Neidio i'r prif gynnwy

Rydym bellach wedi cychwyn ar y cyfnod fector isel tymhorol ar gyfer y tafod glas (SVLP).

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Daw hyn yn dilyn cyngor gan arbenigwyr yn y Pirbright Institute, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a'r Swyddfa Dywydd.  Mae'r risg o heintiau newydd a throsglwyddo'r tafod glas ymlaen oherwydd gweithgaredd fector bellach yn isel iawn. Mae hyn oherwydd tymereddau is a'r ffaith bod gwybed yn llai gweithgar.

Mae'r Cyfnod Fector Isel Tymhorol ar gyfer y Tafod Glas yn rhoi cyfle byr i symud da byw o'r parth dan gyfyngiadau yn Lloegr i Gymru neu yr Alban i fyw. Mae hyn yn destun yr amodau canlynol. 

Er mwyn symud da byw allan o’r parth dan gyfyngiadau yn Lloegr, bydd angen i geidwaid:

  • Wneud cais am drwydded benodol o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn symud anifeiliaid a cyn i chi ofyn am brofion. Gwneud cais i symud anifeiliaid o fewn parthau tafod glas, i mewn iddynt ac allan ohonynt - GOV.UK.
  • Cael prawf cyn symud Tafod Glas dilys cyn y gellir symud yr anifail. Dylai milfeddyg samplu'r anifeiliaid ddim mwy na 21 diwrnod cyn y symud - mae hyn yn caniatáu amser i gael canlyniadau'r profion.
  • Os ceir canlyniad prawf cyn symud negyddol, symudwch yr anifeiliaid o fewn 21 diwrnod i'r prawf cychwynnol, yn unol â gofynion y drwydded.
  • Sylwch: ni all unrhyw anifeiliaid sy'n profi'n bositif am y Tafod Glas yn y prawf cyn symud, symud allan o'r parth dan gyfyngiadau yn Lloegr i fyw yng Nghymru.
  • Rhaid symud anifeiliaid o fewn y cyfnod amser a bennir yn amodau'r drwydded. Dylech gysylltu ag APHA os na allwch symud o fewn y cyfnod hwn.
  • Noder:  Bellach, nid oes angen profi anifeiliaid ar ôl eu symud i fyw allan o'r parth dan gyfyngiadau yn Lloegr ledled Prydain Fawr yn ystod y Cyfnod Fector Isel Tymhorol.

Rhaid i'r symudiad ddigwydd o fewn 21 diwrnod i gymryd y sampl yn ystod y cyfnod fector isel tymhorol. Wrth i ni agosáu at yr amser pan fydd gwybed yn dod yn fwy gweithgar, byddwn yn adolygu dilysrwydd 21 diwrnod y prawf. Mae'n bosibl y byddwn yn lleihau'r amser a ganiateir rhwng samplu a symud. 

Mae profion cyn symud ar gael am ddim ar gyfer daliadau o fewn y parth dan gyfyngiadau yn Lloegr o: Y Tafod Glas: cael profion am ddim ar gyfer eich anifeiliaid - GOV.UK. 

Os bydd y fam yn profi'n negyddol ar gyfer y Tafod Glas, rydym yn caniatáu i epil a anwyd ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2024 deithio ar droed heb brofion cyn symud. Ni ddylai'r un anifail fod yn dangos arwyddion clinigol ar adeg samplu neu symud. Gall yr anifeiliaid hyn symud o'r parth dan gyfyngiadau i Gymru, Lloegr neu'r Alban. Dim ond yn ystod y cyfnod SVLP y caniateir hyn.

Gellir cael mynediad at geisiadau am drwydded symud allan o'r parth dan gyfyngiadau yn Lloegr yma: Trwyddedau Symud y Tafod Glas a lladd-dai dynodedig - GOV.UK.

Bydd trwydded symud yn caniatáu symud anifeiliaid:

  • yn uniongyrchol i safle cyrchfan yn y DU
  • yn uniongyrchol i farchnad o fewn y parth yn Lloegr neu’n uniongyrchol i farchnad yn y DU, i'w gwerthu ac i'w cludo yn uniongyrchol ymlaen i safle cyrchfan yn y DU
  • yn uniongyrchol i sioe yn y DU

Mae'r gofyniad i ladd-dai gael eu dynodi i dderbyn anifeiliaid o'r parth dan gyfyngiadau yn Lloegr hefyd yn cael ei ddileu.

Ar hyn o bryd nid oes angen defnyddio pryfleiddiaid mewn trafnidiaeth, mewn marchnadoedd cymeradwy na lladd-dai dynodedig.

Cynghorir ceidwaid anifeiliaid i gynllunio ymlaen llaw wrth ystyried yr amser gorau i symud anifeiliaid o'r parth dan gyfyngiadau yn Lloegr i Gymru. Dylent sicrhau bod cyfleusterau trin anifeiliaid ar gael ar gyfer samplu.  Disgwylir i nifer uchel o brofion cyn symud ddigwydd yn ystod y Cyfnod Fector Isel Tymhorol presennol ar gyfer y Tafod Glas. Gall yr amser a gymerir i gael canlyniadau'r prawf hwn amrywio. Gallai hyn arwain at fwy o amser cyn cael canlyniadau'r profion. 

Dylech ystyried dyddiadau wyna a lloia tebygol er mwyn sicrhau y gellir profi anifeiliaid a'u symud yn ôl i'w daliad gwreiddiol yn ddiogel.

Mae'r Cyfnod Fector Isel Tymhorol cyfredol ar gyfer y Tafod Glas yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys tymheredd. O ganlyniad, gall rheoliadau symud newid ar fyr rybudd. Pan ddaw'r cyfnod fector isel hwn i ben, mae'n debygol y bydd cyfyngiadau ar symud anifeiliaid o'r parth dan gyfyngiadau yn cael eu hailosod yn unol â'r polisi blaenorol. 

Rydym yn monitro gweithgaredd gwybed ac amodau tywydd i benderfynu pryd y dylai'r cyfnod fector isel tymhorol ddod i ben Ar hyn o bryd rydym yn disgwyl adolygu'r cyfnod fector isel tymhorol ar gyfer y Tafod Glas ar 1 Mawrth 2025.