Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer yr unedau tai a oedd yn wag, y nifer a rentwyd i denantiaid a tenantiaid a oedd ar ei hôl hi gyda'u rhent ar gyfer Ebrill 2022 i Mawrth 2023.

Caiff yr wybodaeth ei defnyddio i asesu i ba raddau y mae landlordiaid cymdeithasol yn rheoli eu stoc yn effeithiol, mesur cyfraddau trosiant ar gyfer tai cymdeithasol; a monitro nifer y tenantiaid tai cymdeithasol sydd mewn dyled ledled Cymru.

Mae'r term tai cymdeithasol yn cyfeirio at unedau tai (gan gynnwys fflatiau un ystafell a lleoedd i welyau) sy'n eiddo i landlordiaid cymdeithasol (awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) ac a gaiff eu gosod ar rent ganddynt. Cafodd y data a ddefnyddir yn y datganiad hwn eu darparu gan y landlordiaid cymdeithasol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Craig Mcleod

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.