Canllawiau ar leihau arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.
Cynnwys
Trosolwg
Gall arferion cyfyngol ddigwydd mewn llawer o leoedd a lleoliadau. Mae ein fframwaith ar gyfer lleihau arferion cyfyngol yn berthnasol ar draws gwasanaethau sy'n darparu addysg, iechyd a gofal cymdeithasol i blant ac oedolion o bob oed.
Pan fydd arfer cyfyngol yn digwydd i rywun, caiff hyn ei alw yn aml yn ataliaeth.
Mae 8 ffordd wahanol y gellir atal pobl, sef drwy ddefnyddio:
- rheolau cyffredinol
- eich corff
- cyfarpar
- strategaethau cyfathrebu
- cemegion
- normau diwylliannol
- gwyliadwriaeth
- yr amgylchedd
Daw'r rhain yn arferion cyfyngol pan gânt eu defnyddio i wneud i rywun wneud rhywbeth nad ydyn nhw'n dymuno ei wneud, neu atal rhywun rhag gwneud rhywbeth y maen nhw'n dymuno ei wneud.
Gwyliwch ein fideo am leihau’r defnydd o arferion cyfyngol ar gyfer pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol:
Pwrpas y fframwaith
Rydym yn gwybod y gall arferion cyfyngol beri gofid mawr i bobl ac achosi niwed.
Rydym am sicrhau bod pobl sy'n gweithio mewn lleoliadau addysg, iechyd a gofal cymdeithasol yn lleihau'r defnydd o arferion cyfyngol.
Rydym am i bawb sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion weithio mewn ffordd sy'n parchu eu hawliau dynol.
Un ffordd bwysig o leihau arferion cyfyngol yw gwneud cynlluniau ar gyfer gwella llesiant. Mae hyn yn helpu i atal sefyllfaoedd pan fo pobl yn ymddwyn mewn ffordd a allai eu niweidio nhw eu hunain neu eraill.
Cymerwch olwg ar y fframwaith ar gyfer lleihau arferion cyfyngol
Nodi arferion cyfyngol
Esboniwr
Rydym wedi creu esboniwr sy'n helpu i nodi arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.
Poster
Edrychwch ar ein poster sydd:
- yn diffinio arferion cyfyngol
- crynhoi'r prif fathau o arferion cyfyngol
- rhoi cyngor ar bwy y dylid siarad ag ef os ydych chi'n poeni am y defnydd amhriodol o arferion cyfyngol
Animeiddiad
Gwyliwch ein hanimeiddiad newydd rydym wedi'i datblygu i ddangos enghreifftiau o arferion cyfyngol er mwyn eichhelpu chi i ddeall yr hyn ydyn nhw ac i ystyried y defnydd ohonyn nhw yn eich sefydliad chi:
Asesiadau effaith
Ym mis Medi 2021, gwnaethom asesu'r modd y mae'r canllawiau ar leihau arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol yn effeithio ar nifer o feysydd, gan gynnwys hawliau plant.
Cyngor a chymorth
Comisiynydd Plant Cymru
Mae'r tîm cyngor a chymorth hawliau plant yn rhoi cyngor a chymorth yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol. Ei nod yw cynghori a helpu plant a phobl ifanc, neu'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw, os byddan nhw o'r farn eu bod wedi cael eu trin yn annheg.
Ffôn: 01792 765 600
Rhadffôn: 08088 011 000
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Mae'r tîm cyngor a chymorth yn darparu cymorth a chefnogaeth i bobl 60+ oed ac sy'n wynebu trafferthion â gwasanaethau megis iechyd, gofal cymdeithasol, gwasanaethau cymunedol neu wasanaethau tai.
Ffôn: 03442 640 670 neu 029 2044 5030
E-bost: gofyn@comisiynyddph.cymru
Awtistiaeth Cymru
Gwybodaeth ynghylch cysylltu â'r arweinydd awtistiaeth lleol lle'r ydych chi'n byw er mwyn cael gwybodaeth, cyngor ac arweiniad.
C.A.L.L. llinell gymorth iechyd meddwl
Mae'r llinell gymorth yn cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth am faterion iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru.
Rhadffôn: 0800 132 737
Llinell gymorth Dementia Cymru
Mae'r llinell gymorth yn cynnig cymorth i unrhyw un sy'n gofalu am rywun â Dementia yn ogystal ag aelodau eraill o'r teulu neu ffrindiau. Mae'r gwasanaeth hefyd yn helpu ac yn cefnogi pobl sydd wedi cael diagnosis o Ddementia.
Ffôn: 08088 082 235
Llinell gymorth anabledd dysgu Mencap Cymru
Ar gael i bawb yng Nghymru, ni waeth a ydych chi'n berson ag anabledd dysgu, yn aelod o'r teulu neu'n ffrind.
Ffôn: 08088 000 300
Llais
Dyma'r corff cenedlaethol ac annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llais cryfach i bobl Cymru ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n rhoi cyfle i bobl rannu eu barn a'u profiadau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac i sicrhau bod yr adborth yn cael ei ddefnyddio gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddatblygu eich gwasanaethau. Mae hefyd yn cynnig cymorth eiriolaeth i bobl sy'n dymuno gwneud cwyn am y gofal y maen nhw wedi'i gael.
Gwasanaethau Llais yn eich ardal
Ffôn: 029 2023 5558
E-bost: ymholiadau@llaiscymru.org