Neidio i'r prif gynnwy

O ddydd Iau Rhagfyr 10fed bydd yr amser y mae’n rhaid i bobl hunan-ynysu yn cael ei leihau o 14 niwrnod i ddeg yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae lleihau y cyfnod hunan-ynysu i ddeng niwrnod yn cael ei gymeradwyo gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, ac mae’n seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ynghylch y tebygolrwydd o fod yn heintus fel cyswllt ar ôl deng niwrnod.  

Yn dilyn y cyngor hwn, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi newid Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

Caiff teithwyr sy’n dychwelyd o wledydd nad ydynt wedi’u heithrio eu gosod dan gwarantin am ddeng niwrnod, yn hytrach na 14, fel rhan o’r newidiadau i’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.

Ar hyn o bryd, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bobl sydd mewn cysylltiad â phobl sydd â’r coronafeirws, a theithwyr sy’n dychwelyd o wledydd nad ydynt wedi’u heithrio, i hunan-ynysu am gyfnod o 14 niwrnod – os nad ydynt yn profi’n bositif wedi hynny, ac yna byddai’n rhaid iddynt huan-ynysu am gyfnod o 10 niwrnod o ddyddiad y prawf positif. 

Bydd y cyngor newydd ar hunan-ynysu a’r cwarantin yn berthnasol i: 

  • bobl sydd wedi derbyn canlyniad positif i brawf COVID-19
  • pobl sydd â symptomau COVID-19 sy’n aros am ganlyniad prawf, neu sydd heb eu profi, ac nad oes yn rhaid iddynt dderbyn triniaeth yn yr ysbyty, sy’n gorfod aros gartref am y cyfnod hunan-ynysu priodol
  • pobl sy’n byw ar aelwydydd gyda rhywun sy’n dangos symptomau allai fod wedi eu hachosi gan COVID-19, neu sydd wedi derbyn canlyniad positif am brawf COVID-19
  • cysylltiadau agos achosion positif o COVID-19
  • Teithwyr sy’n dychwelyd o wlad sydd heb ei heithrio

Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Rydyn ni’n gwybod bod hunan-ynysu yn anodd i bobl, ac rydyn ni’n credu y bydd teuluoedd, cymunedau a busnesau yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw i leihau y cyfnod y mae’n rhaid i bobl hunan-ynys yn ddiogel. 

Mae hunan-ynysu a cwarantin yn chwarae rhan allweddol wrth atal y coronafeirws rhag lledaenu, a dwi am ddiolch i bawb sy’n parhau i ddilyn y rheolau ac yn chwarae eu rhan i Ddiogelu Cymru.