Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Metro’n gatalydd ar gyfer gweddnewid economi Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £369 miliwn ar gyfer prosiect y Metro dros y pedair blynedd nesaf i gyflawni ei gweledigaeth ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth newydd, a chyfan gwbl integredig ar gyfer De Cymru; ac mae'n gofyn am £110 miliwn bellach gan y Comisiwn Ewropeaidd. 

Mae’r Prif Weinidog yn cyfarfod â’r Comisiwn i ofyn am sicrwydd y bydd yn parhau i gefnogi'r prosiect ac na fydd y negodiadau arfaethedig ynghylch Brexit yn effeithio arno. 

Dywedodd Carwyn Jones y Prif Weinidog: 

"Heb os nac oni bai mae canlyniad refferendwm yr UE wedi codi pryderon ynghylch darparu ein rhaglenni cyfalaf mawr sy’n cael cyllid gan Ewrop ar hyn o bryd. 

"Rwyf ym Mrwsel heddiw i geisio sicrwydd yn bersonol gan y Comisiwn Ewropeaidd ein bod yn gallu dibynnu ar ei gymorth parhaus ar gyfer prosiect y Metro yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Mae'n hollbwysig inni gynnal y momentwm er mwyn sicrhau cymeradwyaeth cyn i’r DU ymadael â’r UE. 

"Mae’r Metro yn llawer mwy na chynllun trafnidiaeth yn unig - mae'n gatalydd ar gyfer gweddnewid rhagolygon economaidd a chymdeithasol ein gwlad. Mae’r datblygiad uchelgeisiol hwn yn cysylltu pobl a swyddi ar draws De Cymru, gydag amseroedd teithio cyflymach a gwasanaethau amlach. 

"Mae cryn dipyn o waith caled eisoes wedi cael ei wneud i wireddu’r hyn. Mae heddiw yn gyfle i ddangos ein gweledigaeth i’r Comisiwn a sicrhau ei gefnogaeth barhaus." 

Mae trafodaethau’r Prif Weinidog am y Metro yn un o gyfres o gyfarfodydd proffil uchel sydd gan y Prif Weinidog ym Mrwsel heddiw. Bydd hefyd yn cyfarfod â Karmenu Vella, y Comisiynydd dros yr Amgylchedd, Materion Morol a Physgodfeydd, a Gianni Pittella ASE, Llywydd Grŵp y Sosialwyr a’r Democratiaid yn Senedd Ewrop.