Cafodd hyn ei ystyried yn llwyddiant ar sawl lefel, yn arbennig ymgysylltiad a llwyddiant darparwyr yn ennyn ymateb gan 33,406 o ddysgwyr.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Roedd lefel y brwdfrydedd a’r ymateb yn tystio i’r gwaith caled a wnaed ar y ddwy ochr. Yn 2010, cynhaliwyd peilot llawn ac mae hyn wedi bwydo i mewn i’r ffordd y dylai’r strategaeth weithio o hyn ymlaen. Fodd bynnag, mae’n glir bod angen gwneud gwaith pellach i sefydlu dull gweithredu a all gyflawni dau brif amcan strategaeth Llais y Dysgwr:
- darparu cyfres ddata ddibynadwy wedi’i meincnodi ar gyfer Cymru gyfan, y gall yr Adran Addysg, darparwyr ac Estyn ei defnyddio i fesur perfformiad darparwyr; a helpu i wella ansawdd
- darparu gwybodaeth fanwl, amserol ar fformat hwylus ar lefel darparwyr unigol, fel y gellir ei defnyddio i nodi arferion gorau a mynd i’r afael â gwendidau ar lefel cwrs, maes pwnc ac adran
Adroddiadau
Llais y Dysgwr i Gymru dan arweiniad darparwyr, 2010 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 296 KB
PDF
Saesneg yn unig
296 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.