Daeth yr ymgynghoriad i ben 15 Tachwedd 2022.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r crynodeb o'r ymatebion bellach ar gael ar GOV.UK
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich barn am ddefnyddio cynhyrchion bwyd anifeiliaid i leihau allyriadau methan o dda byw.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Llywodraeth y DU eisiau deall eich barn am ddefnyddio cynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n gallu lleihau allyriadau methan o dda byw. Mae hyn mewn cytundeb gyda llywodraethau datganoledig Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban.
Bydd y cynigion drafft yn ystyried:
- sut y gall ffermwyr a busnesau amaeth gynyddu'r defnydd a wneir o'r dechnoleg hon i gefnogi’r gwaith o gynhyrchu protein mwy cynaliadwy
- cwestiynau ynghylch ymwybyddiaeth a chanfyddiad
- rôl bresennol ychwanegion bwyd anifeiliaid o fewn ein systemau ffermio, a
- rhwystrau posibl a fyddai'n atal y gwaith o gyflwyno cynhyrchion bwyd anifeiliaid sy'n atal methan
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar gov.uk