Adroddiad sy’n cyflwyno gwybodaeth am nifer yr unedau tai a oedd yn wag, y nifer a rentwyd i denantiaid a tenantiaid a oedd ar ei hôl hi gyda'u rhent ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Llefydd gwag, gosodiadau ac ôl-ddyledion tai cymdeithasol
Gwybodaeth am y gyfres:
Tai gwag
- Roedd y 4,343 o unedau tai cymdeithasol yn wag ar 31 Mawrth 2019, cynnydd o 2% ar y flwyddyn flaenorol.
- Roedd 1.9% o’r stoc tai cymdeithasol yn wag.
- Mae 31% o’r stoc tai cymdeithasol gwag (1,329 uned) wedi bod yn wag am fwy na 6 mis ar y 31 Mawrth 2019.
Gosodiadau
- Cafwyd 21,135 o osodiadau newydd o stoc tai cymdeithasol yn ystod 2018-19, cynnydd o 4% ar y flwyddyn flaenorol. Roedd 61% o'r rhain trwy restrau aros am dai, 22% drwy drosglwyddiadau a chyfnewidiadau a 18% drwy osodiadau blaenoriaeth i deuluoedd digartref.
Ôl-ddyled rhent
- At 31 Mawrth 2019, roedd 77,332 o denantiaethau (34%) mewn ôl-ddyled, cynnydd o 8% ar y flwyddyn flaenorol.
- Roedd tua 2% o’r tenantiaethau wedi bod mewn ôl-ddyled ers 13 wythnos neu ragor.
Adroddiadau

Saesneg yn unig
Llefydd gwag, gosodiadau ac ôl-ddyledion tai cymdeithasol, Ebrill 2018 i Fawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099