Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar berchnogaeth o anifeiliaid anwes, yswiriant anifeiliaid anwes a microsglodynnu ar gyfer Ebrill 2014 i Mawrth 2015.

Prif bwyntiau

  • Roedd gan 47% o'r aelwydydd anifail anwes. O'r aelwydydd hyn, roedd gan 62% gŵn ac roedd gan 39% gathod. Roedd gan 14% bysgod ac roedd gan 6% adar.
  • Roedd cŵn anwes fel rheol yn cael eu prynu oddi wrth werthwr preifat (36%)
  • Y man mwyaf cyffredin i gael cath anwes oedd gan ffrindiau neu gymdogion (38%).
  • Yn gyffredinol, roedd 78% o'r cŵn a gafwyd dros y pum mlynedd ddiwethaf wedi cael microsglodyn (81% ar aelwydydd heb fod mewn amddifadedd materol a 67% ar aelwydydd mewn amddifadedd materol).
  • Canfuwyd mai amddifadedd materol aelwydydd oedd y prif ffactor wrth ystyried a oedd gan y ci ficrosglodyn neu yswiriant neu beidio.
  • Roedd gan 46% o'r cŵn a 21% o'r cathod yswiriant. Roedd gan 50% o'r ceffylau yswiriant.

Adroddiadau

Lles anifeiliaid anwes (National Survey for Wales), Ebrill 2014 i Mawrth 2015 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 430 KB

PDF
430 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.