Neidio i'r prif gynnwy

Safle GE Aviation Wales fydd prif gyfleuster cynnal a chadw ac atgyweirio cwmni GE ar gyfer injan jet fwyaf y byd, a’r fwyaf effeithlon - y GE9X - diolch i becyn cymorth gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cyfarfod y Prif Weinidog gyda swyddogion GE yn Washington DC. Mae’n golygu £20m o fuddsoddiad gan GE, gan gynnwys £5m gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y gwaith ar y GE9X yn helpu i gynnal dros 400 o swyddi yn GE Aviation Wales. Daw’r newyddion hwn ar ben gweithgarwch recriwtio’r safle yn 2016/2017 i gefnogi’r twf sy’n deillio o’i raglenni presennol.

Bydd y cyfleuster newydd yn darparu arweiniad a chefnogaeth dechnegol i bartneriaid GE9X ar draws y byd, ac yn golygu bod Cymru ar flaen y gad gyda’r dechnoleg orau, ddiweddaraf yn y maes.

Croesawodd y Prif Weinidog y newyddion y bydd y cyfleuster yn Nantgarw yn arwain rhaglen baratoi fyd-eang ‘Entry into Service’ y cwmni. Dywedodd bod hyn wedi helpu cryn dipyn i sicrhau dyfodol cyfleuster Nantgarw ar gyfer y genhedlaeth nesaf ac i wneud yn siŵr bod y safle’n un blaenllaw yn y defnydd o dechnoleg bwysig.

Dywedodd:

“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r buddsoddiad sylweddol hwn yn un o’n prif ddiwydiannau. GE Aviation Wales yw un o’r prif gwmnïau cynnal a chadw injans awyrennau yn y byd ac mae’r cyhoeddiad hwn heddiw yn sicrhau y bydd ei safle fel canolfan ragoriaeth y byd ar gyfer peiriannau jet llydan yn ddiogel. Bydd hefyd bellach yn cynnwys injan ddiweddaraf GE sef GE9X.

“Fel un o’n cwmnïau angori, mae GE Aviation yn bwysig iawn i economi Cymru gyda’i enw da rhyngwladol, ei allu a’i brofiad helaeth. Mae’n newyddion da tu hwnt y bydd y buddsoddiad hwn yn cryfhau ei gynaliadwyedd yn y tymor hir, yn gwarchod maint y cyfleuster ac yn sicrhau ei fod yn gallu parhau i fod yn gystadleuol.

“Mae’r cyfleuster hwn i gynnal a chadw awyrennau wedi bod yn Nantgarw ers 77 o flynyddoedd. Yn ddiweddar iawn dathlodd y safle chwarter canrif o weithredu dan berchnogaeth GE, felly mae’n newyddion gwych y bydd y prosiect hwn yn sicrhau bod GE Aviation yn parhau i fod ar flaen y gad yn y sector cynnal a chadw ac atgyweirio injans am nifer o flynyddoedd i ddod.”

Ychwanegodd y Prif Weinidog iddo gael trafodaethau pan oedd yn yr Unol Daleithiau y llynedd ynghylch dewis GE Aviation Wales fel arweinydd technegol byd-eang ar y GE9X, yn ogystal â chyfleoedd newydd i recriwtio.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr GE Aviation Wales La-Chun Lindsay:

“Mae heddiw’n ddiwrnod gwych i Gymru ac yn arbennig felly i’n cymunedau yn y Cymoedd. Ry’n ni wedi llwyddo am ein bod wedi gweithio fel tîm i ddatrys y problemau a’r heriau mwyaf oedd yn wynebu’r safle. Y flaenoriaeth nawr yw sicrhau bod y safle’n cynnal ei brisiau cystadleuol ac yn parhau i wella’r ddarpariaeth i gwsmeriaid wrth atgyweirio injans a thrwsio cydrannau. Dw i eisiau i’n cwsmeriaid i gyd glywed y newyddion gwych hwn ac ymfalchïo os bydd eu hinjan GE9X yn cael ei hanfon i GE Aviation Cymru i gael gwasanaeth.

“Ry’n ni wedi elwa ar berthynas dda gyda Llywodraeth Cymru ers blynyddoedd maith ac roedd eu cynnig i roi grant yn hollbwysig wrth sicrhau mai Cymru fyddai’r safle cynnal a chadw ac atgyweirio ac arweinydd technegol y GE9X. Mae ein partneriaid yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol iawn dros y blynyddoedd, ac rydyn ni wedi gweithio gyda’n gilydd i ennill y GE9X.

“Daw dros 85% o’n gweithwyr o’r ardal felly mae ein gwreiddiau’n gadarn yn y gymuned leol. Dw i mor falch bod ein llwyddiant i ddenu’r GE9X yn golygu y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn cael cyfle i wireddu eu breuddwydion o weithio i GE Aviation Wales a pharhau i fanteisio ar y cyfleoedd gwych sydd wedi bodoli drwy gydol hanes balch ein safle.”

Dewiswyd GE Aviation Wales ar sail ei gyfoeth o arbenigedd technegol a’i enw da am welliant parhaus. Drwy ganolbwyntio ar gynyddu defnydd a chynhyrchiant, er gwaethaf ei seilwaith 77 oed, mae GE Aviation Wales bellach yn gystadleuol o ran costau o gymharu â nifer o safleoedd atgyweirio newydd sbon. O barhau i ganolbwyntio ar gynyddu defnydd a chyflawni, rhagwelir y bydd y safle’n tyfu ac y bydd modd recriwtio mwy o bobl.