Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Trosolwg

Yn ogystal â chynnwys cymysgedd o ddŵr glaw a charthffosiaeth wedi’i wanhau, mae gorlifoedd storm yn cynnwys sbwriel gweladwy sy'n cael ei fflysio i lawr y garthffos neu ei roi mewn draeniau. Gellir gosod sgriniau ar y gorlifoedd storm i leihau faint o sbwriel sy'n cyrraedd y cwrs dŵr.  Mae'r sgriniau hyn fel arfer naill ai'n rhes o fariau neu'n blât gyda thyllau bychain lle mae'r deunydd sy'n setlo arnynt yn cael eu glanhau'n fecanyddol i’w wahanu o’r llif.  Yn ogystal â hyn, bydd y Cwmnïau Dŵr, ynghyd â Llywodraeth Cymru, CNC a CCWater yn parhau i hyrwyddo ymgyrchoedd i addysgu cwsmeriaid am yr hyn y dylid ac na ddylid ei roi yn y system garthffosiaeth.

Diffinnir lefel y sgrinio a osodir ym mhob gorlif storm yn Nhrwydded Amgylcheddol y Cwmnïau Dŵr. Caiff hyn ei bennu gan CNC yn y ddogfen 'Sut i gydymffurfio â'ch trwydded amgylcheddol: Canllawiau ychwanegol ar gyfer: Gollwng Dŵr a Dŵr Daear (o'r tarddle) Trwyddedau Gweithgarwch EPR 7.01'.  Trwyddedau Gollwng Dŵr a Dŵr Daear (o'r tarddle) (EPR 7.01) (cyfoethnaturiol.cymru). Mae hyn yn edrych ar sut y caiff y corff dŵr ei ddefnyddio a sawl gwaith mae’r gorlif storm wedi rhyddhau mewn gwirionedd, ac yn asesu'r math o ddull sy'n addas ar gyfer cyfyngu ar ollwng deunyddiau solid megis weips, cadachau a gwrthrychau mawr. Mae'r canllawiau hyn yn cael eu diwygio gan CNC ar hyn o bryd i ystyried newidiadau mewn safonau dylunio modern a defnydd afonydd.

Yn anffodus, gosodwyd llawer o’r trwyddedau cyn i'r canllawiau fod ar waith.  Felly, mae angen i Gwmnïau Dŵr gynnal rhaglen asesu yn erbyn y canllawiau newydd i ganfod lle nad oes sgrinio ar hyn o bryd neu le mae angen sgrinio, neu os mae sgriniau wedi’u gosod, asesu a yw’n  ddigonol ar gyfer defnydd amwynder modern.  Bydd cwmnïau dŵr yng Nghymru yn gweithio gyda'r rheoleiddiwr amgylcheddol i bennu meini prawf asesu ac yna'n cynnal asesiadau erbyn diwedd mis Gorffennaf 2023. Bydd yr asesiadau hyn yn nodi lle mae angen gosod sgriniau ychwanegol a bydd yn llywio achos cwmnïau dros fuddsoddi mewn AMP8 a rhaglenni buddsoddi dilynol.  Darperir y rhaglenni buddsoddi hyn i'r rheoleiddiwr economaidd Ofwat bob pum mlynedd ac maent yn cael eu herio o ran darpariaeth y gwasanaeth a gynigir a fforddiadwyedd y cynlluniau.

Gallai maint y buddsoddiad hwn fod yn sylweddol. Ceir dros 2400 o orlifoedd storm ledled Cymru, ac fe amcangyfrifir y bydd angen rhyw fath o welliant o ran sgrinio ar hyd at hanner ohonynt. Mae natur wledig cyfran sylweddol o'r rhwydwaith yng Nghymru, yn golygu bod  rhai gorlifoedd storm mewn lleoliadau anghysbell, heb gyflenwad pŵer,  ac felly bydd y rhaglen osod yn gymhleth a bydd angen amser i ddylunio a gosod yn ddiogel.  Bydd targedau fforddiadwy yn cael eu gosod a'u hadolygu fel rhan o'r broses o gynllunio’r buddsoddiad hwnnw.

Gan weithio gyda rheoleiddwyr a Llywodraeth Cymru, bydd disgwyl i Gwmnïau Dŵr nodi a blaenoriaethu camau gweithredu ar yr asedau hynny yr ystyrir bod angen rhoi sylw iddynt ar unwaith, gan ail-flaenoriaethu gwariant y cytunwyd arno eisoes ar gyfer Cynlluniau Busnes AMP7. 

Ein hymrwymiadau

Mae'r camau sy'n cael eu cymryd o fewn y ffrwd waith hon yn cyd-fynd â Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru  2021-26 a’r nodau Llesiant canlynol:

  • Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth i ni wneud y cynnydd mwyaf posibl tuag at ddatgarboneiddio.
  • Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt.
  • Ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
  • Dechrau dynodi dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer hamdden, gan atgyfnerthu’r gwaith o fonitro ansawdd dŵr.
Sefydliad Arweiniol     Gweithred     Pam?   Erbyn Pryd Diweddariad Hydref 2023
Dŵr Cymru Byddwn yn asesu ein trwyddedau yn erbyn ein sylfaen asedau i ddiffinio maint y rhaglen angenrheidiol i ddarparu tystiolaeth ar gyfer pennu targedau. Deall maint y broblem a'r buddsoddiad angenrheidiol i wella lefelau sgrinio ar orlifoedd storm.  Rhagfyr 2023

Cwblhawyd 85% erbyn diwedd Gorffennaf 2023. Bydd 90% yn cael eu cwblhau erbyn diwedd mis Hydref 2023. Mae adroddiad cryno o’r set ddata wedi’i gasglu eisoes. Bydd hyn yn amlinellu ac yn crynhoi'r canlynol:

  1. Pa asedau sydd â gwaith sgrinio trwyddedig gofynnol ar waith ac sy'n bodloni canllawiau 7.01
  2. Pa asedau sydd â'r gwaith sgrinio a ganiateir gofynnol ar waith ond bod y gofyniad hwnnw'n is na safon canllawiau 7.01

Y 10% sy'n weddill i'w cwblhau erbyn Rhagfyr 2023.

Dŵr Cymru Byddwn yn gosod sgriniau ar yr asedau priodol yn unol â safonau dylunio diwygiedig a byddwn yn blaenoriaethu’r gwaith o’u gosod mewn afonydd gyda blaenoriaeth uchel. Er mwyn lleihau effaith weledol ac effeithiau hirdymor eitemau fel cadachau, weips a deunydd tafladwy arall nad yw'n ddiraddiol ar yr amgylchedd.  2040-2050 Gosod 100% o sgriniau erbyn 2050; gyda sgriniau blaenoriaeth uchel wedi'u gosod erbyn 2040.
Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru Byddwn yn gosod targedau ar gyfer gosod sgriniau ar orlifoedd storm yn unol â'r safonau dylunio modern gofynnol. Er mwyn lleihau effaith weledol ac effeithiau hirdymor eitemau fel cadachau, weips a deunydd tafladwy arall nad yw'n ddiraddiol ar yr amgylchedd.  Rhagfyr 2023 I'w gyflawni ar ôl cwblhau'r asesiad o'n trwyddedau yn erbyn ein sylfaen asedau i ddiffinio maint y rhaglen sydd ei hangen i ddarparu tystiolaeth ar gyfer gosod targedau.
Hafren Dyfrdwy Byddwn yn asesu ein trwyddedau yn erbyn ein sylfaen asedau i ddiffinio maint y rhaglen angenrheidiol i ddarparu tystiolaeth ar gyfer pennu targedau. Deall maint y broblem a'r buddsoddiad angenrheidiol i wella lefelau sgrinio ar orlifoedd storm.  Rhagfyr 2023 Mae gennym nifer o ymchwiliadau SOAF ar waith. Hefyd, rydym yn cynnal adolygiad sylfaenol o'n hasedau gorlif storm cyfun i nodi'r rhai sydd eisoes wedi'u sgrinio; unwaith y bydd canllawiau diwygiedig CNC 7.01 wedi'u cymeradwyo, gallwn asesu sgriniau presennol yn erbyn y canllawiau newydd. Bydd asedau heb amodau sgrinio sydd wedi'u cynnwys yn y drwydded yn cael eu hadolygu a'u hasesu gyda CNC i gadarnhau bod angen gosod sgrin.
Hafren Dyfrdwy Byddwn yn sicrhau bod darpariaeth ar gyfer gosod sgriniau yn ystod AMP8 (2025 i 2030) a thu hwnt, yn ôl y  targedau y cytunwyd arnynt. Er mwyn lleihau effaith weledol ac effeithiau hirdymor eitemau fel cadachau, weips a deunydd tafladwy arall nad yw'n ddiraddiol ar yr amgylchedd.  Rhagfyr 2023 Mae gennym sawl ymchwiliad SOAF ar waith. Hefyd, rydym yn cynnal adolygiad sylfaenol o'n hasedau gorlif storm cyfun i nodi'r rhai sydd eisoes wedi'u sgrinio; unwaith y bydd canllawiau diwygiedig CNC 7.01 wedi'u cymeradwyo, gallwn asesu sgriniau presennol yn erbyn y canllawiau newydd. Bydd asedau heb amodau sgrinio wedi'u cynnwys yn y drwydded yn cael eu hadolygu a'u hasesu gyda CNC i gadarnhau bod angen gosod sgrin.
Hafren Dyfrdwy Byddwn yn gosod sgriniau ar yr asedau priodol yn unol â safonau dylunio diwygiedig a byddwn yn blaenoriaethu’r gwaith o’u gosod mewn afonydd gyda blaenoriaeth uchel. Er mwyn lleihau effaith weledol ac effeithiau hirdymor eitemau fel cadachau, weips a deunydd tafladwy arall nad yw'n ddiraddiol ar yr amgylchedd.  2040-2050 Gosod 100% o sgriniau erbyn 2050; gyda sgriniau blaenoriaeth uchel wedi'u gosod erbyn 2040.
Hafren Dyfrdwy a Cyfoeth Naturiol Cymru Byddwn yn gosod targedau ar gyfer gosod sgriniau ar orlifoedd storm yn unol â'r safonau dylunio modern gofynnol. Er mwyn lleihau effaith weledol ac effeithiau hirdymor eitemau fel cadachau, weips a deunydd tafladwy arall nad yw'n ddiraddiol ar yr amgylchedd.  Rhagfyr 2023 Mae ymchwiliadau SOAF yn parhau; bydd canlyniadau'r rhain yn cyfrannu at broses PR24 er mwyn penderfynu anghenion buddsoddi yn y dyfodol ar gyfer sgriniau ar orlifoedd stormydd.
Cyfoeth Naturiol Cymru   Byddwn yn adolygu'r gofynion o ran darparu sgriniau yn y canllawiau "sut i gydymffurfio â'ch trwydded amgylcheddol" a nodir uchod. Sicrhau bod y safonau sy'n ofynnol gan gwmnïau dŵr yn seiliedig ar safonau dylunio modern a thystiolaeth gadarn Hydref 2023 Mae canllawiau wedi'u llunio ac yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2023. 
Tasglu Bydd targedau a rhaglenni Buddsoddi mewn Cwmnïau Dŵr yn cael eu hadolygu ar gylch 5 mlynedd, fel rhan o'r broses gynllunio ar gyfer buddsoddi. Sicrhau cydbwysedd fforddiadwy o ran blaenoriaethau buddsoddi. Ebrill 2025  
Dŵr Cymru Byddwn yn sicrhau bod darpariaeth ar gyfer gosod sgriniau yn ystod AMP8 (2025 i 2030) a thu hwnt, yn ôl y  targedau y cytunwyd arnynt. Er mwyn lleihau effaith weledol ac effeithiau hirdymor eitemau fel cadachau, weips a deunydd tafladwy arall nad yw'n ddiraddiol ar yr amgylchedd.  Cwblhawyd Byddwn ni'n uwchraddio sgrinio’r holl orlifoedd storm cyfun rydyn ni'n eu gwella o dan Ansawdd Dŵr i gyd-fynd â’r canllawiau os oes angen.