Canllawiau i helpu ffermwyr ddilyn y gyfraith o safbwynt lles ieir bwyta (brwyliaid).

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Gweithredu Cyfarwyddeb Cyngor yr UE 2007/43/EC sy’n gosod y rheolau gofynnol ar gyfer amddiffyn ieir sy’n cael eu cadw ar gyfer cynhyrchu cig (brwyliaid).

Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 yn gweithredu darpariaethau’r Gyfarwyddeb ac yn gosod rheolau manwl am y tro cyntaf ynghylch yr amodau y mae’n rhaid cadw ieir bwyta ynddynt.  Bydd unrhyw ddeddfwriaeth flaenorol yn parhau’n weithredol.  

Pennir dwysedd stocio uchaf o 39kg/m² er mwyn gallu gweithredu fframwaith cyson ar draws Prydain Fawr ar gyfer archwilio a gorfodi o fewn lladd-dai ac ar ffermydd.  Diffinnir y gofynion rheoli a hyfforddi isaf hefyd.

Mae Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) (Diwygio) 2010 yn codi’r gwaharddiad ar yr arfer o docio pigau cywion brwyliaid er mwyn caniatáu tocio pigau cywion diwrnod oed fel mater o drefn drwy dechneg isgoch yn unig.

Cwmpas

Mae’r Gyfarwyddeb yn gymwys ar gyfer  ieir bwyta sy’n cael eu magu yn gonfensiynol oni bai eu bod ar ddaliad â llai na 500 o adar. Nid yw’r Gyfarwyddeb yn gymwys i ieir magu, ieir buarth (os cânt eu marchnata felly), ieir organig (os cânt eu marchnata felly), ieir dan-do llai dwys (os cânt eu marchnata felly) nac i’r rhai sy’n cadw llai na 500 o adar.

Mae gwybodaeth ar gael am Rai Safonau Marchnata ar gyfer cig Dofednod mewn perthynas â Rheoliad 1906/90 Cyngor y CE a Rheoliad 1538/91 y Comisiwn.

Mae’r darpariaethau lles yn dangos yr arferion gorau a’r wyddoniaeth y gellid eu cymhwyso i’r holl systemau cynhyrchu ieir bwyta, ac felly anogir pawb sy’n cadw ieir bwyta, beth bynnag fo’r system gynhyrchu, i ddarllen yr wybodaeth yn y dolenni a’r tudalennau isod.

Cyflwynir deddfwriaeth gyffelyb yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gorfodaeth

Rydym yn gweithio gyda’r ceidwaid, a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), i asesu lles ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol gyferbyn â gofynion Cyfarwyddeb yr UE.

Wrth orfodi Cyfarwyddeb yr UE 2007/43/EC,  cymhwysir yr egwyddorion canlynol:

  • sicrhau bod y drefn yn debyg i’r broses gyfredol ar gyfer gorfodi rheolau lles anifeiliaid
  • bydd diffyg cydymffurfio’n cynyddu’r tebygrwydd y cynhelir archwiliadau seiliedig ar risg gan APHA
  • bydd y mesurau gorfodi’n gymesur

Bydd APHA yn gweithio gyda’r ceidwaid i asesu lles ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol gyferbyn â gofynion Cyfarwyddeb yr UE ac yn cywiro unrhyw dramgwyddau yn erbyn y ddeddfwriaeth.

Mewn rhai amgylchiadau, gall y data a gesglir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ysgogi archwiliad o’r fferm gan APHA.

Mae’r lefelau a allai ysgogi archwiliadau gan APHA wedi’u pennu ar sail y data cyfartalog cenedlaethol yn ogystal ag astudiaeth beilot a gynhaliwyd yn ddiweddar gyda’r diwydiant ieir bwyta. Yr amodau a asesir yn y lladd-dy fydd:

  • y gyfradd gronnus o farwolaethau dyddiol
  • asgites neu oedema
  • llid yr isgroen a dermatitis
  • y niferoedd sy’n farw pan gyrhaeddant y lladd-dy
  • y niferoedd sy’n nychu
  • briwiau yn y cymalau neu arthritis
  • septisemia a clefydau anadlol
  • chyfanswm yr adar a wrthodir

Mae ysgogi archwiliad o’r fferm gan APHA yn gam sy’n ategu’r prosesau presennol ond yn galluogi dull mwy cyson o weithredu ar draws yr holl ladd-dai. Byddwn yn parhau i ail-werthuso’r lefelau sy’n ysgogi archwiliad drwy ddadansoddi’r data a gesglir yn barhaus.

Anogir Gweithredwyr Busnesau Bwyd i gofnodi achosion o ddermatitis y droed yn y lladd-dy gan ddefnyddio system sgorio safonol.

Yn ychwanegol, mae awdurdodau lleol yn gorfodi amryw o ddeddfau eraill yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid ar ffermydd.

Cadw cofnodion

Rhaid archwilio’r holl ieir o leiaf 2 waith y dydd. Dylid talu sylw arbennig i’r arwyddion bod lefelau lles neu iechyd yr anifeiliaid yn gostwng.

Mae'r Cofnodion yn ofynnol gan Gyfarwyddeb Cyngor yr UE 2007/43/EC. Bydd angen i’r cofnodion fod ar gadw am o leiaf 3 blynedd, ac ar gael i’w harchwilio. Ar gyfer pob cwt ieir ar y daliad, bydd angen cofnodi’r canlynol:

  • y nifer o ieir a roddwyd yno
  • yr arwynebedd defnyddiadwy (diffinnir hwn fel yr arwynebedd â sarn sydd ar gael i’r ieir ar unrhyw adeg. Yr arwynebedd defnyddiadwy yw arwynebedd mewnol y cwt ac eithrio ychwanegiadau ymwthiol megis ystafell reoli, padelli bwyd a thraciau bwyd os nad yw’r ieir yn gallu defnyddio’r arwynebedd oddi tanynt. Os yw’r padelli bwyd a’r traciau bwyd yn cael eu dyrchafu wrth i’r ieir dyfu, yn unol â’r arferion gorau, a’r arwynebedd oddi tanynt ar gael i’r adar, gellir cynnwys hwnnw fel rhan o’r ‘arwynebedd defnyddiadwy’)
  • brîd yr ieir, os yw’n hysbys
  • nifer yr adar a fu farw, gyda chofnod o achos y farwolaeth os yw’n hysbys
  • nifer yr adar a laddwyd, gyda’r rheswm dros eu lladd
  • nifer yr ieir a oedd yn bresennol cyn iddynt gael eu symud ymaith i’w gwerthu neu eu lladd

Environment

Yfwyr

Rhaid i’r yfwyr gael eu gosod a’u cynnal a chadw mewn modd sy’n sicrhau bod cyn lleied â phosibl o ddŵr yn cael ei golli.

Bwydo

Rhaid rhoi’r bwyd ar gael yn barhaus neu ei ddarparu fesul pryd.

Rhaid peidio â thynnu bwyd oddi wrth yr ieir fwy na 12 awr cyn yr amser y disgwylir eu lladd.

Sarn

Rhaid i’r holl ieir gael mynediad parhaol at sarn sy’n sych a brau ar yr wyneb.

Awyru a gwresogi

Rhaid awyru digon, rhag i’r adar fynd yn rhy boeth. Rhaid i’r ceidwaid fod â systemau sy’n atal gwres rhag codi yn y cwt ieir er mwyn lleihau’r straen a achosir gan y gwres mewn tywydd poeth. Dylai’r systemau sicrhau nifer ddigonol o newidiadau yn yr aer a system oeri addas.

Rhaid i systemau awyru (wedi’u cyfuno â systemau gwresogi os oes angen) fod yn ddigonol i reoli lleithder yn y cwt ieir fel bod y sarn yn sych a brau ym mhob tywydd.

Sŵn

Rhaid i’r adar brofi’r lefelau isaf posibl o sŵn. Er enghraifft, bydd angen i ffaniau, peiriannau bwydo a chyfarpar mecanyddol eraill gael eu hadeiladu, eu gosod, eu gweithredu a’u cynnal a chadw mewn modd sy’n achosi cyn lleied o sŵn ag y bo modd.

Golau

O 7 niwrnod i 3 diwrnod cyn y diboblogi a ragwelir, rhaid i’r tanbeidrwydd golau fod yn > 20 lwcs (wedi’i fesur ar uchder pen aderyn) ar o leiaf 80% o’r arwynebedd defnyddiadwy.

Rhaid rhoi cyfanswm o > 6 awr o dywyllwch i’r adar  gydag o leiaf > 4 awr ddi-dor, heb gynnwys y cyfnodau pylu.

Pan fo tanbeidrwydd y golau yn uwch, cydnabyddir bod ymddygiad grwpiau o adar yn gallu newid ar ôl cyfnodau o dywyllwch, gan arwain at ymddygiadau gwrthgymdeithasol a chrafu cefnau. Rhaid i’r cynhyrchydd fod yn ymwybodol o hyn a’i reoli. Os yw problem yn parhau, caniateir gostyngiad dros dro yn nhanbeidrwydd y golau, ar ôl cael cyngor milfeddygol yn unig. Bydd angen i’r cyngor milfeddygol fod yn ysgrifenedig ac yn benodol i bob haid. Rhaid i’r cyngor milfeddygol ysgrifenedig fod ar gael i swyddogion Iechyd Anifeiliaid os ydynt yn archwilio’r fferm.

Gellir mesur tanbeidrwydd golau drwy ddilyn trywydd ‘W’ ddychmygol drwy’r cwt a chymryd cyfres o ddarlleniadau.

Glanhau

Ar ôl diboblogi’n derfynol a chyn cyflwyno haid newydd i’r cwt:

  • rhaid tynnu’r holl sarn ymaith
  • rhaid i adeiladau, cyfarpar neu offer sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r ieir gael eu glanhau a’u diheintio’n drylwyr
  • rhaid defnyddio diheintyddion cymeradwy ar y cryfder a argymhellir i lanhau adeiladau, cyfarpar ac offer 
  • rhaid darparu sarn glan i bob haid
  • bydd angen i’r lloriau fod yn sych cyn ychwanegu sarn newydd

Archwilio

Rhaid archwilio’r holl ieir o leiaf 2 waith y dydd. Dylid talu sylw arbennig i’r arwyddion bod lefelau lles neu iechyd yr anifeiliaid yn gostwng.

Mae ieir sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol neu’n dangos arwyddion amlwg o anhwylder iechyd yn debygol o ddioddef, a rhaid rhoi triniaeth briodol iddynt neu eu lladd ar unwaith. Rhaid cysylltu â milfeddyg pryd bynnag y bo’n angenrheidiol.

Rhaid cofnodi pob marwolaeth, ynghyd â’r rheswm os yw’n hysbys, a rhaid cofnodi’r niferoedd sy’n cael eu difa hefyd, ynghyd â’r rheswm.

Hyfforddiant

Mae angen i bob ceidwad ieir bwyta ddangos ei fod yn ddigon cymwys i sicrhau lles yr adar yn ei ofal.

Mae angen i bob ceidwad ieir bwyta ddangos ei fod yn ddigon cymwys i sicrhau lles yr adar yn ei ofal. Bydd angen i bob ceidwad gael yr hyfforddiant priodol ac mae hynny’n cynnwys unrhyw un sy’n gyfan gwbl gyfrifol am ofal o’r adar ar unrhyw adeg, e.e. gweithwyr rhan amser.

Ni fydd angen hyfforddiant ar y rhai (gan gynnwys dalwyr) nad ydynt yn gyfan gwbl gyfrifol am ofal beunyddiol o’r adar, ond yn hytrach sydd dan oruchwyliaeth. Mae tair ffordd o gwblhau’r  hyfforddiant:

  • hyfforddiant ffurfiol
  • y Fenter Hyfforddiant Cig Dofednod
  • Hawliau Tad-cu
Hyfforddiant ffurfiol

Bydd angen i’r ceidwaid ddilyn hyfforddiant ffurfiol sy’n cyfateb i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a osodir gan Lantra (y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer diwydiannau amgylcheddol a diwydiannau’r tir). Bydd corff achrededig yn dyfarnu ac yn cyflenwi’r hyfforddiant. Y corff dyfarnu perthnasol yw City & Guilds NPTC, sef y corff dyfarnu mwyaf a gydnabyddir yn genedlaethol o fewn sector diwydiannau’r tir.

Mae hyfforddiant mewnol cyfatebol yn dderbyniol hefyd, ond byddai’n rhaid i’r cymhwyster gyrraedd y safonau a osodir gan Lantra a chael ei ddyfarnu gan gorff achrededig. Gellir ceisio achrediad drwy City & Guilds NPTC.  Gall gymryd hyd at 6 mis i gael yr achrediad gan City & Guilds NPTC. I gael gwybodaeth am achredu cyrsiau mewnol, cysylltwch â City & Guilds NPTC ar 02476 857300

Y Fenter Hyfforddiant Cig Dofednod

Sefydlwyd y Fenter Hyfforddiant Cig Dofednod gan y diwydiant er mwyn annog y diwydiant cig dofednod i gwblhau hyfforddiant a darparu system i gofnodi’r hyfforddiant. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r Fenter Cig Dofednod.

Wrth gofrestru ar gyfer y Fenter Hyfforddiant Cig Dofednod, bydd unigolyn yn ymrwymo i gwblhau’r NVQ Lefel 2 mewn Cynhyrchu Da Byw (Dofednod) a ddisodlir cyn bo hir gan y Diploma Seiliedig ar Waith mewn Amaethyddiaeth (Cynhyrchu Dofednod). Yn ychwanegol at hwn, bydd angen i’r dysgwyr gwblhau cyrsiau byr parhaus a gyflenwir gan ddarparwyr cymeradwy neu diwtoriaid mewnol cymeradwy.

Mae’r Pasport Dofednod yn system ddiogel ar-lein ar gyfer cofnodi hyfforddiant gorfodol, ac mae ar gael i gwmnïau ac unigolion yn y sector dofednod. Mae’r Pasport Dofednod yn galluogi’r defnyddiwr i gael gweld eu cofnodion ar unwaith, a chaiff y rheini eu cadw a’u diweddaru’n barhaus ar eu rhan.

Mae Llywodraeth Cymru’n annog holl geidwaid ieir cig i gofrestru â’r Fenter Hyfforddiant Cig Dofednod.

Hawliau Tad-cu

Mae’r cynllun Hawliau Tad-cu’n cydnabod bod profiad yn gallu bod llawn cystal â chymhwyster ffurfiol.

I fod yn gymwys ar gyfer Hawliau Tad-cu, rhaid i’r ceidwad fod dros 21 oed a rhaid iddo fod ag leiaf 5 mlynedd o brofiad o gadw ieir cig yn y 10 mlynedd diwethaf. Rhaid iddo fod heb ei gollfarnu erioed am drosedd yn ymwneud â lles anifeiliaid a bod yn gymwys yn y canlynol:

  • atodiad I a II o Gyfarwyddeb y Cyngor 2007/43/EC 
  • ffisioleg, yn enwedig anghenion yfed a bwyta; ymddygiad anifeiliaid a’r cysyniad o straen
  • yr agweddau ymarferol ar drin a thrafod ieir yn ofalus,  yn ogystal â dal, llwytho a chludo
  • gofalu am ieir mewn argyfwng, lladd mewn argyfwng a difa
  • mesurau ataliol bioddiogelwch

Gellir gwneud cais am hawliau tad-cu drwy lenwi Ffurflen Hysbysu Ieir Bwyta. Bydd ceidwaid yng Nghymru a’r Alban yn cael y ffurflen ar ddechrau Rhagfyr 2010 gan Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, os yw eu manylion ar gofrestr Dofednod Prydain Fawr.

Os oes unrhyw fanylion anghywir ar y ffurflen, byddem yn annog y ceidwaid i achub ar y cyfle hwn i newid y manylion ar y ffurflen er mwyn inni allu diweddaru’r Gofrestr Dofednod. Gellir defnyddio’r ffurflen i hysbysu Iechyd Anifeiliaid o fwriad i gadw mwy na 33kg/m² o stoc.