Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant.

Mae'r 7 nod llesiant yn:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Sefydlwyd y saith nod llesiant er mwyn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru ac maent wedi'u cynnwys yn y gyfraith o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Prif bwyntiau

  • Mae disgwyliad oes iach yn dal i fod yr un fath. Mae ein deiet yn dal i gynnwys lefelau isel o ffrwythau a llysiau, a gormod o halen, siwgr a chig coch. 
  • Rydym wedi gweld gwelliannau eleni yn lefelau'r prif lygryddion yn yr aer, y capasiti ynni adnewyddadwy a'r allyriadau carbon. 
  • Mae perfformiad y farchnad lafur yng Nghymru yn parhau i fod yn gryf yn nhermau hanesyddol. Fodd bynnag, nid yw hyn o reidrwydd yn gyfystyr ag ansawdd gwaith da i bawb ac mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi cynyddu. 
  • Am y tro cyntaf mewn degawd, roedd data arolygon yn dangos bod cyflwr tai wedi gwella'n sylweddol yng Nghymru, sy'n golygu bod llai o bobl yn byw mewn tai peryglus neu dai nad ydynt yn effeithlon o ran ynni. 
  • Mae gwahaniaethau o hyd rhwng y mwyaf a'r lleiaf difreintiedig, er enghraifft o ran marwolaethau y gellid eu hosgoi a chyrhaeddiad addysgol. Ac mae cyfraddau tlodi cymharol yn aros ar lefel debyg eleni. 

Dangosyddion Cenedlaethol

Mae’r adroddiad hwn yn asesu cynnydd yn erbyn y 46 dangosydd cenedlaethol, a osodwyd gan Weinidogion Cymru yn 2016, ynghyd ag amrywiaeth o ddata perthnasol eraill. Mae tudalennau’r dangosyddion cenedlaethol yn cynnwys data ar gyfer pob un o’r dangosyddion cenedlaethol, ynghyd â dolenni at y ffynonellau a, phan fo’r rhain ar gael, cyhoeddiadau ystadegol ymhle y dadansoddir y dangosyddion mewn mwy o fanylder.

StatsCymru

Mae’r rhan helaeth o’r data a ddefnyddiwyd i fesur y dangosyddion cenedlaethol ar gael ar StatsCymru. Cynnigir data fesul ardal ddaearyddol neu fesul grŵp poblogaeth lle fo hwn yn bosib.

Nodyn

Diweddarwyd testun ar dudalen 79 yr adroddiad 26 Tachwedd 2019 er mwyn bod yn fwy eglur ynghylch yr hyn roedd y data yn ei fesur.

Nid yw’r newid hwn wedi effeithio ar y data a’r siartiau a gyhoeddwyd yn y daenlen siartiau ac yn y tudalennau dangosyddion cenedlaethol.

Llesiant Cymru: sut mae’r adroddiad yn cael ei ddefnyddio

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r adroddiad, a gwneud yr wybodaeth yr ydym yn ei chyhoeddi’n haws ei defnyddio ac yn addas i gynulleidfa eang. Mae deall sut mae’r adroddiad yn cael ei ddefnyddio yn hanfodol er mwyn inni allu gwneud hynny.

Sut mae adroddiad Llesiant Cymru yn cael ei ddefnyddio?

Adroddiadau

Llesiant Cymru, 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Llesiant Cymru, 2019: siartiau a data cysylltiedig , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 899 KB

XLSX
899 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Glyn Jones

Rhif ffôn: 0300 025 6691

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.