Data am nifer yr unedau tai a oedd yn wag, nifer yr unedau tai a oedd ar osod i denantiaid a nifer y tenantiaid tai cymdeithasol a oedd ar ei hôl hi gyda'u rhent Ebrill 2016 i Mawrth 2017.

Nodyn adolygu

YMae'r datganiad hwn wedi'i ddiwygio ar ôl derbyn ffigurau diwygiedig ar gyfer tenantiaethau tai cymdeithasol mewn ôl-ddyledion ar 31 Mawrth 2017 a blynyddoedd cynharach gan nifer o landlordiaid cymdeithasol.

Pwyntiau allweddol

  • Cynyddodd nifer a chanran y stoc tai cymdeithasol gwag yn ystod 2016-17. Ar 31 Mawrth 2017, roedd 4,057 o unedau tai cymdeithasol yn wag, gostyngiad o 7% o’i gymharu â 2015-16. Roedd hyn yn cynrychioli 1.8% o’r holl stoc tai cymdeithasol o gymharu â 1.9% yn y flwyddyn flaenorol.
  • Cynyddodd nifer y gosodiadau newydd o stoc tai cymdeithasol 3% i 22,836. Roedd y mwyafrif (63%) o'r rhain trwy restrau aros am dai. Roedd 23% pellach drwy drosglwyddiadau a chyfnewidiadau a 15% drwy osodiadau blaenoriaeth i deuluoedd digartref.
  • Fe wnaeth nifer a chanran tenantiaeth tai cymdeithasol a oedd ar ei hôl hi gyda rhent ostwng(r) yn ystod 2016-17. Ar ddiwedd Mawrth 2017, roedd 70,452(r) o denantiaethau ar ei hôl hi gyda rent, yn cyfrif am 31%(r) o’r holl denantiaethau tai cymdeithasol. Roedd tua 2% (r) o denantiaethau ar ei hôl hi gyda rent am 13 wythnos neu’n fwy.

(r) Diwygiedig ar 11 Gorffennaf 2018.

Adroddiadau

Llefydd gwag, gosodiadau ac ôl-ddyledion tai cymdeithasol, Ebrill 2016 i Mawrth 2017 - Diwygiedig
, Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Ffôn: 0300 025 5050

Cyfryngau

Ffôn: 0300 025 8099