Mae adroddiad annibynnol yn galw ar i Lywodraeth Cymru ymrwymo i raglen 30 mlynedd i leihau'r allyriadau carbon sy'n dod o'n cartrefi. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Dyna un yn unig o'r argymhellion yn yr adroddiad sy'n cydnabod yr heriau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol sydd ynghlwm wrth wneud cartrefi'n wyrddach ac i ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon.

Cafodd yr adroddiad 'Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell' ei gomisiynu llynedd gan Weinidogion Cymru a'i ysgrifennu gan Grŵp Cynghori annibynnol ar Ddatgarboneiddio Cartrefi yng Nghymru. 

O dan gadeiryddiaeth Christopher Jofeh, cyn arweinydd ôl-osod adeiladau byd-eang Arup, mae'r Grŵp wedi treulio'r 15 mis diwethaf yn ystyried y dystiolaeth ynghylch sut i greu'r amodau sydd eu hangen i lwyddo. Dyma'r argymhellion a'r camau cysylltiedig: 

  • Dylai pleidiau gwleidyddol yng Nghymru wneud ymrwymiad strategol i ddatgarboneiddio cartrefi'r wlad a chadw ato. 

Dylai Llywodraeth Cymru: 

  • osod targedau ynni uchelgeisiol fel bod cartrefi'n ddi-garbon net erbyn 2050
  • darparu'r system ansawdd a'r mecanweithiau darparu priodol i bob cartref allu taro'r targedau
  • datblygu pecyn holistig o gymorth ar gyfer pob cartref i'w gymell a'i helpu i weithredu
  • casglu data am statws a chyflwr y stoc dai i lywio penderfyniadau'r dyfodol a mesur cynnydd
  • parhau i fonitro a phrofi atebion newydd i helpu i ddatgarboneiddio cartrefi
  • cael cymunedau, rhwydweithiau, cymdeithasau a mudiadau'r trydydd sector i gydweithio i sicrhau'r newidiadau. 

Mae'r Adroddiad yn ei gwneud yn glir bod angen i Lywodraeth Cymru arwain eraill - mudiadau, cymunedau ac unigolion - i wneud eu rhan. 

Wrth gymryd yr adroddiad heddiw mewn digwyddiad yn yr Exchange Hotel yng Nghaerdydd, dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: 

Rwy'n croesawu argymhellion y Grŵp Cynghori a hoffwn ddiolch i Chris a holl aelodau'r Grŵp am eu harbenigedd a'u dirnadaeth.

Nid ar chwarae bach y gwnawn ein cartrefi'n wyrddach a defnyddio ynni'n fwy effeithlon, yn enwedig o gofio mai yng Nghymru y mae rhai o'r tai hynaf a lleiaf thermo-effeithlon yn y DU ac Ewrop.

Ond daw â chyfleoedd anferth - biliau tanwydd is, ansawdd aer gwell, cartrefi mwy cyfforddus, iechyd gwell, swyddi newydd a sgiliau. Mae angen inni fod yn uchelgeisiol a chreadigol i weld y newid sydd ei angen.

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Mae'n argyfwng hinsawdd. Mae ein Cynllun Gweithredu ar Garbon Isel yn nodi'r camau y bydd angen inni eu cymryd i leihau allyriadau a chefnogi twf yr economi rhad-ar-garbon a'r Adroddiad hwn yw un o'r pethau cyntaf y gwnaethon ni ei addo.

Mae gwneud ein cartrefi'n wyrddach ac yn fwy effeithlon o ran ynni yn gwbl ganolog i hyn ac er bod Llywodraeth Cymru'n barod i dangos arweiniad, rwyf wedi bod yn glir iawn bod yn rhaid i bob un ohonon ni chwarae ein rhan i wneud Cymru'n wlad carbon isel.

Mae'r adroddiad hwn yn dangos maint yr her o'n blaenau ond hefyd y manteision lu i'n cymdeithas, economi a'n hamgylchedd naturiol.

Dywedodd Christopher Jofeh: 

Mae'n bryd nawr i Gymru gymryd yr awenau a dangos sut mae gwneud pethau. Bydd y manteision yn aruthrol ac yn eang, i deuluoedd, i fusnesau ac i Gymru.

Bydd y Gweinidog Tai nawr yn ystyried argymhellion a chamau manwl yr adroddiad ac yn ymateb yn yr Hydref.