Lleoliadau mewn darpariaeth addysg bellach arbenigol: canllawiau ar drefniadau pontio
Amserlen y penderfyniadau a wnaethom yn ystod blwyddyn olaf gweithredu ADY a gwybodaeth am leoliadau a ariennir o fis Medi 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r trefniadau ar gyfer cynllunio a sicrhau lleoliadau mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol, a elwir hefyd yn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol (Gweler adran 56 o’r Ddeddf ADY), yn newid fel rhan o'r diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Mae'r canllawiau hyn yn darparu gwybodaeth ar gyfer Gyrfa Cymru, sefydliadau addysg bellach arbenigol, awdurdodau lleol, a pobl ifanc a rhieni neu gofalwyr ar yr amserlen ar gyfer y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn olaf o weithredu'r diwygiadau ADY (blwyddyn academaidd 2024 i 2025).
Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am leoliadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru o fis Medi 2025.
Y cyd-destun polisi
Bydd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Deddf ADY) a'r diwygiadau ADY ehangach yn dwyn ynghyd y systemau anghenion addysgol arbennig (AAA) ac anawsterau a (neu) anableddau dysgu (AAD) mewn un system ADY.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch ariannu lleoliadau ar gyfer pobl ifanc 16 i 25 oed sydd ag anawsterau dysgu ac sydd angen mynediad at ddarpariaeth arbenigol. Mae hyn yn newid fel rhan o'r system ADY gyda'r cyfrifoldeb yn trosglwyddo'n raddol i'r awdurdodau lleol.
Ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau ynghylch lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol ar gyfer:
- pobl ifanc ym Mlynyddoedd 11, 12 a 13 (blwyddyn academaidd 2024-25) yn y system ADY, ac
- fis Medi 2025 ymlaen, bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol ar gyfer pob person ifanc.
Nod y newid hwn yw sicrhau bod awdurdodau lleol, sydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniadau hyn, yn gallu cydweithio â phartneriaid amrywiol i ddatblygu a chryfhau darpariaeth addysg bellach ar gyfer pobl ifanc ag ADY.
Ceir rhagor o fanylion am sut mae addysg yn newid a chymorth ar gyfer ADY yn mae addysg yn newid: anghenion dysgu ychwanegol ( Addyg Cymru).
Ni fydd pobl ifanc ym Mlwyddyn 14 ac uwch (blwyddyn academaidd 2024 i 2025) yn symud i'r system ADY tan 1 Medi 2025. Bydd Gyrfa Cymru yn parhau i gynnal asesiadau adran 140 ar gyfer y bobl ifanc hynny sy'n derbyn datganiad AAA ac yn eu blwyddyn olaf o addysg. Os bydd darpariaeth addysg bellach arbenigol yn cael ei nodi fel rhan o ganlyniad yr asesiad, bydd Gyrfa Cymru hefyd yn parhau i gyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru benderfynu arnynt.
- Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r broses a'r amserlenni ar gyfer derbyn y canlynol:
- ceisiadau ar gyfer pobl ifanc ym Mlwyddyn 14 ac uwch ar gyfer lleoliad mewn darpariaeth addysg bellach arbenigol sy'n dechrau o fis Medi 2025
- ceisiadau eraill mewn perthynas â lleoliadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru hyd at ddiwedd Awst 2025, a
- ceisiadau eraill mewn perthynas â lleoliadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru o fis Medi 2025
Rhan 1: Y broses ar gyfer gwneud penderfyniadau hyd at 31 Awst 2025
Yn ystod y flwyddyn olaf o weithredu'r diwygiadau ADY, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gyfrifol am y penderfyniadau ar y canlynol:
- cais i gynnal neu ddiweddaru asesiad adran 140
- cais am gyllid ar gyfer darpariaeth addysg bellach arbenigol
- cais i ariannu estyniad i raglen astudio y cytunwyd arni
- cais am newid/newidiadau i raglen astudio y cytunwyd arni (mewn lleoliadau y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru)
- apeliadau
Mae penderfyniadau sy'n codi o bwyntiau 1-4 i gyd yn ddarostyngedig i'r broses apelio fel y nodir yn y Sicrhau addysg ôl-16 i bobl ag anawsterau dysgu: canllawiau i sefydliadau addysg bellach arbenigol tudalen.
Er mai hon fydd y flwyddyn olaf y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniadau hyn, ni fydd y ffordd y caiff y penderfyniadau eu hystyried yn newid. Ceir rhagor o wybodaeth am sut rydym yn gwneud y penderfyniadau hyn yn y Cyllido addysg bellach a darpariaeth arbenigol ar gyfer dysgwyr 16 i 25 oed a'r Canllawiau Technegol ar gyfer Gyrfa Cymru. Ein nod yw gwneud pob penderfyniad erbyn 31 Awst 2025. Mae'r wybodaeth ganlynol yn nodi sut y byddwn yn mynd ati i gyflawni hyn.
1. Cais i gynnal neu ddiweddaru asesiad adran 140
Dyddiad cau: 30 Ebrill 2025
Dylai Gyrfa Cymru, fel rhan o'u hymgysylltiad â pherson ifanc a (neu) riant neu gofalwr, fod yn ymwybodol o'r amserlenni wrth ystyried cyflwyno cais i gynnal neu ddiweddaru asesiad adran 140. Dylid ystyried hyn ochr yn ochr â'r amser y byddai'n ei gymryd i gynnal yr asesiad adran 140. Gall hyn hefyd gynnwys yr angen i gyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am ddarpariaeth addysg bellach arbenigol.
Felly, dylid cyflwyno pob cais i Lywodraeth Cymru erbyn 30 Ebrill 2025 er mwyn caniatáu digon o amser, os rhoddir cydsyniad, i'r asesiad adran 140 gael ei gynnal. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cydsynio i asesiad adran 140 ac, am ba reswm bynnag, ni all Gyrfa Cymru gwblhau'r asesiad adran 140 erbyn diwedd mis Awst, yna bydd Gyrfa Cymru yn helpu’r person ifanc a (neu'r) rhiant neu gofalwr i wneud atgyfeiriad i'r awdurdod lleol ar gyfer ystyried addysg bellach barhaus o dan y system ADY.
Os derbynnir cais ar ôl 30 Ebrill 2025, bydd Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Gyrfa Cymru, yn ystyried dichonoldeb cwblhau'r broses gyfan yn llwyddiannus cyn diwedd Awst 2025. Os ystyrir na ellir cwblhau'r broses yn rhesymol erbyn diwedd mis Awst, bydd Gyrfa Cymru yn helpu’r person ifanc a (neu'r) rhiant neu gofalwr i wneud atgyfeiriad i’r awdurdod lleol.
Ar ôl 1 Medi 2025 yr awdurdod lleol fydd y corff priodol i ystyried darpariaeth addysg bellach arbenigol ac ni fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ceisiadau am gyllid ar ôl y dyddiad hwn. Yn unol â hynny, os cwblheir asesiad adran 140 ar ôl 31 Awst 2025, ni fydd unrhyw gyfranogiad pellach gan Lywodraeth Cymru yn y broses. Fodd bynnag, efallai y bydd y person ifanc a (neu'r) rhiant neu gofalwr yn dymuno rhannu unrhyw wybodaeth berthnasol gyda'r awdurdod lleol er mwyn ystyried darpariaeth barhaus o dan y Ddeddf ADY.
2. Cais am gyllid ar gyfer darpariaeth addysg bellach arbenigol
Dyddiadau cau:
- Y dyddiad cau ar gyfer dechrau lleoliadau ym mis Ebrill 2025 yw 31 Ionawr 2025
- Y dyddiad cau ar gyfer dechrau lleoliadau ym mis Medi 2025 yw 30 Ebrill 2025
Y dyddiad cau ar gyfer dechrau lleoliadau ym mis Ionawr 2026 (Mae hyn ond yn berthnasol i geisiadau a dderbynnir erbyn 30 Mehefin 2025. Dylid nodi y gallai awdurdodau lleol hefyd fod yn gyfrifol am ystyried lleoliadau arbenigol ar gyfer Ionawr 2026.) yw 30 Mehefin 2025
(noder fod y dyddiad cau ar gyfer Ionawr 2026 wedi’i ddwyn ymlaen er mwyn caniatáu digon o amser i Lywodraeth Cymru ystyried y ceisiadau cyn 31 Awst 2025).
Ar gyfer ceisiadau y mae angen penderfynu yn eu cylch erbyn diwedd Awst 2025, rydym yn annog pob parti sy'n ymwneud â'r broses asesu a gwneud cais adran 140 i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei darparu i Gyrfa Cymru mewn modd amserol, gyda'r nod o gyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol erbyn 31 Mawrth 2025 a heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill 2025, i sicrhau y gellir gwneud penderfyniadau erbyn diwedd Awst 2025. Gall cyflwyno ceisiadau yn gynnar osgoi oedi posibl wrth wneud penderfyniad.
Rydym yn cydnabod y gallai cyflwyno dyddiad cau cynharach ar gyfer dechrau lleoliadau ym mis Ionawr 2026 olygu nad fydd modd i nifer fach o geisiadau gael eu cyflwyno erbyn 30 Mehefin 2025. Yn yr achosion hyn, rydym yn annog Gyrfa Cymru i roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu cytuno ar ffordd ymlaen. Rhan o'r ystyriaeth fydd a fyddai’n fwy priodol i'r awdurdod lleol ystyried y cais o 1 Medi 2025. Os bydd cais yn cael ei gyflwyno ar ôl 30 Mehefin 2025, gweler yr adran isod ar 'benderfyniadau sy'n weddill'.
3. Cais i ariannu estyniad i raglen astudio y cytunwyd arni
Dyddiadau cau:
- Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i estyn lleoliadau a fydd yn dod i ben ar neu cyn Gorffennaf 2025 yw 30 Ebrill 2025.
Bydd Llywodraeth Cymru ond yn ystyried ceisiadau am estyniad i gwblhau rhaglen astudio y cytunwyd arni sy'n dod i ben ar ddiwedd Gorffennaf 2025 neu cyn hynny. Er mwyn caniatáu digon o amser i'r cais gael ei ystyried, rydym yn gofyn i geisiadau gael eu gwneud erbyn y dyddiad a nodir uchod. Ein nod yw gwneud penderfyniadau amserol ar y ceisiadau hyn. Ceir rhagor o wybodaeth yn y Sicrhau addysg ôl-16 i bobl ag anawsterau dysgu: canllawiau i sefydliadau addysg bellach arbenigol.
Dylai cais am estyniad i gwblhau rhaglen astudio y cytunwyd arni sy'n dod i ben ar ôl mis Hydref 2025 gael ei wneud i awdurdod lleol y person ifanc. Rydym yn eich annog i ddechrau eich trafodaethau gyda'r awdurdod lleol cyn gynted â phosibl.
4. Cais am newid/newidiadau i raglen astudio y cytunwyd arni: lleoliadau y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried ceisiadau am newidiadau i'r rhaglen astudio gan gynnwys ar ôl 1 Medi 2025 tan ddiwedd y rhaglen. Nid yw hyn yn berthnasol i geisiadau i estyn y cyfnod astudio y tu hwnt i'r dyddiad gorffen cytûn os yw'r dyddiad gorffen ar ôl 1 Medi 2025. Ceir rhagor o wybodaeth am y mathau hyn o geisiadau yn y Sicrhau addysg ôl-16 i bobl ag anawsterau dysgu: canllawiau i sefydliadau addysg bellach arbenigol.
5. Apeliadau
Fodd bynnag, pan fo person ifanc a (neu) ei riant neu gofalwr o'r farn nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad rhesymol yn unol â’r polisi hwn a (neu’r) gyfraith, gallant apelio i Lywodraeth Cymru i adolygu'r penderfyniad a wnaed. Mae hyn yn parhau i fod yn berthnasol i'r holl benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru (cyfeirir ato yn 2 a 4 uchod). Gellir dod o hyd i'r polisi sy'n nodi'r amserlenni ar gyfer cyflwyno apêl Sicrhau addysg ôl-16 i bobl ag anawsterau dysgu: canllawiau i sefydliadau addysg bellach arbenigol tudalen.
Penderfyniadau sy'n weddill ar 31 Awst 2025
Er mai ein nod yw prosesu a phenderfynu ar yr holl geisiadau a dderbynnir yn llawn erbyn y terfynau amser uchod, rydym yn cydnabod ei bod yn bosibl na fydd Llywodraeth Cymru yn gallu darparu penderfyniad erbyn 31 Awst 2025 mewn nifer fach o achosion (y cyfeirir atynt yn 2 i 4 uchod). Yn yr achosion hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn cwblhau'r broses benderfynu ar gyfer y ceisiadau hynny a ddaw i law erbyn y dyddiad cau cysylltiedig ac unrhyw apeliadau canlyniadol.
Os bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn cais ar ôl y dyddiad cau perthnasol, byddwn yn cwblhau'r broses benderfynu, fel y nodwyd uchod. Fodd bynnag, os bydd person ifanc a (neu) riant neu gofalwr hefyd yn dymuno gwneud atgyfeiriad i’r awdurdod lleol i'r ddarpariaeth gael ei ystyried o dan y Ddeddf ADY, dylid nodi y bydd cyfranogiad Llywodraeth Cymru yn y broses benderfynu yn dod i ben.
Rhan 2: Y broses ar gyfer gwneud penderfyniadau o 1 Medi 2025
Lleoliadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru
Bydd unrhyw gyllid ar gyfer lleoliadau y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru cyn diwedd blwyddyn academaidd 2024 i 2025 yn parhau i fod ar gael i bobl ifanc nes iddynt gwblhau eu rhaglen astudio. Mae hyn hefyd yn berthnasol i'r penderfyniadau hynny a wneir o dan y trefniant pontio.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried ceisiadau am newidiadau i'r rhaglen astudio y cytunwyd arni (ond nid ceisiadau i estyn y cyfnod astudio sy'n newid dyddiad gorffen y rhaglen) tan ddiwedd y rhaglen astudio.
Ceisiadau newydd a lleoliadau presennol a ariennir gan awdurdodau lleol
Dylid cysylltu ag awdurdod lleol y person ifanc ar gyfer y mathau canlynol o geisiadau:
- Cais newydd i ariannu darpariaeth addysg bellach arbenigol.
- Cais i estyn rhaglen astudio y tu hwnt i'r dyddiad gorffen y cytunwyd arno (p'un a yw'r lleoliad yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru neu’r awdurdod lleol).
- Cais am raglen astudio ychwanegol ar gyfer person ifanc sydd eisoes yn cael mynediad at ddarpariaeth addysg bellach arbenigol.
- Newidiadau i leoliad sy'n cael ei ariannu gan awdurdod lleol ar hyn o bryd.
Ymholiadau
Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y canllawiau hyn i: