Mae'r Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates, wedi cyhoeddi bod llai o wrthdrawiadau wedi digwydd ar Allt Rhuallt ar yr A55 tua'r gorllewin ers dechrau'r cynllun treialu camerâu cyflymder cyfartalog ym mis Mehefin y llynedd.
Ers gosod y camerâu mae Asiantaeth Cefnffyrdd Canolbarth Cymru wedi cofnodi saith gwrthdrawiad, sy'n bump yn llai na'r nifer a gofnodwyd yn y flwyddyn flaenorol.
Mae Ken Skates yn awyddus i bwysleisio, fodd bynnag, fod gormod o bobl yn goryrru o hyd, a bod bron i 9,700 o fodurwyr wedi cael eu dal gan y camerâu yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Roedd cyflwyno'r camerâu yn rhan o'r ymyriadau cam cyflym ymlaen a bennwyd mewn astudiaeth o gydnerthedd yr A55 ac fe'u gosodwyd yn sgil y ffaith bod yr wybodaeth am gyflymderau gyrru eisoes wedi tynnu sylw at y broblem yn yr ardal.
Cafodd y system ei gosod ar ôl i'r data radar a gasglwyd rhwng 8 Mawrth a 27 Mawrth 2018 ddangos bod 217,642 o gerbydau wedi bod yn teithio ar gyflymder o dros 70mya ar gerbytffordd Allt Rhuallt tua'r gorllewin.
Bydd canlyniadau'r cynllun treialu yn cael eu hadolygu yn awr a bydd argymhellion yn cael eu cyflwyno ynghylch parhad y camerâu cyflymder cyfartalog.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates:
"Rwy'n falch iawn fod llai o wrthdrawiadau wedi digwydd ar ffordd orllewinol yr A55 yn Allt Rhuallt ers cychwyn cyfnod treialu'r camerâu cyflymder cyfartalog. Mae hyn yn tystio i'r ffaith eu bod yn effeithiol a'u bod yn gwella diogelwch ar gyfer modurwyr sy'n teithio ar y rhan hon o'r ffordd.
"Eto i gyd, er bod llai o bobl wedi cael eu dal yn goryrru o'i gymharu â mis Mawrth 2018 mae'n amlwg o hyd fod gormod o bobl yn parhau i beryglu bywydau pobl eraill ac yn cael eu dal yn goryrru. Cefais sioc wrth glywed bod un modurwr wedi cael ei ddal yn teithio ar gyflymder o 128 milltir yr awr.
"Nid yw'r rhan hon o'r A55 yn rhan hawdd i yrru arni yn sgil ei haliniad a graddiant ac mae'r bobl sy'n gyrru ar gyflymder sy'n peryglu bywydau pobl eraill, a'u bywydau eu hunain, yn anghyfrifol iawn. Hoffwn annog pawb i gadw golwg ar eu cyflymder teithio.
"Fy nod yw sicrhau y gall pawb deithio'n ddiogel ar ein ffyrdd. Dyma pam rydym wedi gosod y camerâu hyn. Mae'r camerâu wedi bod yn llwyddiannus hyd yma, ac yn enwedig o ystyried y ffaith bod llai o wrthdrawiadau wedi digwydd. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar ddiwedd y cyfnod treialu o ran a ddylent fod yn gamerâu parhaol.
“Rhaid inni gofio y gallwn ni i gyd gyfrannu at ddiogelwch ein ffyrdd. Mae gan gamerâu cyflymder cyfartalog swyddogaeth bwysig ond yn y pen draw mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i yrru'n briodol ac yn gyfrifol.
Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaethau yn GoSafe:
"Camerâu cyflymder cyfartalog yw'r camerâu mwyaf effeithiol ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â therfynau cyflymder. Nod GoSafe yw gwella diogelwch ar y ffyrdd, gan sicrhau cydymffurfiaeth â therfynau cyflymder: achub bywydau ac nid cymryd eich arian yw ein nod.
Dywedodd Yr Uwcharolygydd Jane Banham o Heddlu Gogledd Cymru:
"Mae camerâu cyflymder cyfartalog ar waith ar draws llawer o'r rhwydwaith trafnidiaeth ac rydym yn gwybod eu bod yn effeithiol. Y prif nod yw lleihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol a sicrhau bod y ffyrdd yn fwy diogel i bawb. Byddwn yn parhau i gefnogi ein cydweithwyr yn GoSafe a gobeithiwn y bydd y camerâu yn parhau i ddylanwadu'n bositif ar ymddygiad gyrwyr a beicwyr, gan greu amgylchedd mwy diogel i holl ddefnyddwyr y ffordd.