Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor, arweiniad, a gweminarau i helpu i liniaru prisiau cynyddol bwyd anifeiliaid, tanwydd a gwrtaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Rydym yn ymwybodol o'r effaith y mae costau cynyddol yn ei chael ar gynhyrchwyr amaethyddol. Yn benodol, pris:

  • tanwydd
  • bwyd anifeiliaid
  • gwrtaith

Rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos drwy Grŵp Monitro Marchnad Amaethyddiaeth y DU (ar gov.uk).

Mae'r wybodaeth ganlynol yn cynnwys cyngor, arweiniad a gweminarau i helpu i liniaru prisiau uchel. Mae hyn yn cynnwys:

Llif arian parod - taliadau BPS ymlaen llaw

Byddwn yn darparu taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ymlaen llaw eto eleni. Bydd hyn yn helpu gyda sicrwydd llif arian. Bydd ein cefnogaeth yn parhau i'ch helpu, gan gynnwys:

  • in hymrwymiad i barhau â Chynllun y Taliad Sylfaenol heb ei newid yn 2023 
  • ymestyn contractau Glastir tan ddiwedd 2023

Cynlluniau trosiannol

Ym mis Ebrill y llynedd, cyhoeddwyd pecyn cymorth gennym ar gyfer:

  • ffermwyr
  • coedwigwyr
  • rheolwyr tir
  • busnesau bwyd

Mae hyn yn werth dros £227 miliwn dros y tair blynedd ariannol nesaf. Bydd y cynlluniau hyn yn cefnogi gwydnwch yr economi wledig.

Tyfu dros yr Amgylchedd 

Cymorth i liniaru rhywfaint o effaith cynyddol costau gwrtaith. Mae'n cynnig cyfle i:

  • pori cnydau gorchudd yn y gwanwyn, a/neu
  • defnyddio'r cnwd gorchudd fel tail gwyrdd yn y gwanwyn i'w ddefnyddio gan y cnwd canlynol

Bydd ffenest ymgeisio i gnydau hydref ar agor tan 14 Gorffennaf. Ar 2 Hydref, bydd ffenest ymgeisio agor i gnydau gwanwyn, a chau ar 10 Tachwedd.

Mae'r grant hwn yn cefnogi i dyfu cnydau sy'n darparu manteision:

  • amgylcheddol
  • bioamrywiaeth a
  • chynhyrchu

Mae'r rhain yn cynnwys cnydau protein, gwndwn cymysg (a elwir hefyd yn gwndwn llysieuol) a chnydau gorchudd.

Mae’r cymorth yn hwyluso gwaith gwella'r amgylchedd a lleddfu costau mewnbwn cynyddol drwy dyfu mwy o borthiant cartref.

Cymorth i'r sector garddwriaethol 

Gyda sector garddwriaeth bywiog, ein nod yw datblygu diwydiant amaethyddol cynaliadwy.

Mae'n darparu amrywiaeth o fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Trwy dyfu mwy o gynnyrch garddwriaethol, gall pobl gael gafael ar gynnyrch lleol ffres ac iach.

Mae dau gynllun ategol ar gael:

Yn cefnogi newydd-ddyfodiaid i sector garddwriaeth Cymru. Agorodd y ffenestr Datganiad o Ddiddordeb diwethaf ar 11 Ebrill 2023 a gwnaeth gau ar 20 Mai 2023.

Grantiau i dyfwyr garddwriaeth masnachol presennol fuddsoddi mewn technoleg ac offer newydd. Bydd y cyfnod ymgeisio nesaf ar agor rhwng 4 Ebrill a 10 Tachwedd.

Bwyd Anifeiliaid

Gwrtaith

Rydym yn gweithio gyda:

  • rhanddeiliaid
  • Llywodraeth y DU
  • llywodraethau datganoledig

i olrhain pris gwrtaith.

Bydd hyn yn ein helpu i ystyried unrhyw gamau lliniaru y gallem eu cymryd.

Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB)

Mae gwybodaeth a chanllawiau ar gael fel a ganlyn: 

Cyswllt Ffermio

Cymorth pellach

Galla:

Mae Farmwell Cymru yn ganolfan wybodaeth ar-lein. Gallwch gael cyngor ar wydnwch personol a busnes i chi a'ch teulu. 

Cytundebau Glastir

Rydym yn ymwybodol o’r anawsterau y mae llawer o ffermwyr yn eu hwynebu oherwydd costau cynyddol ac mae RPW yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos.

Os oes angen i ffermwyr wneud newidiadau i arferion rheoli a allai effeithio ar eu gallu i gyflawni ymrwymiadau Glastir, dylent gysylltu ag RPW ar unwaith i ofyn am randdirymiad.

Rhoddir ystyriaeth lawn i bob cais fesul achos. Gall taliadau blynyddol gael eu heffeithio lle na ellir cyflawni gofynion contract. Dylid darparu manylion yr opsiwn Glastir a rhif(au) y cae, ynghyd â chymaint o wybodaeth â phosibl am yr amgylchiadau a arweiniodd at y cais.

Yn dibynnu ar y mater, efallai y gofynnir am dystiolaeth ategol hefyd. Rhaid i ffermwyr beidio â gwyro oddi wrth ofynion eu contract Glastir cyn cael cymeradwyaeth gan RPW.