Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ynghylch lleoliadau tomenni glo yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut mae Llywodraeth Cymru yn prosesu gwybodaeth bersonol mewn perthynas â Diogelwch Tomenni Glo yng Nghymru. Mae'n ymdrin â sut rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol os ydych yn berchennog tir sydd â thomen nas defnyddir ar eich tir neu'ch eiddo a hefyd os byddwch yn dewis cysylltu â ni mewn perthynas â diogelwch tomenni glo yng Nghymru.
Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd ar gyfer gwybodaeth bersonol a gaiff ei phrosesu at y dibenion hyn.

Beth yw’r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu?

Caiff data personol mewn perthynas â Diogelwch Tomenni Glo eu prosesu fel rhan o dasg gyhoeddus Llywodraeth Cymru; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Y sail statudol ar gyfer prosesu'r data yw cyfuniad o bwerau – adran 141 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar y cyd ag adrannau 11 a 12 o Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969; ac adran 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Gwybodaeth am berchnogion tir

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu set ddata ddigidol genedlaethol o domenni glo nas defnyddir yng Nghymru fel rhan o'i rhaglen Diogelwch Tomenni Glo. Mae'r set ddata hon yn rhan hanfodol o sut mae tomenni glo nas defnyddir yn cael eu rheoli, eu monitro a'u cynnal yng Nghymru. Mae gwaith mapio lleoliad a maint y tomenni wedi caniatáu inni ddarganfod eich enw a'ch cyfeiriadau cofrestredig fel perchennog teitlau tir sy'n cyd-fynd â ffiniau tomenni glo nas defnyddir. Daw'r wybodaeth hon o Gofrestrfa Tir Ei Fawrhydi sy'n ei darparu drwy gofrestr gyhoeddus.

Mae'n bosibl y byddwn ni (gan gynnwys ein sefydliadau partner a thrydydd partïon dan gontract) yn defnyddio'r wybodaeth hon i ysgrifennu atoch ynghylch mynediad i dir ar gyfer archwilio a chynnal a chadw tomenni yn barhaus, i'ch hysbysu o waith cynnal a chadw neu weithgarwch ar y domen ac i roi gwybod i chi y bydd lleoliadau tomenni glo nas defnyddir yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2023. Bydd manylion perchnogaeth tir yn cael eu diweddaru o bryd i'w gilydd a bydd fersiynau blaenorol o'r wybodaeth yn cael eu cadw am ddim mwy na 3 blynedd.

Efallai y byddwn yn defnyddio cofnodion dienw sy'n deillio o wybodaeth am berchnogaeth i lywio'r gwaith o ddatblygu a darparu polisi a deddfwriaeth (er enghraifft, a yw tomen mewn perchnogaeth breifat, fasnachol neu gyhoeddus).
Bydd eich gwybodaeth ond yn cael ei rhannu pan fydd angen gwneud hynny, er enghraifft gyda'r Awdurdod Glo sy'n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru wrth gynnal archwiliadau ar domenni.

Mae fersiwn gyfyngedig (tomenni categori C a D) o'r set ddata genedlaethol o domenni glo nas defnyddir ar gael yn gyhoeddus drwy wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd y data hyn yn cynnwys unrhyw gyfeiriad uniongyrchol at eich enw, cyfeiriad nac unrhyw dir sy'n eiddo i chi. Bydd y data'n cael eu defnyddio am gyfnod amhenodol fel egwyddor drefnu ar gyfer rheoli diogelwch tomenni glo yng Nghymru (gan gynnwys ymarferion parodrwydd). Bydd yn destun newid dros amser yn unol â gwybodaeth a gasglwyd mewn perthynas â chyflwr neu faint tomenni (er enghraifft mewn ymateb i ganfyddiadau archwiliad).

Mae'r set ddata genedlaethol lawn o domenni glo nas defnyddir yn cael ei rhannu gyda rhannau o’r sector cyhoeddus sydd â chyfrifoldebau am domenni glo (er enghraifft  Awdurdodau Lleol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Fforymau Lleol Cymru Gydnerth a'r Awdurdod Glo) i helpu i gydlynu gwaith rheoli tomenni glo (gan gynnwys cynllunio ac ymateb i argyfyngau). Gall hefyd gael ei rhannu gyda contractwyr ac ymgynghorwyr sy'n cyflenwi gwasanaethau neu’n ymchwilio  ar ran Llywodraeth Cymru.

Os byddwch yn cysylltu â ni

Os byddwch yn ysgrifennu atom dros e-bost neu drwy'r gwasanaeth post, bydd angen inni brosesu'r data personol a roddwch i'n galluogi i ymateb i'ch neges. Mae'n bosibl y bydd angen inni ddatgelu eich gwybodaeth i drydydd parti os oes angen eu mewnbwn er mwyn ymateb i'ch ymholiad. Os nad ydych am i wybodaeth sy'n eich adnabod gael ei datgelu, byddwn yn ceisio parchu hynny. Fodd bynnag, efallai na fydd yn bosibl delio ag ymholiad yn ddienw.

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw o fewn systemau rheoli cofnodion diogel Llywodraeth Cymru am hyd at dair blynedd yn unol â'n polisi cadw gwybodaeth ac ar ôl hynny bydd yn cael ei dileu/gwaredu.

Eich hawliau

O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • i weld copi o’ch data eich hun
  • i ofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar unrhyw brosesu (o dan amgylchiadau penodol)
  • i'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt

Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 5AF.

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113.

Os oes gennych ymholiadau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu'r rhaglen diogelwch tomenni glo, cysylltwch â:
E-bost: TomenniGlo@llyw.cymru 

Os oes gennych gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu am sut mae Llywodraeth Cymru’n delio â gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data, 
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ
E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru