Neidio i'r prif gynnwy

Data am nifer yr unedau tai a oedd yn wag, y nifer a rentwyd i denantiaid a tenantiaid a oedd ar ei hôl hi gyda'u rhent Ebrill 2017 i Fawrth 2018.

Prif bwyntiau

  • Yn dilyn lleihad yn 2015-16 a 2016-17, roedd y 4,158 o unedau tai cymdeithasol yn wag ar 31 Mawrth 2018 yn gynnydd o 2% ar y flwyddyn flaenorol ond parhaodd i gynrychioli 1.8% o’r holl stoc tai cymdeithasol.
  • Mae un trydydd o’r stoc tai cymdeithasol gwag (1,360 uned) wedi bod yn wag am fwy na 6 mis ar y 31 Mawrth 2018. Roedd llai nag hanner o’r tai cymdeithasol gwag ar gael i’w osod.
  • Lleihawyd y nifer o osodiadau newydd o stoc tai cymdeithasol gan 9% i 20,564. Roedd y mwyafrif (63%) o'r rhain trwy restrau aros am dai. Roedd 22% pellach drwy drosglwyddiadau a chyfnewidiadau a 16% drwy osodiadau blaenoriaeth i deuluoedd digartref.
  • At 31 Mawrth 2018, roedd 71,839 o denantiaethau mewn ôl-ddyled, yn cyfri am 32% o denantiaethau tai cymdeithasol i gyd. Roedd hyn yn gynyddiad o 1,387 o denantiaethau (2%) ar y 70,452 o denantiaethau mewn ôl-ddyled ar ddiwedd Mawrth 2017.
  • Roedd tua 2% o’r tenantiaethau wedi bod mewn ôl-ddyled ers 13 wythnos neu ragor.

Adroddiadau

Llefydd gwag, gosodiadau ac ôl-ddyledion tai cymdeithasol, Ebrill 2017 i Fawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.