Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar natur a dosbarthiad llesiant yng Nghymru gan ddefnyddio data o Arolwg Cenedlaethol Ebrill 2012 i Mawrth 2013.

Canfyddiadau allweddol

Mae sawl agwedd ar fywyd yn gysylltiedig â llesiant personol, ond dydy'r rhan fwyaf ddim yn arwyddocaol ar ôl ystyried ffactorau eraill. Er enghraifft, mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol yn dueddol o gofnodi lefelau is o lesiant na phobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Fodd bynnag, ar ôl ystyried ffactorau fel iechyd, straen ariannol a statws cyflogaeth, nid oedd byw mewn ardal drefol bellach yn gysylltiedig â llesiant isel.

Ar ôl ystyried ffactorau eraill, mae oedran a rhyw yn ymddangos fel rhagfynegyddion allweddol ar gyfer llesiant personol:

Oedran: Mae'r cwymp canol oed wedi'i hen sefydlu yn rhyngwladol, yn ogystal â bod yn amlwg ymysg oedolion Cymru. Yn aml, gall ymyriadau polisi dargedu anghenion penodol pobl pan maent yn ifanc ac yn hwyrach yn eu bywydau. Gall anghenion penodol pobl ganol oed, sy'n cael eu dal rhwng galwadau byd gwaith a gofalu am blant a rhieni gwael eu hiechyd, fod mewn perygl o gael eu hanghofio.

Rhyw: Mae menywod yn fwy tebygol na dynion o gael lefelau llesiant isel a lefelau llesiant uchel. Mae'r patrwm hwn yn cael ei guddio wrth gymharu ffigurau cyfartalog. Bydd polisïau â'r nod o godi pobl allan o lefelau llesiant isel fod yn arbennig o berthnasol i fenywod, tra bod polisïau â'r nod o godi pobl o lefelau llesiant cymedrol i uchel yn fwy perthnasol i ddynion.

Adroddiadau

Lles (Arolwg Cenedlaethol Cymru) dadansoddiad eilaidd, Ebrill 2012 i Mawrth 2013 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Lles (Arolwg Cenedlaethol Cymru) dadansoddiad eilaidd, Ebrill 2012 i Mawrth 2013: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.