yn siarad Cymraeg felly mae’r nifer wedi gostwng yn sylweddol dros y ganrif ddiwethaf. Mae wedi adfer ychydig ers y pwynt isaf ym 1981.
Gan mai dim ond unwaith y degawd y mae’r cyfrifiad yn digwydd, rydym yn defnyddio arolygon i edrych ar dueddiadau rhwng y cyfrifiadau. Nid oes modd cymharu data arolygon â’r cyfrifiad gan fod pobl fel arfer yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg mewn arolygon.
Mae data arolygon ers Cyfrifiad 2011 yn awgrymu bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi cynyddu, er nad yw’r gyfran sy’n rhugl wedi newid rhyw lawer. Golyga hyn fod y cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn deillio’n bennaf o bobl nad ydynt yn rhugl. Mae canran y bobl sy’n rhugl yn y Gymraeg wedi aros ar oddeutu 10% i 11% ers 2012-13, yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Mae canran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ond ddim yn rhugl yn 24%. Mae hyn wedi bod yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf gostyngiad yn 2019-20 pan syrthiodd i 13%.
Ffynhonnell arall o ddata ar siaradwyr Cymraeg yw’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Mae'r arolwg hwn hefyd yn dangos cynnydd yng nghanran y bobl a oedd yn gallu siarad Cymraeg dros y degawd diwethaf. Newidiodd yr arolwg o gyfweliadau wyneb yn wyneb i gyfweliadau dros y ffôn yn ystod y pandemig, ac nid ydym yn deall effaith hyn ar yr ystadegau yn llawn eto. Mae ymchwil blaenorol yn awgrymu bod rhai dulliau arolygu yn gallu arwain at fwy o bobl yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg na dulliau arolygu eraill.
Defnydd o’r Gymraeg
Mae’r arolwg diweddaraf o ddefnydd o’r Gymraeg yn dangos mai ychydig o newid a fu o ran pa mor aml mae pobl yn siarad Cymraeg.
Yn 2019-20, roedd 10% o bobl tair oed neu hŷn yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy na dim ond ychydig o eiriau Cymraeg. Dyma’r un ganran ag yn yr Arolwg Defnydd o’r Gymraeg blaenorol yn 2013-15. Mae data mwy diweddar o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer pobl 16 oed neu hŷn hefyd yn awgrymu mai prin fu’r newid cyffredinol yng nghyfradd y bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd.
Plant a phobl ifanc yw’r grŵp sydd fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn ôl y cyfrifiad ac arolygon, gyda’r ddwy ffynhonnell yn awgrymu bod tua 40% o’r rhai rhwng 3 i 15 oed yn gallu gwneud hynny. Mae pobl iau y tu hwnt i oedran addysg orfodol yn llai tebygol o ddweud eu bod yn siarad Cymraeg.
Mae’r Arolwg Defnydd o’r Gymraeg yn darparu dadansoddiad o’r defnydd o’r Gymraeg ymysg plant ac oedolion. Roedd yn dangos mai plant sydd fwyaf tebygol o ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd, ac mae hynny'n debygol o fod yn sgil ei defnyddio’n rheolaidd mewn ysgolion. Roedd canran y plant rhwng 3 a 15 oed a oedd yn siarad Cymraeg bob dydd yn sylweddol uwch nag unrhyw grŵp oedran arall, gyda bron i chwarter ohonynt yn siarad Cymraeg bob dydd. Mae canran y rhai rhwng 3 a 15 oed sy’n siarad Cymraeg bob dydd yn debyg i ganran y disgyblion sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog mewn ysgolion cynradd, canol ac uwchradd, er nad ydym yn gwybod a ydynt o reidrwydd yr un plant.
Mae plant rhwng 3 a 15 oed yn llawer mwy tebygol o fod wedi dechrau dysgu siarad yr iaith yn yr ysgol na’r rhai 65 oed neu hŷn (69% o’i gymharu â 15%). Mae’n debygol mai’r rheswm am hyn yw’r newid sylweddol yn y sector addysg cyfrwng Cymraeg dros yr hanner can mlynedd diwethaf, gyda chynnydd cyffredinol yn nifer y disgyblion sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd wedi cael eu hagor ledled Cymru.
Mae’r grŵp oedran ieuengaf yn llai tebygol o fod ag o leiaf un rhiant sy’n rhugl yn y Gymraeg. Mae 36% o blant rhwng 3 a 15 oed wedi adrodd am hyn, o’i gymharu â 69% o bobl 65 oed neu hŷn.
Mae’r arolwg ar y defnydd o’r Gymraeg 2019-20 yn dangos bod siaradwyr Cymraeg a ddechreuodd ddysgu siarad yr iaith yn y cartref pan oeddent yn blant ifanc yn llawer mwy tebygol o siarad yr iaith bob dydd neu fod yn rhugl yn y Gymraeg o’i gymharu â’r rhai a ddechreuodd ddysgu siarad Cymraeg yn yr ysgol neu fel oedolyn yn rhywle arall.
Daeth yr arolwg ar y defnydd o’r Gymraeg hefyd i’r casgliad bod siaradwyr Cymraeg ddwywaith yn fwy tebygol o siarad Cymraeg bob dydd os oedd ganddynt o leiaf un rhiant yn rhugl yn y Gymraeg, o’i gymharu â siaradwyr Cymraeg heb riant rhugl.
Mae siaradwyr Cymraeg rhugl yn siarad yr iaith yn amlach na’r rhai nad ydynt yn rhugl.
Adeiladau hanesyddol a henebion
Mae cyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru wedi gwella fymryn ers 2015, ond mae llai o henebion sydd wedi cael eu hasesu’n ddiweddar mewn cyflwr sefydlog.
O’r 30,000 o adeiladau rhestredig, mae 76% mewn cyflwr sefydlog neu’n gwella a chredir bod 9% mewn perygl. Yn gyffredinol, mae cyflwr adeiladau rhestredig wedi gwella fymryn ers 2015, pan oedd 74% mewn cyflwr sefydlog neu wedi gwella
Mae cyflwr sampl o henebion cofrestredig yn cael eu hasesu bob blwyddyn. Yn 2021-22 cynhaliwyd arolygon o gyflwr 444 o henebion. Roedd 50% ohonynt yn sefydlog neu wedi gwella ac roedd 50% ohonynt wedi gwaethygu. Roedd 16% o’r henebion mewn perygl. Yn gyffredinol, roedd henebion a aseswyd yn ystod y flwyddyn hon yn fwy tebygol o fod mewn cyflwr sy’n gwaethygu neu mewn perygl na’r rhai a aseswyd hyd yma.
O’r 4,200 o henebion cofrestredig yng Nghymru, asesir bod 59% yn gyffredinol mewn cyflwr sefydlog neu wedi gwella. Mae hyn wedi aros yr un fath ers llynedd, ond dros y tymor hwy mae’r ffigur wedi bod yn gostwng yn raddol ers 2016-17, pan oedd 66% mewn cyflwr sefydlog neu wedi gwella. Yn unol â chanfyddiadau’r flwyddyn flaenorol, mae 41% o henebion cofrestredig yn dangos dirywiad, ac mae 15% ohonynt yn cael eu hystyried yn rhai ‘mewn perygl’. Y prif effeithiau yw difrod a dirywiad o ganlyniad i’r tywydd ac erydiad stoc.
Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2019-20, roedd 63% o oedolion wedi ymweld â lle hanesyddol yn y flwyddyn flaenorol. Roeddent yn fwy tebygol o ymweld â chestyll, caerau ac adfeilion. Ni fu unrhyw newid cyffredinol yng nghyfran y bobl sy’n ymweld â mannau hanesyddol ers i’r data gael ei gasglu ddiwethaf yn 2017-18.
Darllen pellach
Roedd fersiynau blaenorol o Adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys dadansoddiad pellach o:
- gwirfoddoli neu gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol neu chwaraeon
- rhwystrau o ran cymryd rhan yn y celfyddydau, gwahaniaethau rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol a phoblogaeth o ran cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a chwaraeon
- tueddiadau yn y mathau o weithgareddau y cymerwyd rhan ynddynt
- cymryd rhan mewn chwaraeon yn ystod y pandemig
- cysylltiadau rhwng y Gymraeg a digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru yn cynhyrchu adroddiadau manwl rheolaidd ar y celfyddydau a chwaraeon. Mae hyn yn cynnwys Arolwg Omnibws y Plant 2019 ac Arolwg Chwaraeon Ysgolion.
Mae amrywiaeth o ddadansoddiadau o’r Gymraeg ar gael hefyd o Gyfrifiad 2011 ac yn adroddiad yr Arolwg Defnydd Iaith 2019-20. Yn fwy diweddar, roedd y cyhoeddiadau canlynol yn dadansoddi data arolygon sy’n ymwneud â'r Gymraeg yn fwy manwl.
Siarad Cymraeg (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2018 i Fawrth 2019
Ble a phryd y mae pobl yn dysgu’r Gymraeg (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2018 i Fawrth 2019
Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r BoblogaetH: 2001 I 2018
Ffynonellau data
Presenoldeb a chyfranogiad yn y celfyddydau
Arolwg Omnibws Plant 2019 - Cyngor Celfyddydau Cymru
Cymryd rhan mewn chwaraeon
Arolwg Chwaraeon Ysgolion 2018 (Chwaraeon Cymru)
Traciwr Gweithgarwch Cymru (Chwaraeon Cymru)
Y Gymraeg
Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth
Data’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion
Adeiladau hanesyddol a henebion
Amgueddfeydd ac archifau
CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru