Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi amlinellu newidiadau sylweddol i sut y bydd gofal iechyd y GIG a gofal cymdeithasol yn cael eu trefnu yn y dyfodol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cynigion yn cael eu nodi yng nghynllun tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol, sef Cymru Iachach. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau mwy cydgysylltiedig mewn lleoliadau cymunedol, ac ar gael gwared ar lawer o'r hyn sy'n peri rhwystredigaeth i'r rheini sy'n defnyddio'r system neu'n gweithio ynddi. 

Yn y dyfodol, ni fydd pobl yn mynd i ysbyty cyffredinol ond pan fo hynny'n hanfodol. Y bwriad yw creu gwasanaethau gofal gwell yn lleol, drwy gynnig cymorth a thriniaeth ar draws ystod o wasanaethau yn y gymuned. Bydd y newid hwn yn golygu y bydd cleifion sydd wir angen gofal mewn ysbyty yn gallu cael hynny'n gynt. 

Bydd y newidiadau yn dechrau ar unwaith, gyda chymorth Cronfa Drawsnewid gwerth £100 miliwn i helpu i weithredu'r cynllun. Bydd y cyllid yn cael ei dargedu at adnoddau er mwyn cyflymu'r broses, gan gynnwys datblygu gweithgareddau a gwasanaethau atal integredig newydd yn y gymuned. 

Dywedodd Vaughan Gething:

“Eleni rydyn ni'n dathlu pen-blwydd y GIG yn 70 oed. Dyma wasanaeth gwladol a gafodd ei eni yma yng Nghymru. Rydyn ni’n ymfalchïo yn ei holl lwyddiannau ac ym mhob un sy’n gweithio iddo. Fodd bynnag, mae'n amlwg i bawb bod llawer wedi newid yn ystod y 70 mlynedd ddiwethaf. Gan fod disgwyliad oes yn hirach ac oherwydd yr heriau sy'n parhau i'n hwynebu ym maes iechyd y cyhoedd, mae'r gwasanaeth o dan bwysau cynyddol. 

“Mae'r cynllun heddiw yn disgrifio ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol - mae'n edrych ar sut y gallwn addasu i ymateb i heriau'r dyfodol a gweddnewid ein ffordd o ddarparu gwasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwn ni'n gweithredu'r newidiadau hyn, ac ar yr un pryd byddwn ni'n cadw at werthoedd craidd y GIG, gan ddarparu gofal iechyd am ddim i bawb.”


Dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru osod cynllun ar y cyd ar gyfer gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Y nod yw symud oddi wrth ofal iechyd sy'n canolbwyntio ar drin pobl pan fyddant yn mynd yn sâl, at wasanaethau sy’n hybu iechyd ac yn annog pobl i ddilyn ffordd o fyw iach, ac felly byw'n annibynnol cyhyd â phosibl. 

Bydd mwy o ffocws hefyd ar ddarparu gwasanaethau di-dor sydd wedi eu cynllunio i ddarparu gofal sy’n addas ar gyfer yr unigolyn. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng gwasanaethau a darparwyr, er mwyn sicrhau profiad mwy esmwyth i'r claf. Bydd hynny'n golygu y bydd y rheini sydd â'r anghenion mwyaf yn cael eu trin gyntaf, gan ddefnyddio adnoddau yn y ffordd fwyaf effeithiol. 

Mae'r cynllun hefyd yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i fuddsoddi mwy mewn technolegau digidol ac i gefnogi a datblygu'r gweithlu, gan gynnwys gofalwyr a gwirfoddolwyr nad ydynt yn cael eu talu. 

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd:

“Daeth yr Adolygiad Seneddol i'r casgliad ein bod ni ar y trywydd iawn gyda llawer o'r hyn yr ydyn ni'n ei wneud ym maes gofal iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru, ond bod angen gwneud newidiadau i sicrhau gwasanaethau ar gyfer y dyfodol, a sicrhau bod pobl yn parhau i gael y gofal gorau. 

“Heddiw, rydyn ni'n ymateb i'r adolygiad hwnnw. Bydd hwn yn chwyldro sy'n digwydd oddi mewn i'n gwasanaethau iechyd. Rhaid inni symud oddi wrth y syniad mai'r ysbyty ydy'r lle gorau i fod pan fyddwch chi’n sâl. Dydy hynny ddim yn wir bob amser, yn enwedig pan fo amrywiaeth o wasanaethau lleol sy'n golygu ei fod yn ddiogel ichi aros gartref.  

“Dw i'n cydnabod yr her sydd o'n blaenau ac y bydd hyn yn cymryd amser, ond bydd y newidiadau'n dechrau ar unwaith. Erbyn inni ddathlu pen-blwydd y GIG yn 80 oed, dw i'n disgwyl gweld system gryfach gyda mwy o gydgysylltu’n digwydd rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid i’r system fod yn addas ar gyfer darparu gwasanaethau i bobl am genedlaethau i ddod. 

Dywedodd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies:

“Er mwyn ymateb yn effeithiol i anghenion poblogaeth sy'n heneiddio, rhaid inni edrych eto ar ein ffordd o ddarparu gofal cymdeithasol. Dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru lunio cynllun ar y cyd ar gyfer gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae'n cydnabod y rôl holl bwysig y mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn ei chwarae o ran hyrwyddo iechyd da, sicrhau bod pobl yn aros yn annibynnol am yn hirach, a lleihau nifer y derbyniadau i'n hysbytai. Mae'n gwneud synnwyr edrych ar hyn mewn partneriaeth â’r gwasanaethau iechyd, gyda phob rhan o'r system yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau canlyniadau gwell i bawb.”